Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 8

8
1pan gofiodd Duw Nöe, a’r holl fwystfilod, a’r holl anifeiliaid, a’r holl ehediaid, a’r holl ymlusgiaid a ymlusgant, a’r a oeddynt gydag ef yn yr arch. A Duw a ddug wynt ar y ddaiar; ac ymlonyddodd y dwfr. 2Cauwyd hefyd ffynnonau yr anoddyfn, a rheieidr y nefoedd; a lluddiwyd y gwlaw o’r nefoedd; 3ac enciliodd y dwfr, gan fyned oddi ar y ddaiar: ac ym mhen deng niwrnod a deugain a chant, y dwfr a dreiasai; ac yn y seithfed mis, ac ar y seithfed ar hugain o’r mis, y gorphwysodd yr arch ar fynyddoedd Ararat. 4A’r dwfr oedd yn treio hyd y degfed mis. 5Ac yn y degfed mis, ar y cyntaf o’r mis, yr ymddangosodd penau y mynyddoedd.
6A bu, ym mhen deugain niwrnod, agoryd o Nöe ddrws yr arch a wnaethai efe; 7ac efe a anfonodd allan gigfran i weled a dreiasai y dwfr; a hi a aeth, ond ni ddychwelodd, hyd oni sychodd y dwfr oddi ar y ddaiar. 8Ac ar ei hol hi efe a anfonodd golomen, i weled a dreiasai y dwfr oddi ar y ddaiar; 9ac ni chafodd y golomen orphwysfa i’w thraed; a hi a ddychwelodd ato ef i’r arch, am fod y dwfr ar holl wyneb y ddaiar; ac efe a estynodd ei law, ac a’i cymmerodd hi, ac a’i dygodd hi ato i’r arch. 10Ac efe a arosodd eto saith niwrnod ereill, ac a anfonodd y golomen drachefn allan o’r arch: 11a’r golomen a ddychwelodd ato ar brydnawn, â deilen olewwydden — brigyn yn ei gylfin hi: yna y gwybu Nöe dreio or dwfr oddi ar y ddaiar. 12Ac efe a arosodd eto saith niwrnod ereill ac a anfonodd y golomen drachefn; ond ni chwanegodd ddychwelyd ato ef mwy.
13A bu, yn yr unfed flwyddyn a chwe chant ym mywyd Nöe, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, i’r dwfr encilio oddi ar y ddaiar; a Nöe a ddidôdd yr arch a wnaethai efe, ac a welodd fod y dwfr wedi encilio oddi ar wyneb y ddaiar. 14Ac yn yr ail fis, ar y seithfed ar hugain o’r mis, y ddaiar a sychasai.
15A llefarodd yr Arglwydd Dduw wrth Nöe, gan ddywedyd, 16“Dos allan o’r arch, ti, a’th wraig, a’th feibion, a gwragedd dy feibion gyda thi; 17a’r holl fwystfilod a’r sy gyda thi, a phob cnawd, yn adar ac yn anifeiliaid; a phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaiar a ddygi allan gyda thi: amlhëwch a lluosogwch ar y ddaiar.” 18A Nöe a aeth allan, a’i wraig, a’i feibion, a gwragedd ei feibion gydag ef: 19hefyd yr holl fwystfilod, a’r holl anifeiliaid, a phob ehediad, a phob ymlusgiad a ymsymmudo ar y ddaiar, wrth eu rhywogaethau, a ddaethant allan o’r arch.
DOSBARTH VII
Duw yn addunedu na ddinystriai mo’r ddaiar mwy trwy ddylif: yn bendithio Nöe.
20Ac adeiladodd Nöe allor i’r Arglwydd, ac efe a gymmerodd o’r holl anifeiliaid glân, ac o’r holl ehediaid glân, ac a’u hoffrymodd hwynt yn boeth offrwm cyfan ar yr allor. 21A phan aroglodd yr Arglwydd Dduw arogl peraidd, yna yr ystyriodd yr Arglwydd Dduw, ac a ddywedodd, “Ni chwanegaf felltithio y ddaiar mwy, am weithredoedd dynion, er bod meddylfryd dyn yn ofalus ar ddrwg o’i ieuenctyd. Am hyny, ni chwanegaf mwy daro pob cnawd, fel y gwnaethym. 22Ni phaid, trwy’r dydd a’r nos, na had na chynauaf, nac oerni na gwres, na haf na gwanwyn, holl ddyddiau y ddaiar.”

Dewis Presennol:

Genesis 8: YSEPT

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda