Dŷn ni’n gwybod y byddwn ni ddim yn cael ein siomi yn y gobaith yna, am fod Duw eisoes wedi tywallt ei gariad yn ein calonnau drwy roi’r Ysbryd Glân i ni! Pan oedd pethau’n gwbl anobeithiol arnon ni, dyma’r Meseia yn dod ar yr adeg iawn i farw droson ni rai drwg! Prin bod unrhyw un yn fodlon marw dros berson hunangyfiawn. Falle y byddai rhywun yn fodlon marw dros berson da. Ond mae Duw yn dangos i ni gymaint mae’n ein caru ni: mae’r Meseia wedi marw droson ni pan oedden ni’n dal i bechu yn ei erbyn! Dŷn ni bellach wedi cael ein derbyn i berthynas iawn gyda Duw am fod gwaed y Meseia wedi’i dywallt. Does dim amheuaeth, felly, y byddwn ni’n cael ein harbed ganddo rhag cael ein cosbi! Os mai marwolaeth Mab Duw wnaeth ein perthynas ni â Duw yn iawn (a hynny pan oedden ni’n dal yn elynion iddo!), does dim amheuaeth o gwbl, gan ein bod ni bellach yn y berthynas yma, y byddwn ni’n cael ein hachub am ei fod yn fyw! Dŷn ni’n brolio am Dduw o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia! Fe sydd wedi gwneud y berthynas iawn yma’n bosib.
Darllen Rhufeiniaid 5
Gwranda ar Rhufeiniaid 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 5:5-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos