Genesis 1:1-9
Genesis 1:1-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar y dechrau cyntaf, dyma Duw yn creu y bydysawd a’r ddaear. Roedd y ddaear yn anhrefn gwag, ac roedd hi’n hollol dywyll dros y dŵr dwfn. Ond roedd Ysbryd Duw yn hofran dros wyneb y dŵr. A dwedodd Duw, “Dw i eisiau golau!” a daeth golau i fod. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, a dyma Duw yn gwahanu’r golau oddi wrth y tywyllwch. Rhoddodd Duw yr enw ‘dydd’ i’r golau a’r enw ‘nos’ i’r tywyllwch, ac roedd nos a dydd ar y diwrnod cyntaf. Wedyn dwedodd Duw, “Dw i eisiau cromen o aer rhwng y dyfroedd, i wahanu’r dŵr yn ddau.” A dyna ddigwyddodd. Gwnaeth Duw gromen o aer, ac roedd yn gwahanu’r dŵr oddi tani oddi wrth y dŵr uwch ei phen. Rhoddodd Duw yr enw ‘awyr’ iddi, ac roedd nos a dydd ar yr ail ddiwrnod. Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i’r dŵr sydd dan yr awyr gasglu i un lle, er mwyn i ddaear sych ddod i’r golwg.” A dyna ddigwyddodd.
Genesis 1:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a'r ddaear. Yr oedd y ddaear yn afluniaidd a gwag, ac yr oedd tywyllwch ar wyneb y dyfnder, ac ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd. A dywedodd Duw, “Bydded goleuni.” A bu goleuni. Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch. Galwodd Duw y goleuni yn ddydd a'r tywyllwch yn nos. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf. Yna dywedodd Duw, “Bydded ffurfafen yng nghanol y dyfroedd yn gwahanu dyfroedd oddi wrth ddyfroedd.” A gwnaeth Duw y ffurfafen, a gwahanodd y dyfroedd odani oddi wrth y dyfroedd uwchlaw iddi. A bu felly. Galwodd Duw y ffurfafen yn nefoedd. A bu hwyr a bu bore, yr ail ddydd. Yna dywedodd Duw, “Casgler ynghyd y dyfroedd dan y nefoedd i un lle, ac ymddangosed tir sych.” A bu felly.
Genesis 1:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn y dechreuad y creodd DUW y nefoedd a’r ddaear. A’r ddaear oedd afluniaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder, ac Ysbryd DUW yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd. A DUW a ddywedodd, Bydded goleuni, a goleuni a fu. A DUW a welodd y goleuni, mai da oedd: a DUW a wahanodd rhwng y goleuni a’r tywyllwch. A DUW a alwodd y goleuni yn Ddydd, a’r tywyllwch a alwodd efe yn Nos: a’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y dydd cyntaf. DUW hefyd a ddywedodd, Bydded ffurfafen yng nghanol y dyfroedd, a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a’r dyfroedd. A DUW a wnaeth y ffurfafen, ac a wahanodd rhwng y dyfroedd oddi tan y ffurfafen, a’r dyfroedd oddi ar y ffurfafen: ac felly y bu. A’r ffurfafen a alwodd DUW yn Nefoedd: a’r hwyr a fu, a’r bore a fu, yr ail ddydd. DUW hefyd a ddywedodd, Casgler y dyfroedd oddi tan y nefoedd i’r un lle, ac ymddangosed y sychdir: ac felly y bu.