Luwc 10
10
1-12Gwedi hyny y pènododd yr Arglwydd seithdeg ereill hefyd, ac á’u hanfonodd hwynt bob yn ddau i bob dinas a lle yr oedd efe yn bwriadu myned. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Y cynauaf sy gnydfawr, ond y medelwyr ynt ychydig; gweddiwch, gàn hyny, àr Arglwydd y cynauaf am ddanfon llafurwyr iddei fedi. Ewch gàn hyny; wele yr wyf fi yn eich danfon allan fel ŵyn yn mysg bleiddiaid. Na ddygwch god, nac ysgrepan, nac esgidiau; a na chyferchwch well i neb àr y ffordd. Ac i ba dŷ bynag yr eloch i fewn, yn gyntaf dywedwch, Tangnefedd i’r tŷ hwn. Ac os bydd yno fab tangnefedd, eich tangnefedd á orphwys arno; os yn amgen, efe á adchwel arnoch eich hunain. Ond aroswch yn yr un tŷ, gán fwyta ac yfed, y cyfryw bethau ag á gaffoch ganddynt; canys teilwng yw i’r gweithiwr ei gyflog: nac ewch o dŷ i dŷ. A pha ddinas bynag yr eloch iddi, os derbyniant chwi, bwytewch y cyfryw bethau ag á rodder gèr eich brònau; iachewch y cleifion, a dywedwch wrthynt, Y mae Teyrnasiad Duw yn dyfod arnoch. Eithr pa ddinas bynag yr eloch iddi, a hwy heb eich derbyn, ewch allan i’r heolydd, a dywedwch, Hyd yn nod tom eich heolydd, yr hwn sydd yn glynu wrthym, yr ydym yn ei sychu ymaith yn eich erbyn; èr hyny gwybyddwch bod Teyrnasiad Duw yn dyfod arnoch. Yr wyf yn sicrâu i chwi, y bydd cyflwr Sodoma yn fwy goddefadwy y dydd hwnw, na chyflwr y ddinas hòno.
13-16Gwae di, Gorazin! gwae di, Fethsaida! Canys pe gwnaethid yn Nhyrus a Sidon y gwyrthiau à wnaethwyd ynoch chwi, hwy á edifarasent èr ys talm, gàn eistedd mewn sachlian a lludw. O herwydd paham, bydd cyflwr Tyrus a Sidon yn fwy goddefadwy yn y farn, na’r eiddoch chwi. A thithau, Gapernäum, yr hon á ddyrchafwyd hyd y nef, á dỳnir i lawr hyd yn Hades. Y neb sydd yn eich gwrandaw chwi, sydd yn fy ngwrandaw i; a’r neb sydd yn eich gwrthod chwi, sydd yn fy ngwrthod i; a’r neb sydd yn fy ngwrthod i, sydd yn gwrthod yr hwn á’m hanfonodd i.
17-24A’r seithdeg á ddychwelasant gyda llawenydd, gàn ddywedyd, Feistr, hyd yn nod y cythreuliaid á ddarostyngir i ni, drwy dy enw di. Efe á ddywedodd wrthynt, Mi á welais Satan yn syrthio fel mellten o’r nef. Wele! yr wyf fi yn eich galluogi i sathru àr seirff ac ysgorpionau, a holl gryfder y gelyn; a ni chaiff dim eich niweidio. Er hyny, na lawenewch yn hyn, bod yr ysbrydion yn ddarostyngedig i chwi; ond llawenewch am fod eich enwau gwedi eu cofrestru yn y nefoedd. Y pryd hwnw Iesu á lawenychodd yn yr ysbryd, ac á ddywedodd, Yr wyf yn dy foliannu di, O Dad, Arglwydd nef a daiar, am i ti, gwedi cuddio y pethau hyn oddwrth ddoethion a’r dysgedigion, eu dadguddio hwynt i fabanod. Ië, O Dad, oblegid felly y rhyngodd bodd i ti. Pob peth á roddwyd i mi gàn fy Nhad; a ni wyr neb pwy yw y Mab, ond y Tad; na phwy yw y Tad, ond y Mab, a’r sawl y mỳno y Mab ei ddadguddio iddo. Yna gwedi troi o’r neilldu, efe á ddywedodd wrth ei ddysgyblion, Gwyn eu byd y llygaid à welant y pethau à welwch chwi. Canys yr wyf yn sicrâu i chwi, ewyllysio o lawer o broffwydi a breninoedd weled y pethau à welwch chwi; ond ni welsant; a chlywed y pethau à glyẅwch chwi; ond ni chlywsant.
