NA thralloder eich calon; credwch yn Nuw, a chredwch ynof finnau hefyd. Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfànau. Pe yn amgen, mi á ddywedaswn i chwi. Yr wyf fi yn myned i barotoi lle i chwi: a gwedi i mi fyned a pharotoi lle i chwi, mi á ddychwelaf ac á’ch cymeraf gyda mi, fel lle yr wyf fi, y byddoch chwithau hefyd. Ac i ba le yr wyf fi yn myned, chwi á wyddoch, a’r ffordd á wyddoch. Dywedodd Thomas wrtho, Feistr, ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned. Pa fodd, gàn hyny, y gallwn wybod y ffordd? Iesu á atebodd, Myfi yw y ffordd, a’r gwirionedd, a’r bywyd; nid yw neb yn dyfod at y Tad ond trwof fi. Ped adnabuasech fi, fy Nhad hefyd á adnabuasech: ac o hyn allan yr adwaenoch ef, a chwi á’i gwelsoch ef.
Darllen Ioan 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 14:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos