Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 18

18
DOSBARTH XI.
Y Croeshoeliad.
1-11Gwedi i Iesu ddywedyd y geiriau hyn, efe á aeth gyda ’i ddysgyblion dros afon Cidron; lle yr oedd gardd, i’r hon yr aeth efe a’i ddysgyblion. A Iuwdas hefyd, yr hwn á’i bradychodd ef, á adwaenai y lle; oblegid mynych y cyrchasai Iesu yno gyda ’i ddysgyblion. Yna Iuwdas, wedi iddo gael y cadgordd, a swyddogion gàn yr archoffeiriaid a’r Phariseaid, á ddaeth yno â llygyrn, a ffaglau, ac arfau. Eithr Iesu, yr hwn á wyddai bob peth à oedd àr ddyfod arno, á aeth allan, ac á ddywedodd wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio? Hwy á atebasant iddo, Iesu y Nasarethiad. Iesu á adatebodd, Myfi yw. A Iuwdas, yr hwn á’i bradychodd ef, oedd gyda hwynt. Cygynted ag y dywedasai efe, Myfi yw, hwy á aethant yn wysg eu cefnau, ac á syrthiasant i lawr. Am hyny efe á ofynodd iddynt drachefn, Pwy yr ydych yn ei geisio? Hwythau á ddywedasant, Iesu y Nasarethiad. Iesu á atebodd, Mi á ddywedais i chwi mai myfi yw. Os myfi, gàn hyny, yr ydych yn ei geisio, gadewch i’r rhai hyn fyned ymaith. Fel hyn y gwireddwyd yr hyn à ddywedasai efe, O’r rhai à roddaist i mi, ni chollais i yr un. Yna Simon Pedr, yr hwn oedd ganddo gleddyf, á’i tỳnodd ef, ac á darawodd was yr archoffeiriad, ac á dòrodd ymaith ei glust ddëau ef. Ac enw y gwas oedd Malchus. Yna Iesu á ddywedodd wrth Bedr, Dod y cleddyf yn y wain. Y cwpan à roddes y Tad i mi, onid yfaf ef?
12-14Yna y cadgordd, a’u llywydd, a’r swyddogion Iuddewig, á ddaliasant Iesu; a gwedi ei rwymo, á’i dygasant at Annas yn gyntaf, am ei fod yn dad‐yn‐nghyfraith i Gaiaphas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn hòno. A Chaiaphas oedd yr hwn à ddywedasai mewn cynghor wrth yr Iuddewon, Buddiol yw marw o un dyn dros y bobl.
15-18Yn y cyfamser Simon Pedr, a dysgybl arall á ganlynasant Iesu. Y dysgybl hwnw, yn adnabyddus gán yr archoffeiriad, á aeth i fewn iddeu lys ef gydag Iesu. Ond Pedr á safodd wrth y drws allan. Am hyny, y dysgybl arall, yr hwn oedd adnabyddus gàn yr archoffeiriad, á aeth allan, ac á siaredodd â’r ddrysores, ac á ddyg Bedr i fewn. Yna y llances hon, sef y ddrysores, á ddywedodd wrth Bedr, Onid wyt tithau hefyd yn un o ddysgyblion y dyn hwn? Atebodd yntau, Nac ydwyf. A’r gweision a’r swyddogion á safent wrth dân, à wnaethent, am ei bod hi yn oer, ac á ymdwyment. A Phedr oedd yn sefyll gyda hwynt, ac yn ymdwymo.
19-24Yna yr archoffeiriad á holodd Iesu yn nghylch ei ddysgyblion a’i athrawiaeth. Iesu á atebodd, Mi á lefarais àr gyhoedd wrth y byd; yr oeddwn bob amser yn dysgu yn y cynnullfëydd ac yn y deml, lle y mae yr Iuddewon yn cyrchu yn wastadol. Ni ddywedais i ddim yn ddirgel. Paham yr wyt yn fy holi i? Hola y rhai à’m clywsant yn dysgu. Hwy á wyddant beth á ddywedais i. Wedi iddo ddywedyd fel hyn, un o’r swyddogion, à safai gerllaw, á roddes gernod iddo, ac á ddywedodd, Ai dyna fel yr wyt ti yn ateb yr archoffeiriad? Iesu á atebodd, Os dywedais allan o le, dangos yn mha beth y mae y bai: ond os da, paham yr wyt yn fy nharo i? Ac Annas á’i hanfonasai ef yn rwym at Gaiaphas yr archoffeiriad.
25-27Fel yr oedd Pedr yn sefyll ac yn ymdwymo, hwy á ofynasant iddo, Onid wyt tithau hefyd yn un o’i ddysgyblion ef? Yntau á wadodd, ac á ddywedodd, Nac ydwyf. Un o weision yr archoffeiriad, câr i’r hwn y tòrasai Pedr ei glust, á ddywedodd, Oni welais i di gydag ef yn yr ardd? Pedr á wadodd drachefn; ac yn y màn, canodd y ceiliog.
28-32Yna y dygasant Iesu o dŷ Caiaphas i’r dadleudy: y bore ydoedd hi; ond yr Iuddewon nid aethant i fewn i’r dadleudy, rhag eu halogi, a bod felly yn annghymhwys i fwyta y pasc. Pilat, gàn hyny, á aeth allan atynt, ac á ddywedodd, O ba beth yr ydych chwi yn cyhuddo y dyn hwn? Hwythau á atebasant, Oni bai ei fod yn ddrygweithredwr, ni thraddodasem ni ef atat ti. Pilat á ddywedodd, Cymerwch ef eich hunain ynte, a bernwch ef yn ol eich cyfraith chwi. Yr Iuddewon á adatebasant, Ni oddefir i ni roddi neb i farwolaeth. A fel hyn y cyflawnwyd yr hyn à ddywedasai Iesu, gàn arwyddocâu o ba angeu y byddai efe farw.
33-40Yna Pilat à ddychwelodd i’r dadleudy, a gwedi iddo alw Iesu, á ddywedodd wrtho, Ai ti yw Brenin yr Iuddewon? Iesu á atebodd, Ai o honot dy hun yr wyt ti yn dywedyd hyn, ai ereill á ddywedasant i ti am danaf fi? Pilat á adatebodd, Ai Iuddew ydwyf fi? Dy genedl dy hun, ïe, yr archoffeiriaid, á’th draddodasant i mi, Beth á wnaethost ti? Iesu á atebodd, Fy nheyrnas i nid yw o’r byd hwn. Pe o’r byd hwn y buasai fy nheyrnas i, fy ymlynwyr á ymladdasent fel na’m traddodid i’r Iuddewon; ond fy nheyrnas i nid yw oddi yma. Yna y dywedodd Pilat, Brenin gàn hyny wyt ti? Iesu á atebodd, Yr ydwyt ti yn dywedyd mai Brenin wyf fi. Er mwyn hyn ym ganed; ac èr mwyn hyn y daethym i’r byd, fel y tystiolaethwn i’r gwirionedd. Pwybynag sydd o’r gwirionedd, sydd yn gwrandaw arnaf fi. Pilat á ofynodd iddo, Beth yw gwirionedd? a gwedi iddo ddywedyd felly, efe á aeth allan drachefn at yr Iuddewon, ac á ddywedodd wrthynt, O’m rhan i, nid wyf yn cael dim bai yn y dyn hwn. Ond, gàn ei bod yn ddefod i mi ollwng i chwi un yn rydd àr y pasc, a fỳnwch chwi i mi ollwng yn rydd i chwi Frenin yr Iuddewon? Yna y llefasant oll, gàn ddywedyd, Nid hwn, ond Barabbas. A Barabbas oedd ysbeiliwr.

Dewis Presennol:

Ioan 18: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda