Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 19

19
1-7Yna Pilat á berodd iddo gael ei fflangellu. A’r milwyr á’i coronasant ef â thorch o ddrain, yr hon á blethasant; a gwedi iddynt roi mantell borphor am dano ef, á ddywedasant, Hanbych well! Brenin yr Iuddewon! ac á roisant iddo gernodiau. Pilat á aeth allan drachefn, ac á ddywedodd wrthynt, Wele yr wyf fi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un bai. Yna yr aeth Iesu allan, yn gwisgo y goron ddrain a’r fantell borphor, a Philat á ddywedodd wrthynt, Wele y dyn! Yr archoffeiriaid a’r swyddogion pan welsant ef, á lefasant, gàn ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef! Pilat á ddywedodd wrthynt, Cymerwch ef eich hunain, a chroeshoeliwch ef; o’m rhan fy hun, nid wyf fi yn cael dim bai ynddo. Yr Iuddewon á atebasant, Y mae genym ni gyfraith, ac wrth y gyfraith hòno efe á ddylai farw, am iddo gymeryd arno yr enwawd Mab Duw.
8-12Pan glybu Pilat hyn, efe á ofnodd yn fwy; a gwedi iddo ddychwelyd i’r dadleudy, efe á ddywedodd wrth Iesu, O ba le yr wyt ti? Ond ni roes Iesu ateb iddo. Yna Pilat á ddywedodd wrtho, A wnai di ddim siared â mi? Oni wyddost ti bod genyf awdurdod i dy groeshoelio di, ac awdurdod i dy ollwng yn rydd? Iesu á atebodd, Ni chawsit ti ddim awdurdod arnaf fi, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod; am hyny yr hwn à’m traddodes i ti, sy fwy ei bechod. O’r pryd hwnw y ceisiodd Pilat ei ollwng ef yn rydd; ond yr Iuddewon á lefasant, Os gollyngi di hwn yn rydd, nid wyt ti yn gyfaill i Gaisar. Pwybynag á eilw ei hun yn Frenin, sydd yn gwrthwynebu Caisar.
13-16Pilat, pan glybu y geiriau hyn, á berodd ddwyn Iesu allan, ac á eisteddodd àr y frawdfainc, mewn lle à elwir Y Palmant, yn Hebraeg, Gabbatha. (A darparwyl Seibiaeth y Pasc oedd hi, yn nghylch y chwechfed awr.) Ac efe á ddywedodd wrth yr Iuddewon, Wele eich Brenin. Eithr hwy á lefasant, Ymaith, ymaith ag ef; croeshoelia ef. Pilat á ddywedodd wrthynt, A groeshoeliaf fi eich Brenin chwi? Yr archoffeiriaid á atebasant, Nid oes i ni frenin ond Caisar. Yntau, gàn hyny, á’i traddodes ef iddynt iddei groeshoelio.
17-22Yna hwy á gymerasant Iesu, ac á’i dygasant ymaith. Ac efe, gàn ddwyn ei groes, á aeth allan i le à elwid Y Benglogfa, yr hwn yn Hebraeg yw, Golgotha, lle y croeshoeliasant ef a dau ereill gydag ef, un o bob tu, ac Iesu yn y canol. Pilat hefyd á ysgrifenodd #19:17 Title.graifft, ac á’i dododd àr y groes. Y geiriau oeddynt, Iesu y Nasarethiad, Brenin yr Iuddewon. A llawer o’r Iuddewon á ddarllenasant y graifft hon, (oblegid yr oedd y fàn lle y croeshoeliwyd Iesu yn agos i’r ddinas) ac yr oedd wedi ei hysgrifenu yn Hebraeg, Groeg, a Lladin. Yna yr archoffeiriaid á ddywedasant wrth Bilat, Nac ysgrifena, Brenin yr Iuddewon; ond Yr hwn á eilw ei hun yn Frenin yr Iuddewon. Pilat a atebodd, Yr hyn à ysgrifenais, á ysgrifenais.
