Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Micha 3

3
Arweinwyr Jwda ar fai
1Yna dwedais,
“Gwrandwch, arweinwyr Jacob,
chi sy’n arwain pobl Israel.#3:1,8 Israel Yma mae ‘Jacob’ ac ‘Israel’ yn cyfeirio at Jwda, teyrnas y de.
Dylech wybod beth ydy cyfiawnder!
2Ond dych chi’n casáu’r da
ac yn caru’r drwg!
Dych chi’n blingo fy mhobl yn fyw,
ac yn ymddwyn fel canibaliaid!
3Dych chi’n bwyta cnawd fy mhobl,
yn eu blingo nhw’n fyw
a malu eu hesgyrn.
Torri eu cyrff yn ddarnau
fel cig i’w daflu i’r crochan.”
4Ryw ddydd byddan nhw’n galw ar yr ARGLWYDD am help,
ond fydd e ddim yn ateb.
Bydd e’n troi ei gefn arnyn nhw bryd hynny
am eu bod wedi gwneud cymaint o ddrwg.
Yn erbyn y proffwydi
5Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth y proffwydi:
“Dych chi’n camarwain fy mhobl!
Dych chi’n addo heddwch am bryd o fwyd,
ond os na gewch chi’ch talu
dych chi’n bygwth rhyfel!
6Felly bydd hi’n nos arnoch chi, heb weledigaeth –
byddwch yn y tywyllwch, yn gallu dehongli dim.
Bydd yr haul wedi machlud arnoch chi,
a’ch dydd wedi dod i ben!
7Bydd cywilydd ar y proffwydi,
a bydd y dewiniaid wedi drysu.
Fyddan nhw’n dweud dim,
am fod Duw ddim yn ateb.”
8Ond dw i, ar y llaw arall, yn llawn
o nerth Ysbryd yr ARGLWYDD
ac yn credu’n gryf mewn cyfiawnder.
Dw i’n herio Jacob am ei wrthryfel,
ac yn gwneud i Israel wynebu ei phechod.
Yn erbyn y sefydliad
9Gwrandwch, arweinwyr Jacob,
chi sy’n arwain pobl Israel –
chi sy’n casáu cyfiawnder
ac yn gwyrdroi’r gwir.
10Dych chi’n adeiladu Seion drwy drais,
a Jerwsalem drwy lygredd a thwyll.
11Mae’r barnwyr yn derbyn breib,#Deuteronomium 16:19; Diarhebion 17:23
yr offeiriaid yn dysgu am elw,
a’r proffwydi’n dehongli am dâl –
tra’n honni pwyso ar yr ARGLWYDD!
“Mae’r ARGLWYDD gyda ni!” medden nhw.
“Does wir ddim dinistr i ddod!”
12Felly chi sydd ar fai!
Bydd Seion yn cael ei haredig fel cae,
a bydd Jerwsalem yn bentwr o gerrig.#Salm 79:1
Bydd y bryn ble mae’r deml yn sefyll
yn goedwig wedi tyfu’n wyllt.#Jeremeia 26:18

Dewis Presennol:

Micha 3: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda