Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Cronicl 4

4
Dodrefn y Deml
(1 Brenhinoedd 7:23-51)
1Dyma fe’n gwneud allor o bres, naw metr sgwâr a phedwar metr a hanner o daldra. 2Yna dyma fe’n gwneud basn anferth i ddal dŵr. Roedd hwn wedi’i wneud o bres wedi’i gastio, ac yn cael ei alw ‘Y Môr’. Roedd yn bedwar metr a hanner ar draws o un ochr i’r llall, dros ddau fetr o ddyfnder ac un deg tri metr a hanner o’i hamgylch. 3O gwmpas ‘Y Môr’, o dan y rhimyn, roedd dwy res o addurniadau bach yn edrych fel teirw, un bob rhyw bedwar centimetr a hanner. 4Roedd ‘Y Môr’ wedi’i osod ar gefn un deg dau o ychen. Roedd tri yn wynebu tua’r gogledd, tri tua’r gorllewin, tri tua’r de a thri tua’r dwyrain. Roedden nhw i gyd yn wynebu tuag allan gyda’u cynffonnau at i mewn. 5Roedd y basn tua lled dwrn o drwch, ac roedd ei ymyl fel ymyl cwpan siâp blodyn lili. Roedd yn dal tua saith deg mil litr o ddŵr.
6Gwnaeth ddeg dysgl bres hefyd, a gosod pump ar ochr y de a phump ar ochr y gogledd. Roedd yr offer i gyflwyno’r aberthau oedd i’w llosgi yn cael eu golchi yn y rhain, ond roedd yr offeiriaid yn ymolchi yn y basn mawr oedd yn cael ei alw ‘Y Môr’.
7Yna dyma fe’n gwneud deg stand aur i ddal lampau, yn unol â’r patrwm, a’u gosod yn y deml. Roedd pump ar yr ochr dde a phump ar y chwith.
8Ac yna dyma fe’n gwneud deg bwrdd, a gosod y rhain yn y deml, pump ar yr ochr dde a phump ar y chwith. Gwnaeth gant o fowlenni aur hefyd.
9Wedyn, dyma fe’n gwneud iard yr offeiriaid a’r cwrt mawr a’r drysau oedd wedi’u gorchuddio gyda pres. 10Yna gosododd ‘Y Môr’ i’r de-ddwyrain o’r deml.
11Huram wnaeth y bwcedi lludw, y rhawiau a’r powlenni taenellu hefyd.
Gorffennodd y cwbl o’r gwaith roedd y Brenin Solomon wedi’i roi iddo i’w wneud ar deml Dduw. 12Roedd wedi gwneud: y ddau biler, y capiau i’w gosod ar ben y ddau biler, dau set o batrymau wedi’u plethu i fynd dros y capiau, 13pedwar cant o bomgranadau i’w gosod yn ddwy res ar y ddau set o batrymau oedd wedi’u plethu ar y capiau ar ben y pileri. 14Hefyd y deg troli ddŵr, a’r deg dysgl i fynd ar y deg troli, 15y basn anferth oedd yn cael ei alw ‘Y Môr’, gyda’r un deg dau o ychen oddi tano, 16a hefyd y bwcedi lludw, y rhawiau a’r ffyrc. Roedd yr holl gelfi yma wnaeth Huram i’r Brenin Solomon ar gyfer teml yr ARGLWYDD wedi’u gwneud o bres gloyw. 17Roedd y cwbl wedi cael eu castio mewn clai yn y ffowndri sydd rhwng Swccoth a Sereda, wrth afon Iorddonen. 18Gwnaeth Solomon gymaint o’r pethau yma, doedd dim posib gwybod beth oedd eu pwysau.
19Dyma Solomon yn gwneud yr holl bethau yma ar gyfer teml yr ARGLWYDD hefyd: yr allor aur, a’r byrddau roedden nhw’n rhoi’r bara arno oedd i’w osod o flaen Duw, 20y canwyllbrennau o aur pur, a’u lampau yn llosgi yn ôl y ddefod, wrth y fynedfa i’r gell fewnol gysegredig. 21Hefyd roedd y blodau, y lampau a’r gefeiliau wedi’u gwneud o aur pur. 22Yna y powlenni taenellu, y sisyrnau, y dysglau, y llwyau, a’r padellau tân, i gyd o aur pur. Roedd socedi’r drysau i’r cysegr mewnol (y Lle Mwyaf Sanctaidd) ac i brif neuadd y deml wedi’u gwneud o aur hefyd.

Dewis Presennol:

2 Cronicl 4: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda