Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 51:1-19

Salm 51:1-19 BNET

O Dduw, dangos drugaredd ata i; rwyt ti mor llawn cariad. Gan dy fod ti mor barod i dosturio, wnei di ddileu’r gwrthryfel oedd yno i? Golcha’r drygioni ohono i’n llwyr, a phura fi o’m pechod. Dw i’n cyfaddef mod i wedi tynnu’n groes, a dw i’n ymwybodol iawn o’m methiant. Yn dy erbyn di dw i wedi pechu, ie, dim ond ti, a gwneud beth sy’n ddrwg yn dy olwg. Mae beth rwyt ti’n ddweud yn hollol deg, ac rwyt ti’n iawn i’m cosbi i. Y gwir ydy, ces fy ngeni’n bechadur; roedd y pechod yno pan wnaeth mam feichiogi arna i. Ond rwyt ti eisiau gonestrwydd y tu mewn; rwyt ti eisiau i mi fod yn ddoeth. Pura fi ag isop, i’m gwneud yn hollol lân; golcha fi, nes bydda i’n lanach nag eira. Gad i mi wybod beth ydy bod yn hapus eto; rwyt ti wedi malu fy esgyrn – gad i mi lawenhau eto. Paid edrych ar fy mhechodau i; dilea’r drygioni i gyd. Crea galon lân yno i, O Dduw, a rhoi ysbryd penderfynol i mi unwaith eto. Paid taflu fi i ffwrdd oddi wrthot ti, na chymryd dy Ysbryd Glân oddi arna i. Gad i mi brofi’r wefr eto o gael fy achub gen ti, a gwna fi’n awyddus i fod yn ufudd i ti. Wedyn bydda i’n dysgu’r rhai sy’n gwrthryfela i dy ddilyn di, a bydd pechaduriaid yn troi atat ti. Maddau i mi am fod wedi tywallt gwaed, O Dduw. Ti ydy’r Duw sy’n fy achub i, a bydda i’n canu am dy faddeuant di. O ARGLWYDD, agor fy ngheg, i mi gael dy foli. Nid aberthau sy’n dy blesio di, a dydy offrwm i’w losgi ddim yn dy fodloni di. Yr aberthau wyt ti eisiau ydy ysbryd wedi’i ddryllio, calon wedi’i thorri, ac ysbryd sy’n edifar – wnei di ddim diystyru peth felly, O Dduw. Gwna i Seion lwyddo! Helpa hi! Adeilada waliau Jerwsalem unwaith eto! Wedyn bydd aberthau sy’n cael eu cyflwyno’n iawn, ac offrymau cyflawn i’w llosgi, yn dy blesio di; a bydd teirw yn cael eu hoffrymu ar dy allor di.