Lefiticus 21
21
Rheolau i offeiriaid
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dwed hyn wrth yr offeiriaid, disgynyddion Aaron:
“Dydy offeiriad ddim i wneud ei hun yn aflan drwy fynd yn agos at gorff perthynas sydd wedi marw. 2Dydy e ddim ond yn cael mynd at ei berthnasau agosaf – mam, tad, merch, brawd, 3neu chwaer ddibriod oedd heb ŵr i ofalu amdani. 4Dydy e ddim i fynd at rywun sy’n perthyn iddo drwy briodas. Byddai’n gwneud ei hun yn aflan wrth wneud hynny. 5Dydy offeiriad ddim i siafio rhan o’i ben yn foel, na trimio ei farf, na torri ei hun wrth alaru. 6Maen nhw i gysegru eu hunain i Dduw, a pheidio sarhau enw eu Duw. Nhw sy’n cyflwyno offrymau i’w llosgi i’r ARGLWYDD, sef bwyd i’w Duw. Maen nhw i fod wedi’u cysegru. 7Dydy offeiriad ddim i briodi putain, na gwraig sydd wedi gweithio mewn teml baganaidd, na gwraig sydd wedi cael ysgariad. Maen nhw wedi cysegru eu hunain i Dduw. 8Rhaid i chi ystyried yr offeiriad yn sanctaidd, am fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi’ch cysegru chi yn bobl i mi fy hun. 9Pan mae merch offeiriad yn amharchu ei hun drwy droi’n butain grefyddol, mae hi’n amharchu ei thad hefyd. Rhaid iddi gael ei llosgi i farwolaeth.
10“Dydy’r archoffeiriad, sef yr un sydd wedi cael ei eneinio ag olew a’i ordeinio i wisgo’r gwisgoedd offeiriadol, ddim i adael ei wallt yn flêr nac i rwygo’i ddillad. 11Dydy e ddim i fynd yn agos at gorff marw. Dydy e ddim i wneud ei hun yn aflan hyd yn oed pan mae ei dad neu ei fam wedi marw. 12Dydy e ddim i fynd allan o’r cysegr, rhag iddo sarhau cysegr Duw. Mae wedi’i gysegru gydag olew eneinio ei Dduw. Fi ydy’r ARGLWYDD. 13Rhaid iddo briodi merch sy’n wyryf. 14Dydy e ddim i briodi gwraig weddw, gwraig sydd wedi cael ysgariad, gwraig sydd wedi gweithio mewn teml baganaidd neu butain. Rhaid iddo briodi merch o’i lwyth ei hun sy’n wyryf, 15rhag iddo gael plant sydd ddim yn dderbyniol i Dduw. Fi ydy’r ARGLWYDD sydd wedi’i gysegru e i mi fy hun.”
16Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 17“Dwed wrth Aaron: Does neb o dy ddisgynyddion di sydd â nam arno i gael dod yn agos i offrymu bwyd ei Dduw. 18Neb sy’n ddall, yn gloff, gyda wyneb wedi’i anffurfio, neu ryw nam corfforol arall, 19wedi torri ei goes neu ei fraich, 20yn grwca neu’n gorrach, neu’n ddyn sydd â rhywbeth o’i le ar ei lygaid, rhyw afiechyd ar y croen, neu wedi niweidio ei geilliau. 21Does neb o ddisgynyddion Aaron sydd â nam arnyn nhw i gael dod i offrymu rhoddion i’r ARGLWYDD. Os oes nam arno, dydy e ddim yn cael cyflwyno bwyd ei Dduw. 22Mae’n iawn iddo fwyta bwyd ei Dduw, yr hyn sydd wedi’i gysegru a’r offrymau mwyaf sanctaidd. 23Ond dydy e ddim i gael mynd yn agos at y llen na’r allor, am fod nam arno, rhag iddo lygru fy lle cysegredig i a phopeth sydd yno. Fi ydy’r ARGLWYDD sydd yn eu cysegru nhw i mi fy hun.”
24Dyma’r pethau ddwedodd Moses wrth Aaron a’i ddisgynyddion ac wrth bobl Israel.
Dewis Presennol:
Lefiticus 21: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023