1 Samuel 11
11
Saul yn trechu byddin Ammon
1Yna dyma Nachash, brenin Ammon, yn arwain ei fyddin i ymosod ar dref Jabesh yn Gilead.#11:1 Jabesh yn Gilead Tref oedd iâr dwyrain o afon Iorddonen, tua 20 milltir iâr de o Lyn Galilea (gw. Barnwyr 21). Dyma ddynion Jabesh yn dweud wrth Nachash, âGwna gytundeb â ni, a down niân weision i ti.â 2Atebodd Nachash, âIawn, gwna i gytundeb â chi, ond bydd rhaid tynnu allan llygad dde pob un ohonoch chi. Fel yna bydda iân codi cywilydd ar Israel gyfan.â 3Meddai arweinwyr Jabesh wrtho, âGad lonydd i ni am wythnos, i ni gael anfon negeswyr i bobman yn Israel. Os fydd neb yn barod i ddod iân hachub ni, byddwn yn ildio i ti.â
4Cyrhaeddodd y negeswyr Gibea (lle roedd Saul yn byw) a dweud beth oedd yn digwydd; a dymaâr bobl i gyd yn dechrau crioân uchel. 5Ar y pryd roedd Saul ar ei ffordd adre oâr caeau gydaâi ychen. âBe syân bod?â meddai. âPam mae pawb yn crio?â A dyma nhwân dweud wrtho am neges pobl Jabesh. 6Pan glywodd Saul hyn, dyma Ysbryd Duw yn dod arnoân rymus. Roedd wedi gwylltioân lân. 7Dyma feân lladd pâr o ychen aâu torri nhwân ddarnau mân, ac anfon negeswyr gydaâr darnau i bob ardal yn Israel. Roedden nhw i gyhoeddi fel hyn: âPwy bynnag syân gwrthod cefnogi Saul a Samuel a dod allan i ymladd, dyma fydd yn digwydd iâw ychen e!â Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar bawb, felly dyma nhwân dod allan fel un dyn. 8Pan wnaeth Saul eu cyfri nhw yn Besec, roedd yna 300,000 o ddynion o Israel a 30,000 o Jwda. 9A dyma nhwân dweud wrth y negeswyr oedd wedi dod o Jabesh yn Gilead, âDwedwch wrth bobl Jabesh, âErbyn canol dydd fory, byddwch wediâch achub.ââ Aeth y negeswyr a dweud hynny wrth bobl Jabesh, ac roedden nhw wrth eu boddau. 10Yna dyma nhwân dweud wrth Nachash, âYfory byddwn niân dod allan atoch chi, a cewch wneud fel y mynnoch hefo ni.â
11Y noson honno#11:11 y noson honno Hebraeg, ây diwrnod wedynâ. Roedd diwrnod newydd yn dechrau pan oedd yr haul yn machlud, a sylwer fod yr ymosodiad wedi digwydd cyn iddi wawrio. dyma Saul yn rhannuâr dynion yn dair mintai. Dyma nhwân mynd i mewn i wersyll byddin Ammon cyn iddi wawrio, a buon nhwân taro byddin Ammon tan ganol dydd. Roedd y rhai oedd yn dal yn fyw ar chwâl, pob un ohonyn nhw ar ei ben ei hun.
12Yna dymaâr bobl yn gofyn i Samuel, âBle maeâr rhai oedd yn dweud, âPam ddylai Saul fod yn frenin arnon ni?â Dewch â nhw yma. Maen nhwân haeddu marw!â 13Ond dyma Saul yn dweud, âDoes neb i gael ei ladd heddiw. Maeân ddiwrnod pan maeâr ARGLWYDD wedi rhoi buddugoliaeth i Israel!â
14âDewch,â meddai Samuel, âgadewch i ni fynd i Gilgal, a sefydluâr frenhiniaeth yno eto.â 15Felly dymaâr bobl i gyd yn mynd i Gilgal a gwneud Saul yn frenin yno o flaen yr ARGLWYDD. Yna dyma nhwân cyflwyno offrymau i gydnabod daioniâr ARGLWYDD. Roedd Saul a phobl Israel i gyd yn dathluân llawen yno.
Dewis Presennol:
1 Samuel 11: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Š Cymdeithas y Beibl 2023