Salm 51:1-19
Salm 51:1-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O Dduw, dangos drugaredd ata i; rwyt ti mor llawn cariad. Gan dy fod ti mor barod i dosturio, wnei di ddileu’r gwrthryfel oedd yno i? Golcha’r drygioni ohono i’n llwyr, a phura fi o’m pechod. Dw i’n cyfaddef mod i wedi tynnu’n groes, a dw i’n ymwybodol iawn o’m methiant. Yn dy erbyn di dw i wedi pechu, ie, dim ond ti, a gwneud beth sy’n ddrwg yn dy olwg. Mae beth rwyt ti’n ddweud yn hollol deg, ac rwyt ti’n iawn i’m cosbi i. Y gwir ydy, ces fy ngeni’n bechadur; roedd y pechod yno pan wnaeth mam feichiogi arna i. Ond rwyt ti eisiau gonestrwydd y tu mewn; rwyt ti eisiau i mi fod yn ddoeth. Pura fi ag isop, i’m gwneud yn hollol lân; golcha fi, nes bydda i’n lanach nag eira. Gad i mi wybod beth ydy bod yn hapus eto; rwyt ti wedi malu fy esgyrn – gad i mi lawenhau eto. Paid edrych ar fy mhechodau i; dilea’r drygioni i gyd. Crea galon lân yno i, O Dduw, a rhoi ysbryd penderfynol i mi unwaith eto. Paid taflu fi i ffwrdd oddi wrthot ti, na chymryd dy Ysbryd Glân oddi arna i. Gad i mi brofi’r wefr eto o gael fy achub gen ti, a gwna fi’n awyddus i fod yn ufudd i ti. Wedyn bydda i’n dysgu’r rhai sy’n gwrthryfela i dy ddilyn di, a bydd pechaduriaid yn troi atat ti. Maddau i mi am fod wedi tywallt gwaed, O Dduw. Ti ydy’r Duw sy’n fy achub i, a bydda i’n canu am dy faddeuant di. O ARGLWYDD, agor fy ngheg, i mi gael dy foli. Nid aberthau sy’n dy blesio di, a dydy offrwm i’w losgi ddim yn dy fodloni di. Yr aberthau wyt ti eisiau ydy ysbryd wedi’i ddryllio, calon wedi’i thorri, ac ysbryd sy’n edifar – wnei di ddim diystyru peth felly, O Dduw. Gwna i Seion lwyddo! Helpa hi! Adeilada waliau Jerwsalem unwaith eto! Wedyn bydd aberthau sy’n cael eu cyflwyno’n iawn, ac offrymau cyflawn i’w llosgi, yn dy blesio di; a bydd teirw yn cael eu hoffrymu ar dy allor di.
Salm 51:1-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, yn ôl dy ffyddlondeb; yn ôl dy fawr dosturi dilea fy nhroseddau; golch fi'n lân o'm drygioni, a glanha fi o'm pechod. Oherwydd gwn am fy nhroseddau, ac y mae fy mhechod yn wastad gyda mi. Yn dy erbyn di, ti yn unig, y pechais a gwneud yr hyn a ystyri'n ddrwg, fel dy fod yn gyfiawn yn dy ddedfryd, ac yn gywir yn dy farn. Wele, mewn drygioni y'm ganwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam. Wele, yr wyt yn dymuno gwirionedd oddi mewn; felly dysg imi ddoethineb yn y galon. Pura fi ag isop fel y byddaf lân; golch fi fel y byddaf wynnach nag eira. Pâr imi glywed gorfoledd a llawenydd, fel y bo i'r esgyrn a ddrylliaist lawenhau. Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau, a dilea fy holl euogrwydd. Crea galon lân ynof, O Dduw, rho ysbryd newydd cadarn ynof. Paid â'm bwrw ymaith oddi wrthyt, na chymryd dy ysbryd sanctaidd oddi arnaf. Dyro imi eto orfoledd dy iachawdwriaeth, a chynysgaedda fi ag ysbryd ufudd. Dysgaf dy ffyrdd i droseddwyr, fel y dychwelo'r pechaduriaid atat. Gwared fi rhag gwaed, O Dduw, Duw fy iachawdwriaeth, ac fe gân fy nhafod am dy gyfiawnder. Arglwydd, agor fy ngwefusau, a bydd fy ngenau yn mynegi dy foliant. Oherwydd nid wyt yn ymhyfrydu mewn aberth; pe dygwn boethoffrymau, ni fyddit fodlon. Aberthau Duw yw ysbryd drylliedig; calon ddrylliedig a churiedig ni ddirmygi, O Dduw. Gwna ddaioni i Seion yn dy ras; adeilada furiau Jerwsalem. Yna fe ymhyfrydi mewn aberthau cywir— poethoffrwm ac aberth llosg— yna fe aberthir bustych ar dy allor.
Salm 51:1-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Trugarha wrthyf, O DDUW, yn ôl dy drugarowgrwydd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau, dilea fy anwireddau. Golch fi yn llwyr ddwys oddi wrth fy anwiredd, a glanha fi oddi wrth fy mhechod. Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau: a’m pechod sydd yn wastad ger fy mron. Yn dy erbyn di, dydi dy hunan, y pechais, ac y gwneuthum y drwg hwn yn dy olwg: fel y’th gyfiawnhaer pan leferych, ac y byddit bur pan farnech. Wele, mewn anwiredd y’m lluniwyd; ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf. Wele, ceraist wirionedd oddi mewn: a pheri i mi wybod doethineb yn y dirgel. Glanha fi ag isop, a mi a lanheir: golch fi, a byddaf wynnach na’r eira. Pâr i mi glywed gorfoledd a llawenydd; fel y llawenycho yr esgyrn a ddrylliaist. Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau, a dilea fy holl anwireddau. Crea galon lân ynof, O DDUW; ac adnewydda ysbryd uniawn o’m mewn. Na fwrw fi ymaith oddi ger dy fron; ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddi wrthyf. Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth; ac â’th hael ysbryd cynnal fi. Yna y dysgaf dy ffyrdd i rai anwir; a phechaduriaid a droir atat. Gwared fi oddi wrth waed, O DDUW, DUW fy iachawdwriaeth: a’m tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder. ARGLWYDD, agor fy ngwefusau, a’m genau a fynega dy foliant. Canys ni chwenychi aberth; pe amgen, mi a’i rhoddwn: poethoffrwm ni fynni. Aberthau DUW ydynt ysbryd drylliedig: calon ddrylliog gystuddiedig, O DDUW, ni ddirmygi. Gwna ddaioni yn dy ewyllysgarwch i Seion: adeilada furiau Jerwsalem. Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder, i boethoffrwm ac aberth llosg: yna yr offrymant fustych ar dy allor.