Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 21

21
1-14Gwedi hyny, Iesu á ymddangosodd drachefn iddei ddysgyblion, wrth for Tiberias, a fel hyn yr ymddangosodd efe. Pan oedd yn nghyd Simon Pedr, a Thomas, hyny yw Didymus, Nathanael o Gana yn Ngalilea, meibion Zebedëus, a dau ereill o ddysgyblion Iesu, dywedodd Simon Pedr, Yr wyf fi yn myned i bysgota. Atebasant hwythau, Ni á awn gyda thi. Yn ebrwydd hwy á aethant, ac á ddringasant i long, ond y noson hòno ni ddaliasant ddim. Yn y bore, Iesu á safodd àr y làn; ond y dysgyblion ni wyddent mai Iesu oedd efe. Iesu á ddywedodd wrthynt, Fy mhlant, á oes gènych ddim bwyd? Hwythau á atebasant, Nac oes. Bwriwch y rhwyd, meddai yntau, i’r tu dëau i’r llong, a chwi á gewch. Hwy á wnaethant felly, ond ni allent ei thỳnu, gàn y lliaws pysgod. Yna y dysgybl hwnw yr hwn yr oedd Iesu yn ei garu, á ddywedodd wrth Bedr, Y Meistr yw. Simon Pedr, pan glybu mai y Meistr oedd, á wregysodd ei amwisg (yr hon á ddodasai efe o’r neilldu) ac á’i bwriodd ei hun i’r môr. Eithr y dysgyblion ereill á ddaethant yn y bad, (oblegid nid oeddynt yn mhellach na thua dau cann cufydd oddwrth dir,) dan lusgo y rhwyd a’r pysgod. Pan ddaethant i dir, hwy á welent dân yn llosgi, a physgod wedi eu dodi arno, a bara. Iesu á ddywedodd wrthynt, Dygwch o’r pysgod à ddaliasoch yn awr. Simon Pedr á aeth yn ei ol, ac á dỳnodd y rhwyd i’r lan, yn llawn o bysgod mawrion, cant a thriarddeg a deugain; ac èr bod cynnifer, ni rwygodd y rhwyd. Iesu á ddywedodd wrthynt, Deuwch, ciniaẅwch. Yn y cyfamser, ni feiddiai neb o’r dysgyblion ofyn iddo, Pwy wyt ti? am eu bod yn gwybod mai y Meistr oedd. Iesu á nesâodd, a gwedi iddo gymeryd bara a physgod, efe á rànodd rhyngynt. Dyma y drydedd waith i Iesu ymddangos iddei ddysgyblion, àr ol ei adgyfodiad.
15-19Gwedi iddynt giniawa, Iesu á ddywedodd wrth Simon Pedr, Simon mab Iona, á wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na’r rhai hyn? Atebodd yntau, Ydwyf, Arglwydd, ti á wyddost fy mod yn dy garu di. Iesu á adatebodd, Portha fy ŵyn. Efe á ddywedodd eilwaith, Simon mab Iona, á wyt ti yn fy ngharu i? Yntau á atebodd, Ydwyf, Arglwydd, ti á wyddost fy mod yn dy garu di. Iesu á adatebodd, Bugeilia fy nefaid. Efe á ddywedodd drydedd waith, Simon mab Iona, á wyt ti yn fy ngharu i? Pedr, wedi tristâu am iddo ofyn yr holiad hwn drydedd waith, á atebodd, Arglwydd, ti á wyddost pob peth; ti á wyddost fy mod yn dy garu di. Iesu á adatebodd, Portha fy nefaid. Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i ti, yn dy ieuenctid ti á’th wregysit dy hun, ac á ait lle y mỳnit; ond yn dy henaint, ti á estyni dy ddwylaw, ac arall á’th wregysa, ac á’th ddwg lle nis mỳnit. Hyn á ddywedodd efe, gàn arwyddo drwy ba fath angeu y gogoneddai efe Dduw. Ar ol y geiriau hyn, efe á ddywedodd wrtho, Canlyn fi.
20-23A Phedr á droes, ac á welai y dysgybl yr hwn yr oedd Iesu yn ei garu, yn canlyn, (yr hwn hefyd, gàn bwyso àr ei ddwyfron ef àr gwynos, á ofynasai pwy oedd yr hwn, à’i bradychai ef.) Pedr, pan welodd ef, á ddywedodd wrth Iesu, A pha beth, Arglwydd, á ddaw o hwn? Iesu á atebodd, Os mỳnaf iddo aros hyd oni ddychwelwyf, beth yw hyny i ti? Canlyn fi. Oddwrth hynyna yr aeth y gair allan yn mhlith y brodyr, na fyddai y dysgybl hwnw farw; eto, ni ddywedasai Iesu, na fyddai efe farw; ond, Os mỳnaf iddo aros hyd oni ddychwelwyf, beth yw hyny i ti?
24-25Hwn yw y dysgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac á ysgrifenodd yr hanes hwn; a ni á wyddom bod ei dystiolaeth ef yn haeddu cred. Yr oedd hefyd lawer o bethau ereill à wnaeth Iesu, y rhai ped adroddid hwynt bob yn un ac un, nid wyf yn tybied y gallai y byd ei hunan gynnwys y cyfrolau à ysgrifenid.

Dewis Presennol:

Ioan 21: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda