Luwc 21
21
1-4Fel yr oedd Iesu yn sylwi àr y cyfoethogion yn bwrw eu rhoddion i’r drysorfa, efe á welai wraig weddw angenus yn taflu i fewn ddwy hatling. Ac efe á ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i fewn fwy na neb o honynt; canys y rhai hyn oll, o’u gorddigonedd, á fwriasant i’r gist gysegredig; eithr hon á fwriodd i fewn yr holl ychydig oedd ganddi.
DOSBARTH XIII.
Y Cwynos diweddaf.
5-9Gwedi i rywrai sylwi bod y deml wedi ei haddurno â meini heirdd ac anrhegion, efe á ddywedodd, Yr amser á ddaw pan lwyrddymchwelir y pethau hyn à welwch chwi, fel nas gadewir y naill gàreg àr y llall. Yna hwy á ofynasant iddo, gàn ddywedyd, Rabbi, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha beth fydd yr arwydd pan fyddant àr gael eu cyflawni? Yntau á atebodd, Edrychwch na huder chwi; canys llawer á argymerant fy nodwedd i, gàn ddywedyd, Myfi yw y dyn, ac y mae yr amser yn agosâu; nac ewch, gàn hyny, àr eu hol hwynt. Ond pan glywoch son am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymerwch fraw; canys rhaid i’r pethau hyn ddygwydd yn gyntaf, ond y diwedd ni chanlyna yn ebrwydd.
10-19Efe á chwanegodd, Yna cenedl á gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas. A daiargrynfëydd mawrion á fyddant mewn amryfal fànau, a newynau, a heintiau; a bydd ymddangosiadau dychrynbair ac aruthrodion mawrion yn yr wybr. Eithr o flaen hyn oll, chwi á ddèlir ac á erlynir, ac á draddodir i gynnullfëydd, ac á garcherir, ac á lusgir gèr bron breninoedd a llywiawdwyr, o achos fy enw i; a hyn á ddyry gyfle i’ch tystiolaeth. Rhoddwch eich bryd, gàn hyny, àr na ragfyfyrioch pa amddiffyniad á wneloch; canys mi á roddaf i chwi barabl a doethineb, yr hwn nis gall neb o’ch gwrthwynebwyr ei ddadbrofi na’i wrthsefyll. A chwi á fradychir hyd yn nod gàn rieni, a brodyr, a cheraint, a chyfeillion; a rhai o honoch á roddir i farwolaeth. A chwi á gasêir yn gyffredinol, o’m hachos i. Er hyny ni chyll blewyn o’ch pen chwi. Cadẅwch eich eneidiau drwy eich dyfalbara.
20-28A phan weloch Gaersalem wedi ei hamgylchu gàn luoedd, gwybyddwch bod ei hannghyfanneddiad hi gwedi nesâu. Yna y rhai fyddant yn Iuwdea, fföant i’r mynyddoedd; y rhai fyddant yn y ddinas, diangant; a’r sawl fyddant yn y wlad, nac elent i fewn i’r ddinas; canys dyddiau dial fydd y rhai hyn, yn y rhai y cyflawnir holl arfygythion yr ysgrythyrau. Eithr gwae y rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi brònau, yn y dyddiau hyny; canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint àr y bobl hyn. Hwy á syrthiant drwy y cleddyf; hwy á gaethgludir at bob cenedl; a Chaersalem á fathrir gàn y Cenedloedd, hyd oni byddo amseroedd y Cenedloedd drosodd. A bydd arwyddion yn yr haul, ac yn y lleuad, ac yn y ser; ac àr y ddaiar ing cenedloedd gàn gyfyng‐gynghor; a’r moroedd a’r llifeiriaint yn rhuo; dynion yn llewygu gàn ofn a dysgwyliad am y pethau sydd yn dyfod àr y byd; oblegid nerthoedd y nefoedd á ysgydwir. Yna y gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cwmwl gyda gogoniant mawr a gallu. A phan ddechreuo y pethau hyn gael eu cyflawni, edrychwch i fyny a chodwch eich pènau, am fod eich gwaredigaeth yn nesâu.
29-36Efe á osododd iddynt y gymhariaeth hon. Edrychwch àr y ffigysbren, a’r preniau ereill. Pan weloch hwynt yn deiliaw, gwyddoch o honoch eich hunain bod yr haf yn agos. Gwybyddwch, yr un modd, pan weloch y dygwyddion hyn, bod Teyrnasiad Duw yn agos. Yn wir, yr wyf yn dywedyd i chwi nid â y genedlaeth hon heibio, hyd eni ddel y cwbl i ben. Nef a daiar á ballant; ond fy ngeiriau i ni phallant ddim. Edrychwch, gàn hyny, atoch eich hunain, rhag y byddo eich calonau gwedi eu gorlwytho â glythineb a meddwdod, a gofalon bydol, a dyfod y dydd hwnw arnoch yn ddiarwybod: canys fel rhwyd yr amgaua ef holl drigolion y ddaiar. Gwyliwch, gán hyny, gàn weddio, ár bob achlysur, àr gael eich cyfrif yn deilwng i ddianc rhag yr holl ddrygau hyn sydd yn agosâu, ac i sefyll gèr bron Mab y Dyn.
37-38Fel hyn Iesu á athrawiaethai yn y deml y dydd, ac á giliai y nos i’r mynydd, à elwid Mynydd Oleẅwydd. A phob bore y bobl á gyrchent yn gynnar i’r deml i wrandaw arno.
Dewis Presennol:
Luwc 21: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.