25-37Yna rhyw gyfreithiwr á gododd, ac á ddywedodd, gàn ei brofi ef, Rabbi, pa beth á wnaf i gaffael bywyd tragwyddol? Iesu á ddywedodd wrtho, Pa beth sydd ysgrifenedig yn y gyfraith? Pa beth wyt ti yn ei ddarllen yno? Yntau á atebodd, “Ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac ä’th holl nerth, ac â’th holl feddwl; a’th gymydog fel ti dy hun.” Iesu á adatebodd, Ti á atebaist yn iawn. Gwna hyn, a byw fyddi. Yntau yn chwennychu ymddangos yn ddifai, á ddywedodd wrth Iesu, Pwy yw fy nghymydog? Iesu á ddywedodd mewn atebiad, Gwr o Gaersalem, wrth ymdaith i Iericho, á syrthiodd yn mysg ysbeilwyr, y rhai gwedi ei ddyosg ef a’i archolli, á aethant ymaith, gàn ei adael ef yn hanner marw. Rhyw offeiriad wrth fyned yn ddamweiniol y ffordd hòno, a’i weled, á aeth ymaith o’r tu arall heibio. Yr un ffunud Lefiad, àr y ffordd, pan ddaeth yn agos i’r fàn, a’i weled ef, á aeth heibio o’r tu arall. Eithr rhyw Samariad, wrth ymdaith, á ddaeth lle yr oedd efe, a phan ei gwelodd, á dosturiodd, ac á aeth i fyny ato, a gwedi tywallt olew a gwin iddei archollion, efe á’u rhwymodd i fyny. Yna efe á’i gosododd ef àr ei anifail ei hun, á’i dyg i westdy, ac á ofalodd am dano. Tranoeth, wrth fyned ymaith, efe á dỳnodd allan ddwy geiniog, a gwedi eu rhoddi i’r #10:25 Llettywr; a host.gwesteiwr, á ddywedodd, Gofala am y gwr hwn, a pha beth bynag á dreuliech yn chwaneg, pan ddychwelyf, mi á’i talaf i ti. Yn awr pa un o’r tri hyn yr wyt ti yn tybied ei fod yn gymydog i’r hwn á syrthiasai yn mhlith yr ysbeilwyr? Y cyfreithiwr á atebodd, Yr hwn á wnaeth drugaredd ag ef. Yna y dywedodd Iesu, Dos dithau, a gwna yr un modd.
38-42A fel yr oeddynt yn ymdeithio, efe á aeth i bentref, a rhyw wraig, a’i henw Martha, á’i gresawodd ef yn ei thŷ. Yr oedd ganddi chwaer à elwid Mair, yr hon á eisteddodd wrth draed Iesu, gán wrandaw àr ei ymadrodd ef: ond Martha, yr hon oedd yn fawr ei thrafferth yn nghylch gwasanaethu, à ddaeth ato ef, ac á ddywedodd, Feistr, á wyt ti yn gofalu dim am fod fy chwaer yn fy ngadael i fy hun i wasanaethu? Dywed wrthi, gàn hyny, am fy nghynnorthwyo. Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthi, Martha, Martha, gofalus a thrafferthus wyt yn nghylch llawer o bethau. Un peth yn unig sydd angenrheidiol. A Mair á ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddarni.
Dewis Presennol:
Luwc 10: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.