Pan ddaeth efe at Simon Pedr, Pedr á ddywedodd wrtho, Feistr, a wyt ti am olchi fy nhraed i? Iesu á atebodd, Nid wyt ti yn bresennol yn amgyffred yr hyn yr wyf fi yn ei wneuthur; ond ti á gai wybod àr ol hyn. Pedr á adatebodd, Ni chai di olchi fy nhraed i byth. Iesu á atebodd, Oni olchaf di, nis gall fod i ti ràn gyda myfi. Simon Pedr á ddywedodd wrtho, Feistr, nid fy nhraed yn unig; ond fy nwylaw a’m pen hefyd. Iesu á adatebodd, Yr hwn á fu yn ymolchi, ni raid iddo ond golchi ei draed yn unig, gàn fod y ràn arall o’i gorff yn lan. Yr ydych chwi yn lan, ond nid bawb. Canys efe á wyddai pwy á’i bradychai ef; am hyny y dywedodd, Nid ydych chwi bawb yn lan.
Darllen Ioan 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 13:6-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos