Gwedi hyny, Iesu á ymddangosodd drachefn iddei ddysgyblion, wrth for Tiberias, a fel hyn yr ymddangosodd efe. Pan oedd yn nghyd Simon Pedr, a Thomas, hyny yw Didymus, Nathanael o Gana yn Ngalilea, meibion Zebedëus, a dau ereill o ddysgyblion Iesu, dywedodd Simon Pedr, Yr wyf fi yn myned i bysgota. Atebasant hwythau, Ni á awn gyda thi. Yn ebrwydd hwy á aethant, ac á ddringasant i long, ond y noson hòno ni ddaliasant ddim. Yn y bore, Iesu á safodd àr y làn; ond y dysgyblion ni wyddent mai Iesu oedd efe. Iesu á ddywedodd wrthynt, Fy mhlant, á oes gènych ddim bwyd? Hwythau á atebasant, Nac oes. Bwriwch y rhwyd, meddai yntau, i’r tu dëau i’r llong, a chwi á gewch. Hwy á wnaethant felly, ond ni allent ei thỳnu, gàn y lliaws pysgod. Yna y dysgybl hwnw yr hwn yr oedd Iesu yn ei garu, á ddywedodd wrth Bedr, Y Meistr yw. Simon Pedr, pan glybu mai y Meistr oedd, á wregysodd ei amwisg (yr hon á ddodasai efe o’r neilldu) ac á’i bwriodd ei hun i’r môr. Eithr y dysgyblion ereill á ddaethant yn y bad, (oblegid nid oeddynt yn mhellach na thua dau cann cufydd oddwrth dir,) dan lusgo y rhwyd a’r pysgod. Pan ddaethant i dir, hwy á welent dân yn llosgi, a physgod wedi eu dodi arno, a bara. Iesu á ddywedodd wrthynt, Dygwch o’r pysgod à ddaliasoch yn awr. Simon Pedr á aeth yn ei ol, ac á dỳnodd y rhwyd i’r lan, yn llawn o bysgod mawrion, cant a thriarddeg a deugain; ac èr bod cynnifer, ni rwygodd y rhwyd. Iesu á ddywedodd wrthynt, Deuwch, ciniaẅwch. Yn y cyfamser, ni feiddiai neb o’r dysgyblion ofyn iddo, Pwy wyt ti? am eu bod yn gwybod mai y Meistr oedd. Iesu á nesâodd, a gwedi iddo gymeryd bara a physgod, efe á rànodd rhyngynt. Dyma y drydedd waith i Iesu ymddangos iddei ddysgyblion, àr ol ei adgyfodiad.