23-24Gwedi i’r milwyr hoelio Iesu wrth y groes, hwy á gymerasant ei fantell ef, ac á’i rhànasant yn bedair rhan, un i bob milwr; cymerasant y bais hefyd, yr hon oedd ddiwniad, wedi ei gwau o’r cẁr uchaf drwyddi oll, ac á ddywedasant wrth eu gilydd, Na rwygwn hi, ond penderfynwn wrth goelbren, eiddo pwy fydd hi; drwy hyny yn gwireddu yr ysgrythýr à sydd yn dywedyd, “Rhànasant fy mantell yn eu mysg, ac am fy ngwisg y bwriasant goelbrèni.” Fel hyn, gàn hyny, y gwnaeth y milwyr.
25-27Ac yr oedd yn sefyll wrth groes Iesu, ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Mair gwraig Cleopas, a Mair y Fagdalëad. Yna Iesu, pan welai ei fam, a’r dysgybl yr hwn á garai efe, yn sefyll gerllaw, á ddywedodd wrth ei fam, Wraig, wele dy fab. Yna y dywedodd efe wrth y dysgybl, Wele dy fam. Ac o’r awr hono y cymerodd y dysgybl hi iddei gartref ei hun.
28-30Gwedi hyny, Iesu, (yn gwybod fod pob peth wedi ei orphen weithian,) fel y cyflawnid yr ysgrythyr, á ddywedodd, Y mae syched arnaf. Gan fod yno lestr yn llawn o winegr, hwy á lanwasant ysbwng o winegr, a gwedi ei gylymu wrth frigyn o isop, á’i daliasant wrth ei enau ef. Wedi i Iesu gymeryd y gwinegr, efe a ddywedodd, Gorphenwyd; a chàn ogwyddo ei ben, efe a roddes i fyny ei ysbryd.
31-37Yr Iuddewon, gàn hyny, rhag i’r cyrff aros àr y groes àr y Seibiaeth, canys darparwyl oedd hi, (a’r Seibiaeth hwnw oedd ddiwrnod mawr,) á ddeisyfasant àr Bilat gael tòri eu hesgeiriau hwynt, a symud y cyrff. Yn ganlynol y milwyr á ddaethant, ac á dòrasant esgeiriau y cyntaf, a’r llall à groeshoeliasid gydag ef. Ond wedi iddynt ddyfod at Iesu, a chanfod ei fod wedi marw eisoes, ni thòrasant ei esgeiriau ef. Ond un o’r milwyr, â gwaewffon, á wànodd ei ystlys ef, o’r hon yn y fàn y daeth allan waed a dwfr. Yr hwn sydd yn tystiolaethu hyn oedd lygad‐dyst, ac y mae ei dystiolaeth yn gredadwy: ïe, y mae efe yn ymwybodol ei fod yn dywedyd gwirionedd, fel y credoch chwi. Canys y pethau hyn á wnaethwyd, fel y gwireddid yr ysgrythyr, “Ni thòrir asgwrn o hono.” Trachefn, yr ysgrythyr mewn lle arall sydd yn dywedyd, “Hwy á edrychant àr yr hwn à wànasant.”
DOSBARTH XII.
Yr Adgyfodiad.
38-42Ar ol hyn, Ioseph yr Arimathëad, yr hwn oedd ddysgybl i Iesu, ond dysgybl dirgeledig rhag ofn yr Iuddewon, á ofynodd gènad gàn Bilat i gymeryd ymaith gorff Iesu; yr hyn wedi i Bilat ganiatâu iddo, efe á aeth ac á ddyg ymaith gorff Iesu. Nicodemus hefyd, yr hwn gynt á ddaethai at Iesu o hyd nos, á ddaeth, ac á ddyg gymysg o fyr ac aloes, tua chann pwys. Y rhai hyn á gymerasant gorff Iesu, ac á’i troisant mewn amlieiniau, gyda ’r peraroglau, yr hwn yw y dull Iuddewig o berarogli. Ac yn y fangre lle y croeshoeliwyd ef, yr oedd gardd, a thomawd newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid dyn erioed. Yno y dodasant Iesu, o achos darparwyl yr Iuddewon, gàn fod y tomawd yn agos.

Dewis Presennol:

Ioan 19: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda