Rhufeiniaid 5
5
Heddwch a Llawenydd bod yn iawn gyda Duw
1Felly, gan ein bod ni wedi’n derbyn i berthynas iawn gyda Duw, drwy gredu, mae gynnon ni heddwch gyda Duw o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia. 2Wrth gredu dŷn ni eisoes wedi dod i brofi haelioni Duw, a gallwn edrych ymlaen yn llawen i gael rhannu yn ei ysblander. 3A dŷn ni’n gallu bod yn llawen hyd yn oed pan dŷn ni’n dioddef, am ein bod ni’n gwybod fod dioddefaint yn rhoi’r nerth i ni ddal ati. 4Mae’r gallu i ddal ati yn cryfhau ein cymeriad ni, a dyna sy’n rhoi i ni’r gobaith hyderus sydd gynnon ni. 5Dŷn ni’n gwybod y byddwn ni ddim yn cael ein siomi yn y gobaith yna, am fod Duw eisoes wedi tywallt ei gariad yn ein calonnau drwy roi’r Ysbryd Glân i ni!
6Pan oedd pethau’n gwbl anobeithiol arnon ni, dyma’r Meseia yn dod ar yr adeg iawn i farw droson ni rai drwg! 7Prin bod unrhyw un yn fodlon marw dros berson hunangyfiawn. Falle y byddai rhywun yn fodlon marw dros berson da. 8Ond mae Duw yn dangos i ni gymaint mae’n ein caru ni: mae’r Meseia wedi marw droson ni pan oedden ni’n dal i bechu yn ei erbyn!
9Dŷn ni bellach wedi cael ein derbyn i berthynas iawn gyda Duw am fod gwaed y Meseia wedi’i dywallt. Does dim amheuaeth, felly, y byddwn ni’n cael ein harbed ganddo rhag cael ein cosbi! 10Os mai marwolaeth Mab Duw wnaeth ein perthynas ni â Duw yn iawn (a hynny pan oedden ni’n dal yn elynion iddo!), does dim amheuaeth o gwbl, gan ein bod ni bellach yn y berthynas yma, y byddwn ni’n cael ein hachub am ei fod yn fyw!
11Dŷn ni’n brolio am Dduw o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia! Fe sydd wedi gwneud y berthynas iawn yma’n bosib.
Marwolaeth drwy Adda, bywyd drwy’r Meseia
12Daeth pechod i’r byd drwy un dyn, a marwolaeth o ganlyniad i hynny.#gw. Genesis 3:1-6 Ac mae pawb yn marw, am fod pawb wedi pechu. 13Oedd, roedd pechod yn y byd cyn i Dduw roi’r Gyfraith i Moses. Er bod pechod ddim yn cael ei gyfri am fod y Gyfraith ddim yno i’w thorri, roedd pechod yno, ac roedd yn gadael ei ôl. 14Roedd pobl yn marw o gyfnod Adda hyd amser Moses. Roedden nhw’n marw er eu bod nhw ddim wedi pechu yn union yn yr un ffordd ag Adda drwy fod yn anufudd i orchymyn penodol. Mewn rhyw ffordd mae Adda yn fodel o’r Meseia oedd yn mynd i ddod. 15Ac eto tasen ni’n cymharu’r rhodd o faddeuant gyda throsedd Adda, maen nhw’n wahanol iawn i’w gilydd! Marwolaeth tyrfa enfawr o bobl oedd canlyniad trosedd un (sef Adda). Ond tywallt maddeuant ar dyrfa enfawr o bobl oedd canlyniad beth wnaeth y llall (sef Iesu y Meseia) – ie, maddeuant yn rhodd gan Dduw! 16Ac mae canlyniad y rhodd mor wahanol i ganlyniad y pechod. Barn a chosb sy’n dilyn yr un trosedd hwnnw, ond mae’r rhodd o faddeuant yn gwneud ein perthynas ni â Duw yn iawn. Dŷn ni’n cael ein gollwng yn rhydd er gwaetha llu o bechodau. 17Canlyniad trosedd un dyn (sef Adda) oedd fod pawb yn marw, ond o achos beth wnaeth y dyn arall (Iesu y Meseia), bydd y rhai sy’n derbyn rhodd Duw o berthynas iawn gydag e yn cael bywyd tragwyddol.
18Felly, canlyniad Adda’n troseddu oedd condemnio’r ddynoliaeth, ond canlyniad Iesu yn gwneud y peth iawn oedd bod perthynas iawn gyda Duw, a bywyd, yn cael ei gynnig i’r ddynoliaeth. 19Cafodd tyrfa enfawr o bobl eu gwneud yn bechaduriaid am fod Adda wedi bod yn anufudd. A’r un modd daeth tyrfa enfawr o bobl i berthynas iawn gyda Duw am fod Iesu wedi bod yn ufudd.
20Pwrpas rhoi’r Gyfraith i Moses oedd i helpu pobl i weld gymaint oedden nhw’n troseddu. Ond tra oedd pobl yn pechu fwy a mwy, dyma Duw yn tywallt ei haelioni y tu hwnt i bob rheswm. 21Yn union fel roedd pechod wedi cael gafael mewn pobl a hwythau wedyn yn marw, mae haelioni Duw yn gafael mewn pobl ac yn dod â nhw i berthynas iawn gydag e. Maen nhw’n cael bywyd tragwyddol – o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 5: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023