A phan weloch Gaersalem wedi ei hamgylchu gàn luoedd, gwybyddwch bod ei hannghyfanneddiad hi gwedi nesâu. Yna y rhai fyddant yn Iuwdea, fföant i’r mynyddoedd; y rhai fyddant yn y ddinas, diangant; a’r sawl fyddant yn y wlad, nac elent i fewn i’r ddinas; canys dyddiau dial fydd y rhai hyn, yn y rhai y cyflawnir holl arfygythion yr ysgrythyrau. Eithr gwae y rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi brònau, yn y dyddiau hyny; canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint àr y bobl hyn. Hwy á syrthiant drwy y cleddyf; hwy á gaethgludir at bob cenedl; a Chaersalem á fathrir gàn y Cenedloedd, hyd oni byddo amseroedd y Cenedloedd drosodd. A bydd arwyddion yn yr haul, ac yn y lleuad, ac yn y ser; ac àr y ddaiar ing cenedloedd gàn gyfyng‐gynghor; a’r moroedd a’r llifeiriaint yn rhuo; dynion yn llewygu gàn ofn a dysgwyliad am y pethau sydd yn dyfod àr y byd; oblegid nerthoedd y nefoedd á ysgydwir. Yna y gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cwmwl gyda gogoniant mawr a gallu. A phan ddechreuo y pethau hyn gael eu cyflawni, edrychwch i fyny a chodwch eich pènau, am fod eich gwaredigaeth yn nesâu.
Darllen Luwc 21
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luwc 21:20-28
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos