Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 11

11
Huniad Lazurus: Crist ar y ffordd i Bethania.
1Ond yr oedd un yn glaf, Lazarus#11:1 Yr un ag Eleazar, Duw yw fy nghymhorth. o Bethania, o bentref Mair a Martha ei chwaer. 2A Mair#11:2 Yr oedd Mair o Bethania, Mair Magdalen, a'r hon oedd ‘Bechadures’ (Luc 7) yn bersonau gwahanol. oedd yr hon a eneiniodd#11:2 Defnyddir tri gair yn y T. N. am eneinio, murizo (yn Marc 14:8, yn unig), chriô, ac aleiphô. Defnyddir chriô am y Tâd yn eneinio y Mab, neu am eneiniad yr Yspryd Glân; aleiphô am eneinio yn llythyrenol (Mat 6:17; Marc 6:3; Luc 7:38; Iago 5:14). yr Arglwydd âg enaint#11:2 Muron, gwlybwr yn gyfansoddedig o wahanol sylweddau gwerthfawr a phersawrus, yn debyg i fygarogl neu berwynt (perfume). persawrus, ac a sychodd ei draed ef â'i gwallt, yr hon yr oedd ei brawd Lazarus yn glaf. 3Am hyny y chwiorydd a ddanfonasant ato ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae yr hwn sydd hoff genyt ti yn glaf#11:3 Nid ydynt yn dywedyd ‘Tyred.’ Barnant fod rhoddi gwybod y ffaith yn ddigon. Y mae Crist yn cyflawnu ei wyrth olaf, fel y blaenaf, yn y cylch teuluaidd; ac yma, fel yno, y mae yn ymddangos ar y cyntaf fel yn gwrthod.. 4A'r Iesu, pan glybu, a ddywedodd, Nid yw y clefyd hwn i farwolaeth, ond er#11:4 Llyth.: ar ran. gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwyddo. 5A'r Iesu oedd yn caru#11:5 phileô yn ad 4, agapaô yma. Am y gwahaniaeth, gweler 21:15–17; ond gellir sylwi fod phileô [philos, cyfaill] yn golygu gwres teimlad, megys cariad mam, chwaer, cyfaill, &c. Dynoda agapaô gariad pur yn cyfodi o farn ddiduedd a goleuedig, ac felly o barch at, ac edmygedd o'r gwrthrych fel un rhagorol. Y mae yr olaf felly yn uwch, yn burach, ac yn fwy arosol na'r blaenaf, a defnyddir ef am Gariad Duw a Christ. Martha, a'i chwaer, a Lazarus. 6Pan glybu efe gan hyny ei fod ef yn glaf, y pryd hwnw yn wir efe a arosodd yn y lle yr oedd ddau ddiwrnod. 7Yna wedi hyny y mae efe yn dywedyd wrth y Dysgyblion, Awn i Judea#11:7 i Judea, nid Bethania. Ni ddychwelodd efe er mwyn adgyfodi Lazarus, ond er mwyn cyflawnu ewyllys ei Dâd, a marw ar y Groes. drachefn. 8Y mae y Dysgyblion yn dywedyd wrtho, Rabbi, yr awrhon yr oedd yr Iuddewon yn ceisio dy labyddio di, ac a wyt ti yn myned yn ol yno drachefn#11:8 Neu. ac eto yr wyt ti yn myned yn ol yno drachefn!? 9Yr Iesu a atebodd, Onid oes deuddeg awr yn#11:9 Llyth.: o'r dydd. y dydd? Os rhodia neb yn y dydd, ni thramgwydda#11:9 proskoptô, taro yn erbyn, yna, tramgwyddo., am ei fod yn gweled goleuni y byd hwn. 10Ond os rhodia neb yn y nos, efe a dramgwydda, am nad yw y goleuni ynddo#11:10 ynddi hi [y nos] D. ef. 11Y pethau hyn a lefarodd efe: ac wedi hyn y mae efe yn dywedyd wrthynt, Y mae ein cyfaill Lazarus wedi huno#11:11 koimaô, rhoddi cwsg, tawelu: yn y goddefol, syrthio i gwsg, huno, koimêtêrion (S. cemetery) gorphwys‐fan, hûn‐fan. Y mae ffugyr y pagan wedi ei throi yn ffaith gan Gristionogaeth. Enw i guddio natur marwolaeth oedd hûn i'r pagan: esboniad ar ei natur yw hûn yn y T. N.: ond yr wyf fi yn myned i'w ddihuno#11:11 Yma yn unig yn y T. N. Gweler Act 16:27. ef. 12Dywedodd gan hyny y Dysgyblion wrtho, Arglwydd, Os yw ef yn huno#11:12 Llyth.; wedi huno, wedi syrthio i gwsg., efe a adferir#11:12 Llyth.: efe a achubir.. 