Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 11:17-46

Ioan 11:17-46 CJW

Pan ddaeth Iesu, efe á ganfu bod Lazarus wedi bod eisioes bedwar diwrnod yn y tomawd. A llawer o’r Iuddewon (gàn fod Bethania yn nghylch pymtheg ystad oddwrth Gaersalem,) á ddaethent at Fartha, a Mair, iddeu cysuro hwy àr farwolaeth eu brawd. Martha, gwedi clywed bod Iesu yn dyfod, á aeth iddei gyfarfod ef; ond Mair á arosodd yn y tŷ. Yna y dywedodd Martha wrth Iesu, Feistr, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd. Ond hyd yn nod yr awr hon, mi á wn, pa bethau bynag á ofynych di gàn Dduw, y dyry Duw i ti. Iesu á ddywedodd wrthi, Cyfodir dy frawd drachefn. Martha á atebodd, Mi á wn y cyfyd efe yn yr adgyfodiad, y dydd diweddaf. Iesu á ddywedodd wrthi, Myfi yw yr adgyfodiad a’r bywyd. Yr hwn sydd yn credu ynof fi, èr iddo farw, á fydd byw; a phwybynag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti yn credu hyn? Hithau á atebodd, Ydwyf, Feistr, yr wyf yn credu mai ti yw y Messia, Mab Duw, yr Hwn sydd yn dyfod i’r byd. Wedi iddi ddywedyd hyn, hi á aeth ac á alwodd Fair ei chwaer o’r neilldu, gàn ddywedyd, Y mae yr Athraw gwedi dyfod, ac y mae yn galw am danat. Pan glybu Mair hyn, hi á gododd yn ebrwydd, ac á aeth ato ef. Ac Iesu ni ddaethai eto i’r pentref, ond yr oedd efe yn y fàn lle y cyfarfuasai Martha ag ef. Yna yr Iuddewon, y rhai oeddynt yn cydgwyno â Mair yn y tŷ, pan welsant iddi godi àr frys, a myned allan, á’i canlynasant hi, gàn ddywedyd, Y mae hi yn myned at y tomawd, i wylo yno. Mair, wedi dyfod i’r fàn lle yr oedd Iesu, a’i weled ef, á syrthiodd wrth ei draed ef, gàn ddywedyd, Feistr, pe buasit ti yma, ni buasai fy mrawd farw. Pan welodd Iesu hi yn wylo, a’r Iuddewon, y rhai á ddaethent gyda hi, yn wylo, efe á ruddfanodd yn ddwys, ac á ymgynhyrfodd, ac á ddywedodd, Pa le y dodasoch chwi ef? Hwythau á atebasant ac á ddywedasant, Feistr, dyred a gwel. Iesu á wylodd. Yr Iuddewon, gàn hyny, á ddywedasant, Gwelwch fel yr oedd efe yn ei garu ef. Eithr rhai o honynt á ddywedasant, Oni allasai yr hwn à roddes olwg i’r dall, beri na buasai farw hwn chwaith? Iesu gàn hyny, gwedi gruddfan drachefn, á ddaeth at y tomawd. Ogof oedd, a’r fynedfa iddi gwedi ei chau i fyny â maen. Iesu á ddywedodd, Symudwch y maen. Martha, chwaer y trengedig, á atebodd, Sỳr, y mae yr arogl erbyn hyn yn annymunol, oherwydd hwn yw y pedwerydd dydd. Iesu á adatebodd, Oni ddywedais i ti, pe credit, y cait ti weled gogoniant Duw? Yna hwy á symudasant y maen. Ac Iesu, gwedi codi ei olwg i fyny, á ddywedodd, O Dad, yr wyf yn diolch i ti, am i ti wrandaw arnaf. Am danaf fi, myfi á wn dy fod yn fy ngwrandaw bob amser; eithr yr wyf yn dywedyd èr mwyn y bobl sydd yn sefyll o’m hamgylch, fel y credont mai tydi à’m hanfonaist i. Gwedi iddo ddywedyd hyn, efe á lefodd â llef uchel, Lazarus, dyred allan! Yr hwn à fuasai farw, á ddaeth allan, yn rwym ei draed a’i ddwylaw âg ysnodeni, a’i wyneb wedi ei rwymo â napcyn. Iesu á ddywedodd wrthynt, Gollyngwch ef yn rydd, a gadewch iddo fyned. Llawer gàn hyny o’r Iuddewon, y rhai á ddaethent at Fair, ac á welsent yr hyn à wnaethai efe, á gredasant ynddo ef. Eithr rhai o honynt á aethant at y Phariseaid, ac á ddywedasant iddynt beth á wnaethai Iesu.