Gwedi i rywrai sylwi bod y deml wedi ei haddurno â meini heirdd ac anrhegion, efe á ddywedodd, Yr amser á ddaw pan lwyrddymchwelir y pethau hyn à welwch chwi, fel nas gadewir y naill gàreg àr y llall. Yna hwy á ofynasant iddo, gàn ddywedyd, Rabbi, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha beth fydd yr arwydd pan fyddant àr gael eu cyflawni? Yntau á atebodd, Edrychwch na huder chwi; canys llawer á argymerant fy nodwedd i, gàn ddywedyd, Myfi yw y dyn, ac y mae yr amser yn agosâu; nac ewch, gàn hyny, àr eu hol hwynt. Ond pan glywoch son am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymerwch fraw; canys rhaid i’r pethau hyn ddygwydd yn gyntaf, ond y diwedd ni chanlyna yn ebrwydd.
Efe á chwanegodd, Yna cenedl á gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas. A daiargrynfëydd mawrion á fyddant mewn amryfal fànau, a newynau, a heintiau; a bydd ymddangosiadau dychrynbair ac aruthrodion mawrion yn yr wybr. Eithr o flaen hyn oll, chwi á ddèlir ac á erlynir, ac á draddodir i gynnullfëydd, ac á garcherir, ac á lusgir gèr bron breninoedd a llywiawdwyr, o achos fy enw i; a hyn á ddyry gyfle i’ch tystiolaeth. Rhoddwch eich bryd, gàn hyny, àr na ragfyfyrioch pa amddiffyniad á wneloch; canys mi á roddaf i chwi barabl a doethineb, yr hwn nis gall neb o’ch gwrthwynebwyr ei ddadbrofi na’i wrthsefyll. A chwi á fradychir hyd yn nod gàn rieni, a brodyr, a cheraint, a chyfeillion; a rhai o honoch á roddir i farwolaeth. A chwi á gasêir yn gyffredinol, o’m hachos i. Er hyny ni chyll blewyn o’ch pen chwi. Cadẅwch eich eneidiau drwy eich dyfalbara.