Ioan 17
17
1-5Pan orphenasai Iesu yr ymadrawdd hwn, efe á ddywedodd, gàn godi ei lygaid i’r nef, Y Tad, daeth yr awr; gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau; megys y rhoddaist iddo awdurdod àr bob dyn, fel, i’r rhai oll à roddaist iddo, y rhoddai efe fywyd tragwyddol. A hyn yw y bywyd tragwyddol, dy adnabod di yr unig wir Dduw, ac Iesu y Messia, dy Apostol. Mi á’th ogoneddais di àr y ddaiar; mi á orphenais y gwaith à roddaist i mi iddei wneuthur. Ac yr awrbon, O Dad, gogonedda di fyfi yn dy wydd dy hun, â’r gogoniant oedd i mi gyda thi cyn bod y byd.
6-19Mi á hysbysais dy enw i’r dynion à roddaist i mi allan o’r byd. Eiddot ti oeddynt; a thi á’u rhoddaist hwynt i mi; a hwy á gadwasant dy air di. Pa bethau bynag á roddaist i mi, y maent yr awrhon yn gwybod mai oddwrthyt ti y daethant, a chyfrànu o honot i mi yr athrawiaeth à gyfrènais innau iddynt hwy. Hwy á’i derbyniasant, gàn wybod yn ddiau fy nyfod allan oddwrthyt ti, a’m bod wedi fy nghenadwriaethu genyt. Drostynt hwy yr wyf fi yn gweddio. Nid dros y byd yr wyf yn gweddio, ond dros y rhai à roddaist i mi; canys eiddot ti ydynt. A’r eiddof fi oll sydd eiddot ti, a’r eiddot ti sydd eiddof fi, a mi á ogoneddwyd ynynt. Nid wyf fi yn aros yn hwy yn y byd; ond y rhai hyn ydynt yn aros yn y byd, a myfi ydwyf yn dyfod atat ti. Dad santaidd, cadw hwy yn dy enw, y rhai à roddaist i mi, fel y byddont un megys ninnau. Tra bum gyda hwynt yn y byd, mi á’u cedwais yn dy enw; y rhai à roddaist i mi á gedwais. Ni chollwyd neb o honynt ond mab y golledigaeth, megys y rhagfynegodd yr ysgrythyr. Ond yr awrhon, a myfi yn dyfod atat ti, yr wyf yn llefaru y pethau hyn yn y byd, fel y byddo eu llawenydd ynof yn gyflawn. Mi á draddodais iddynt dy air di, ac y mae y byd yn eu casâu hwynt, oblegid nad ydynt o’r byd, megys nad wyf finnau o’r byd. Nid wyf yn gweddio ar i ti eu cymeryd hwynt allan o’r byd, ond àr i ti eu cadw hwynt rhag y drwg. O’r byd nid ydynt, megys nad wyf finnau o’r byd. Cysegra hwynt drwy y gwirionedd; dy air yw y gwirionedd. Megys y gwnaethost ti fi yn Apostol i ti i’r byd, felly y gwnaethym innau hwythau yn apostolion i mi i’r byd. A throstynt hwy yr wyf yn fy nghysegru fy hun, fel y byddont hwythau gwedi eu cysegru drwy y gwirionedd.
20-26Nid wyf chwaith yn gweddio dros y rhai hyn yn unig, eithr dros y rhai hyny hefyd à gredant ynof fi, drwy eu dysgeidiaeth hwynt; fel y byddont oll yn un; megys yr wyt ti, y Tad, ynof fi, a minnau ynot ti, fel y byddont hwythau un ynom ni, fel y credo y byd mai tydi á’m hanfonaist i; a rhoddi o honot i mi y gogoniant à roddais innau iddynt hwy; fel y byddont un, megys yr ydym ni yn un; myfi ynynt hwy, á thithau ynof fi, fel y perffeithier eu hundeb; a fel y gwypo y byd mai tydi á’m hanfonaist i, a dy fod yn eu caru hwynt, megys yr ydwyt yn fy ngharu i. Y Tad, y rhai à roddaist i mi, yr wyf yn ewyllysio, lle yr wyf fi, fod o honynt hwythau hefyd gyda myfi; fel y gwelont fy ngogoniant à roddaist i mi, oblegid ti á’m ceraist cyn lluniad y byd. Y Tad cyfiawn, èr nad edwyn y byd dydi, mi á’th adwaen; a’r rhai hyn á wyddant bod genyf dy gènadwriaeth di. Ac iddynt hwy yr hysbysais, ac yr hysbysaf, dy enw; fel, a myfi ynynt hwy, y byddont gyfranog o’r cariad â’r hwn y ceraist fi.
Dewis Presennol:
Ioan 17: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fcy.png&w=128&q=75)
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.

:
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fen.png&w=128&q=75)