Gwedi iddynt giniawa, Iesu á ddywedodd wrth Simon Pedr, Simon mab Iona, á wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na’r rhai hyn? Atebodd yntau, Ydwyf, Arglwydd, ti á wyddost fy mod yn dy garu di. Iesu á adatebodd, Portha fy ŵyn. Efe á ddywedodd eilwaith, Simon mab Iona, á wyt ti yn fy ngharu i? Yntau á atebodd, Ydwyf, Arglwydd, ti á wyddost fy mod yn dy garu di. Iesu á adatebodd, Bugeilia fy nefaid. Efe á ddywedodd drydedd waith, Simon mab Iona, á wyt ti yn fy ngharu i? Pedr, wedi tristâu am iddo ofyn yr holiad hwn drydedd waith, á atebodd, Arglwydd, ti á wyddost pob peth; ti á wyddost fy mod yn dy garu di. Iesu á adatebodd, Portha fy nefaid. Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i ti, yn dy ieuenctid ti á’th wregysit dy hun, ac á ait lle y mỳnit; ond yn dy henaint, ti á estyni dy ddwylaw, ac arall á’th wregysa, ac á’th ddwg lle nis mỳnit. Hyn á ddywedodd efe, gàn arwyddo drwy ba fath angeu y gogoneddai efe Dduw. Ar ol y geiriau hyn, efe á ddywedodd wrtho, Canlyn fi.