Ar y dechrau cyntaf, dyma Duw yn creu y bydysawd a’r ddaear. Roedd y ddaear yn anhrefn gwag, ac roedd hi’n hollol dywyll dros y dŵr dwfn. Ond roedd Ysbryd Duw yn hofran dros wyneb y dŵr. A dwedodd Duw, “Dw i eisiau golau!” a daeth golau i fod. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, a dyma Duw yn gwahanu’r golau oddi wrth y tywyllwch. Rhoddodd Duw yr enw ‘dydd’ i’r golau a’r enw ‘nos’ i’r tywyllwch, ac roedd nos a dydd ar y diwrnod cyntaf. Wedyn dwedodd Duw, “Dw i eisiau cromen o aer rhwng y dyfroedd, i wahanu’r dŵr yn ddau.” A dyna ddigwyddodd. Gwnaeth Duw gromen o aer, ac roedd yn gwahanu’r dŵr oddi tani oddi wrth y dŵr uwch ei phen. Rhoddodd Duw yr enw ‘awyr’ iddi, ac roedd nos a dydd ar yr ail ddiwrnod. Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i’r dŵr sydd dan yr awyr gasglu i un lle, er mwyn i ddaear sych ddod i’r golwg.” A dyna ddigwyddodd.
Darllen Genesis 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 1:1-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos