Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 34

34
Negeseuon Jeremeia i’r Brenin Sedeceia ac i’r Rechabiaid
(34:1–35:19)
Neges i Sedeceia, brenin Jwda
1Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, a’i fyddin (oedd yn cynnwys milwyr o’r holl wledydd roedd wedi’u concro) yn ymosod ar Jerwsalem a’r trefi o’i chwmpas. A dyna pryd rhoddodd yr ARGLWYDD neges arall i Jeremeia, 2a dweud wrtho am fynd i ddweud wrth Sedeceia, brenin Jwda: “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i’n mynd i roi’r ddinas yma yn nwylo brenin Babilon, a bydd yn ei llosgi’n ulw. 3A fyddi di ddim yn dianc o’i afael. Byddi’n cael dy ddal ac yn cael dy osod i sefyll dy brawf o’i flaen a’i wynebu’n bersonol. Wedyn byddi’n cael dy gymryd i Babilon.’ 4Ond gwrando ar beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud amdanat ti, Sedeceia, brenin Jwda. Mae’n dweud: ‘Fyddi di ddim yn cael dy ddienyddio. 5Byddi’n cael marw’n dawel. Byddan nhw’n llosgi arogldarth yn dy angladd di, yn union fel gwnaethon nhw i’r brenhinoedd oedd o dy flaen di. Byddan nhw’n wylo ac yn galaru ar dy ôl di, “O, ein meistr!” Dw i’n addo i ti. Fi, yr ARGLWYDD, sy’n dweud hyn.’”
6Felly, dyma’r proffwyd Jeremeia yn dweud hyn i gyd wrth Sedeceia, brenin Jwda. 7Roedd byddin brenin Babilon yn dal i ymladd yn erbyn Jerwsalem ar y pryd, a hefyd yn erbyn Lachish ac Aseca,#34:7 Lachish ac Aseca Roedd Lachish 23 milltir i’r de-ddwyrain o Jerwsalem, ac Aseca 18 milltir i’r gogledd o Lachish. yr unig gaerau amddiffynnol yn Jwda oedd yn dal eu tir.
Rhyddid i gaethweision
8Cafodd Jeremeia neges arall gan yr ARGLWYDD ar ôl i’r Brenin Sedeceia ymrwymo gyda’r bobl yn Jerwsalem i ollwng eu caethweision yn rhydd. 9Roedd pawb i fod i ryddhau’r dynion a’r merched oedd yn gaethweision.#Deuteronomium 15:12; Exodus 21:1-6 Doedd neb i fod i gadw un o’u pobl eu hunain o Jwda yn gaeth. 10Cytunodd pawb, yr arweinwyr a’r bobl i gyd, ac ymrwymo i ollwng eu caethweision yn rhydd – y dynion a’r merched oedd wedi bod yn gweithio iddyn nhw. Ar y dechrau dyma nhw’n gwneud beth roedden nhw wedi’i addo. 11Ond ar ôl hynny dyma nhw’n newid eu meddyliau, a chymryd y dynion a’r merched yn ôl, a’u gorfodi i weithio fel caethweision eto.
12Dyna pryd rhoddodd yr ARGLWYDD y neges yma i Jeremeia: 13“Dyma mae’r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Pan ddes i â’ch hynafiaid chi allan o’r Aifft, a’u rhyddhau nhw o fod yn gaethweision, gwnes i gytundeb gyda nhw: 14“Bob saith mlynedd rhaid i chi ollwng yn rhydd eich cydwladwyr Hebreig sydd wedi gwerthu eu hunain i chi ac wedi’ch gwasanaethu chi am chwe mlynedd.”#Deuteronomium 15:1,12 Ond wnaeth eich hynafiaid ddim gwrando na chymryd unrhyw sylw ohono i. 15Ond yna’n ddiweddar dyma chi’n newid eich ffyrdd a gwneud beth roeddwn i eisiau. Dyma chi’n gadael i’ch cydwladwyr fynd yn rhydd, ac mewn seremoni yn y deml ymrwymo i gadw at hynny. 16Ond wedyn dyma chi’n newid eich meddwl eto a dangos bod gynnoch chi ddim parch ata i go iawn. Dyma chi’n cymryd y dynion a’r merched oedd wedi cael eu gollwng yn rhydd i fyw eu bywydau eu hunain, a’u gwneud nhw’n gaethweision unwaith eto!
17“‘Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Dych chi ddim wedi gwrando arna i go iawn. Dych chi ddim wedi gollwng eich cymdogion a’ch cydwladwyr yn rhydd. Felly dw i’n mynd i roi rhyddid i ryfel, newyn a haint eich lladd chi.” Fi, yr ARGLWYDD, sy’n dweud hyn. “Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. 18Bydda i’n cosbi’r bobl hynny sydd wedi torri amodau’r ymrwymiad. Bydda i’n eu gwneud nhw fel y llo gafodd ei dorri yn ei hanner ganddyn nhw wrth dyngu’r llw a cherdded rhwng y darnau.#34:18 y llo … y darnau Mae hyn yn adlewyrchu’r ffordd roedd ymrwymiad o’r fath yn cael ei gadarnhau yn seremonïol (cf. Genesis 15:7-18a). 19Bydda i’n cosbi swyddogion Jwda, swyddogion Jerwsalem, swyddogion y llys brenhinol, yr offeiriaid, a phawb arall wnaeth gerdded rhwng y darnau o’r llo. 20Byddan nhw’n cael eu rhoi yn nwylo’r gelynion sydd am eu lladd nhw. Bydd eu cyrff yn fwyd i adar ac anifeiliaid gwyllt. 21Bydd y Brenin Sedeceia a’i swyddogion yn cael eu rhoi yn nwylo’r gelynion hefyd. Mae brenin Babilon a’i fyddin wedi mynd i ffwrdd a stopio ymosod arnoch chi am y tro. 22Ond dw i, yr ARGLWYDD, yn mynd i orchymyn iddyn nhw ddod yn ôl yn fuan iawn. Byddan nhw’n ymladd yn erbyn y ddinas yma, yn ei choncro, ac yn ei llosgi’n ulw. Bydd trefi Jwda yn cael eu dinistrio’n llwyr, a fydd neb yn byw yno.”’”

Dewis Presennol:

Jeremeia 34: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda