Ruth 4
4
Ruth a Boas yn priodi a chael mab
1Aeth Boas i’r llys wrth giât y dre ac eistedd yno. Cyn hir dyma’r perthynas agos roedd e wedi sôn wrth Ruth amdano yn dod heibio. “Gyfaill, tyrd yma,” galwodd Boas arno. “Tyrd i eistedd yma wrth fy ymyl i.” A dyma fe’n dod ac eistedd. 2Wedyn dyma Boas yn cael gafael ar ddeg o arweinwyr y dre, a’u cael nhw hefyd i eistedd gydag e. 3Wedyn dyma fe’n dweud wrth y perthynas agos, “Mae Naomi wedi dod yn ôl o wlad Moab, ac mae hi’n gwerthu’r darn o dir oedd gan Elimelech, ein perthynas ni. 4Rôn i’n meddwl y dylwn i adael i ti wybod, i ti ddweud o flaen y bobl a’r arweinwyr sydd yma os wyt ti am ei brynu. Os wyt ti eisiau’i brynu e, cymera fe, os nad wyt ti ei eisiau gad i mi wybod. Gen ti mae’r hawl cyntaf, ac yna fi ar dy ôl di.” A dyma’r perthynas yn ateb, “Ydw, dw i am ei brynu.” 5Ond wedyn dyma Boas yn dweud wrtho, “Pan fyddi di’n cymryd y tir, bydd rhaid i ti gymryd Ruth y Foabes hefyd. Ruth ydy gweddw’r dyn sydd wedi marw. Dy gyfrifoldeb di fydd codi etifedd iddo i gadw ei enw ar ei etifeddiaeth.” 6“Alla i ddim ei brynu felly,” meddai’r perthynas, “neu bydda i’n difetha fy etifeddiaeth fy hun.#4:6 difetha fy etifeddiaeth fy hun Byddai’n rhaid iddo adael peth o’r tir oedd ganddo i Ruth yn ogystal â’i deulu ei hun. Cymer di’r cyfrifoldeb i’w brynu. Alla i ddim.”
7Y drefn yn Israel ers talwm wrth drosglwyddo’r hawl i brynu eiddo yn ôl oedd: byddai dyn yn tynnu un o’i sandalau a’i rhoi hi i’r llall.#Deuteronomium 25:9 Dyna oedd y ffordd i gadarnhau cytundeb yn Israel. 8Felly, dyma’r perthynas agos yn dweud wrth Boas, “Cymer di’r hawl i’w brynu,” a dyma fe’n tynnu ei sandal a’i rhoi i Boas. 9A dyma Boas yn dweud wrth yr arweinwyr a phawb arall oedd yno, “Dych chi’n dystion, heddiw, fy mod i’n mynd i brynu gan Naomi bopeth oedd piau Elimelech a’i feibion Cilion a Machlon. 10Dw i hefyd yn derbyn y cyfrifoldeb i ofalu am Ruth y Foabes, gweddw Machlon. Dw i’n ei chymryd hi’n wraig i mi, er mwyn codi etifedd fydd yn cadw enw’r un fu farw ar ei etifeddiaeth,#Deuteronomium 25:5,6 fel bod ei enw ddim yn diflannu o’r dref. Dych chi’n dystion i hyn i gyd, heddiw!” 11A dyma’r arweinwyr a phawb arall oedd yn y llys yn dweud, “Ydyn, dŷn ni’n dystion. Boed i Dduw wneud y ferch yma sy’n dod i dy dŷ di yn debyg i Rachel a Lea, y ddwy sefydlodd Israel. A boed i tithau lwyddo yn Effrata, a gwneud enw i ti dy hun yn Bethlehem. 12A thrwy’r ferch ifanc yma mae e wedi’i rhoi i ti, boed i Dduw wneud dy deulu di fel teulu Perets roddodd Tamar i Jwda.”#4:12 Perets Roedd Boas yn un o ddisgynyddion Perets. #Genesis 38:27-30
13Felly dyma Boas yn priodi Ruth ac yn cysgu gyda hi. Dyma’r ARGLWYDD yn gadael iddi feichiogi, a chafodd fab. 14A dwedodd y gwragedd wrth Naomi, “Bendith ar yr ARGLWYDD! Wnaeth e ddim dy adael heb berthynas i ofalu amdanat ti! Bydd e’n enwog yn Israel. 15Bydd e’n rhoi bywyd yn ôl i ti. Bydd e’n gofalu amdanat yn dy henaint. Mae dy ferch-yng-nghyfraith sy’n dy garu di wedi rhoi genedigaeth iddo – ac mae hi’n well na saith mab i ti!” 16A dyma Naomi yn cymryd y bachgen ar ei gliniau a’i fagu. 17Rhoddodd y gwragedd lleol enw iddo, sef Obed, a dweud, “Mae Naomi wedi cael mab!”
Achau y Brenin Dafydd
Obed oedd tad Jesse a thaid y Brenin Dafydd.
18Dyma ddisgynyddion Perets:
Perets oedd tad Hesron,
19Hesron oedd tad Ram,
Ram oedd tad Aminadab,
20Aminadab oedd tad Nachshon,
Nachshon oedd tad Salmon,
21Salmon oedd tad Boas,
Boas oedd tad Obed,
22Obed oedd tad Jesse,
a Jesse oedd tad Dafydd.
Dewis Presennol:
Ruth 4: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023