2 Cronicl 6
6
Solomon yn canmol yr ARGLWYDD
(1 Brenhinoedd 8:12-21)
1Yna dyma Solomon yn dweud: “Mae’r ARGLWYDD yn dweud ei fod yn byw mewn cwmwl tywyll. 2ARGLWYDD, dyma fi wedi adeiladu teml wych i ti; lle i ti fyw ynddo am byth.”
3Yna dyma’r brenin yn troi i wynebu’r gynulleidfa a bendithio holl bobl Israel oedd yn sefyll yno: 4“Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel! Mae wedi gwneud y cwbl roedd wedi’i addo i Dafydd fy nhad. Roedd wedi dweud: 5‘Ers i mi ddod â’m pobl allan o wlad yr Aifft, wnes i ddim dewis un ddinas arbennig o blith llwythau Israel i adeiladu teml i fyw ynddi. A wnes i ddim dewis dyn i arwain fy mhobl Israel chwaith. 6Ond nawr dw i wedi dewis Jerwsalem i aros yno, a Dafydd i arwain fy mhobl Israel.’ 7Roedd fy nhad, Dafydd, wir eisiau adeiladu teml i anrhydeddu’r ARGLWYDD, Duw Israel. 8Ond dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, ‘Ti eisiau adeiladu teml i mi, ac mae’r bwriad yn un da. 9Ond nid ti fydd yn ei hadeiladu. Mab i ti fydd yn adeiladu teml i mi.’ 10A bellach mae’r ARGLWYDD wedi gwneud beth roedd wedi’i addo. Dw i wedi dod yn frenin ar Israel yn lle fy nhad Dafydd, a dw i wedi adeiladu’r deml yma i anrhydeddu’r ARGLWYDD, Duw Israel. 11Dw i wedi gosod yno yr Arch sy’n dal yr ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD gyda phobl Israel.”
Gweddi Solomon yn y Gwasanaeth Cysegru
(1 Brenhinoedd 8:22-53)
12Yna o flaen pawb, dyma fe’n mynd i sefyll o flaen yr Allor. Cododd ei ddwylo i’r awyr. 13(Roedd Solomon wedi gwneud llwyfan o bres a’i osod yng nghanol yr iard. Roedd y llwyfan tua dwy fedr sgwâr, a dros fedr o uchder.) Safodd ar y llwyfan, yna mynd ar ei liniau o flaen pobl Israel i gyd a chodi ei ddwylo i’r awyr, 14a gweddïo,
“O ARGLWYDD, Duw Israel, does dim Duw tebyg i ti yn y nefoedd na’r ddaear! Ti mor ffyddlon, yn cadw dy ymrwymiad i dy weision, y rhai sydd wir eisiau bod yn ufudd i ti. 15Ti wedi cadw dy addewid i Dafydd fy nhad. Heddiw, yma, ti wedi gwneud beth wnest ti ei addo. 16Nawr, ARGLWYDD, Duw Israel, cadw’r addewid arall wnest ti i Dafydd, fy nhad. Dyma wnest ti ddweud: ‘Bydd un o dy deulu di ar orsedd Israel am byth, dim ond i dy ddisgynyddion di fod yn ofalus eu bod yn byw yn ffyddlon i’m cyfraith fel rwyt ti wedi gwneud.’ 17Felly nawr, O ARGLWYDD, Duw Israel, gad i’r hyn wnest ti ei ddweud wrth fy nhad, dy was Dafydd, ddod yn wir.
18Wrth gwrs, dydy Duw ddim wir yn gallu byw gyda’r ddynoliaeth ar y ddaear! Dydy’r awyr i gyd a’r nefoedd uchod ddim digon mawr i dy ddal di! Felly pa obaith sydd i’r deml yma dw i wedi’i hadeiladu? 19Ond plîs gwrando fy ngweddi yn gofyn am dy help di, O ARGLWYDD fy Nuw. Ateb fi, wrth i mi weddïo’n daer arnat ti. 20Cadw dy lygaid ar y deml yma nos a dydd. Gwnest ti ddweud y byddi di’n byw yma. Felly ateb weddi dy was dros y lle hwn.
21Gwranda ar beth mae dy was a dy bobl Israel yn ei weddïo’n daer am y lle yma. Gwranda yn y nefoedd, lle rwyt ti’n byw. Clyw ni a maddau i ni.
22Os ydy rhywun wedi cael ei gyhuddo o wneud drwg i’w gymydog ac yn mynnu ei fod yn ddieuog o flaen yr allor yn y deml yma, 23yna gwrando di o’r nefoedd a gweithredu. Barna di rhyngon nhw. Cosba’r un sy’n euog, a gadael i’r dieuog fynd yn rhydd. Rho i’r ddau beth maen nhw’n ei haeddu.
24Pan fydd dy bobl Israel yn cael eu concro gan y gelyn am bechu yn dy erbyn di, os byddan nhw’n troi yn ôl atat ti, yn cydnabod pwy wyt ti ac yn gweddïo am dy help di yn y deml yma, 25yna gwrando di o’r nefoedd. Maddau bechod dy bobl Israel, a thyrd â nhw’n ôl i’r wlad wnest ti ei rhoi iddyn nhw a’u hynafiaid.
26Pan fydd dim glaw yn disgyn, am fod y bobl wedi pechu yn dy erbyn di. Os byddan nhw’n troi at y lle yma i weddïo arnat ti, yn cydnabod pwy wyt ti, ac yn stopio pechu am dy fod yn eu cosbi nhw 27yna gwrando di o’r nefoedd. Maddau i dy bobl Israel. Dysga nhw beth ydy’r ffordd iawn i fyw, ac anfon law eto ar y tir yma rwyt ti wedi’i roi i dy bobl ei gadw.
28Pan fydd y wlad yn cael ei tharo gan newyn neu bla – am fod y cnydau wedi’u difetha gan ormod o wres neu ormod o law, neu am eu bod wedi cael eu difa gan locustiaid, neu am fod gelynion wedi ymosod ar y wlad ac yn gwarchae ar ei dinasoedd. Beth bynnag fydd yr helynt neu’r broblem, 29gwrando di ar bob gweddi. Gwranda pan fydd unrhyw un o dy bobl Israel yn troi at y deml yma ac yn tywallt ei ofid o dy flaen di. 30Gwranda yn y nefoedd lle rwyt ti’n byw, a maddau. Rho i bob un beth mae’n ei haeddu. (Ti ydy’r unig un sy’n gwybod yn iawn beth sydd ar galon pob person byw.) 31Fel yna byddan nhw’n dy barchu di ac yn byw fel rwyt ti eisiau tra byddan nhw’n byw yn y wlad wyt ti wedi’i rhoi i’w hynafiaid.
32A bydd pobl o wledydd eraill yn dod yma i addoli ar ôl clywed amdanat ti – am dy enw da di, a’r ffaith dy fod ti’n gallu gwneud pethau mor anhygoel. Pan ddaw pobl felly i’r deml hon i weddïo, 33gwrando yn y nefoedd lle rwyt ti’n byw. Gwna beth mae’r bobl hynny’n ei ofyn gen ti. Wedyn bydd pobl drwy’r byd i gyd yn dod i dy nabod di ac yn dy barchu di, yr un fath â phobl Israel. Byddan nhw’n gwybod fod y deml yma wedi’i hadeiladu i dy anrhydeddu di.
34Hefyd pan fydd dy bobl yn mynd i ryfel yn erbyn eu gelynion, ble bynnag fyddi di’n eu hanfon nhw. Os byddan nhw’n troi tuag at y ddinas yma rwyt ti wedi’i dewis a’r deml dw i wedi’i hadeiladu i ti, ac yn gweddïo arnat ti, 35yna gwrando o’r nefoedd ar eu gweddi nhw am help, a gweithredu ar eu rhan nhw.
36Ond pan fydd dy bobl wedi pechu yn dy erbyn di (achos does neb sydd byth yn pechu!) a thithau’n wyllt gyda nhw, byddi’n gadael i’r gelyn eu dal nhw a’u cymryd yn gaeth i’w gwlad eu hunain, ble bynnag mae honno. 37Yna, yn y wlad ble maen nhw’n gaeth, byddan nhw’n callio ac yn newid eu ffyrdd. Byddan nhw’n troi yn ôl atat ti ac yn pledio’n daer gan ddweud, ‘Dŷn ni wedi pechu a bod yn anffyddlon a gwneud drwg.’ 38Byddan nhw’n troi yn ôl atat ti o ddifrif yn y wlad lle cawson nhw eu cymryd. Byddan nhw’n troi i weddïo tuag at eu gwlad a’r ddinas rwyt ti wedi’i dewis, a’r deml dw i wedi’i hadeiladu i ti. 39Gwranda o’r nefoedd ar eu gweddi nhw am help, a’u cefnogi nhw. Maddau i dy bobl yr holl bechodau a’r pethau drwg maen nhw wedi’u gwneud yn dy erbyn di.
40Felly, o Dduw, edrych a gwrando ar y gweddïau sy’n cael eu hoffrymu yn y lle yma. 41A nawr, o ARGLWYDD Dduw, dos i fyny i dy gartref – ti a dy Arch bwerus! Ac ARGLWYDD Dduw, boed i dy offeiriaid brofi dy achubiaeth. A boed i’r rhai sy’n ffyddlon i ti lawenhau yn dy ddaioni. 42O ARGLWYDD Dduw, paid troi cefn ar yr un wyt wedi’i eneinio. Cofia’r bendithion gafodd eu haddo i dy was Dafydd.”
Dewis Presennol:
2 Cronicl 6: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023