13Ond yr oedd yr Iesu wedi llefaru am ei farwolaeth ef: ond hwy a dybiasant ei fod ef yn dywedyd am hûn cwsg. 14Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt yn eglur#11:14 parrhêsia, mewn ymadrodd eglur a chyflawn, heb alleg, na chymhariaeth, na ffygur., Bu farw#11:14 Bu farw, ond y mae yn cysgu. Lazarus. 15Ac y mae yn llawen genyf, er eich mwyn chwi, fel y credoch, nad oeddwn i yno: ond awn ato ef#11:15 fel at berson byw. Nid yw Angeu wedi tori y berthynas.. 16Gan hyny Thomas, yr hwn a elwir Didymus#11:16 Groeg: didumos; Hebraeg tom, thom [Cymharer Tom, Thomas], gefell. Yr oedd ef yn un o efelliaid, efallai mai Matthew oedd y llall. Enwir hwy yn fynych gyd â'u gilydd. Yr oedd meddwl Thomas hefyd yn efellaidd: weithiau yr oedd yn anghredadyn llwfr; ar brydiau eraill yr oedd ei ffydd yn aruchel, 14:5; 20:5, &c., a ddywedodd wrth ei gyd‐ddysgyblion, Awn ninau hefyd, fel y byddom feirw gyd âg ef#11:16 sef gyd â'r Iesu, ac nid Lazarus. Gweler 8. Yr oedd cariad Thomas yn gryf, ond ei ffydd yn wan..
Cyrhaedd Bethania: yr amgylchiadau yno.
17Yr Iesu gan hyny wedi dyfod, a'i cafodd ef wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd. 18Yn awr yr oedd Bethania yn agos i Jerusalem, ynghylch pymtheg ystâd#11:18 yn agos i ddwy filltir. oddi wrthi. 19A llawer o blith yr Iuddewon oeddynt wedi dyfod at Martha#11:19 y gwragedd gyd â Martha a Mair A Δ Ti. Testyn א B C L Brnd. ond Ti. a Mair, i'w cysuro am eu brawd. 20Martha gan hyny, cyn gynted ag y clybu, Y mae yr Iesu yn dyfod, a aeth i'w gyfarfod ef: ond Mair a eisteddodd yn y tŷ. 21Dywedodd Martha gan hyny wrth yr Iesu, Arglwydd, Pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd. 22Ac yr awrhon mi a wn, pa bethau bynag a ofynit#11:22 aiteô, gofyn, pan y gofyna yr israddol oddiwrth yr uwchraddol, megys dyn oddiwrth Dduw. Defnyddir erotaô gan un sydd yn gydradd âg arall, a hwn yw y gair a ddefnyddir gan Grist pan y ceisia unrhyw beth gan ei Dâd; ond nid yw Martha eto wedi amgyffred mawredd ei Berson, ac felly defnyddia y blaenaf. ti gan Dduw, y dyry Duw i ti. 23Y mae yr Iesu yn dywedyd wrthi, Adgyfodir dy frawd. 24Y mae Martha yn dywedyd wrtho, Myfi a wn yr adgyfodir ef yn yr Adgyfodiad yn y Dydd Diweddaf. 25Dywedodd yr Iesu wrthi,
MYFI YW YR ADGYFODIAD A'R BYWYD:
yr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw, efe a fydd byw. 26A phwy bynag sydd yn fyw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw o gwbl yn dragywydd. A wyt ti yn credu hyn#11:26 “Ai hon yw dy grediniaeth”? [touto].? 27Dywed hithau wrtho, Ydwyf#11:27 Llyth.: Ie., Arglwydd: yr wyf fi wedi#11:27 Felly y prif‐law‐ysgrifau. credu mai ti yw y Crist, Mab Duw, Yr Hwn#11:27 Un o enwau neu deitlau Crist. sydd yn Dyfod i'r Byd. 28Ac wedi iddi ddywedyd hyn, hi a aeth ymaith, ac a alwodd ei chwaer Mair, ac a ddywedodd yn ddirgel#11:28 Nid, hi a alwodd yn ddirgel. Y mae lathra yn sefyll o flaen y ferf sydd yn dal cysylltiad â hi (Mat 1:19; 2:7; Act 16:37). Darlleniad D yw, yn ddystaw., Y mae yr Athraw yma, ac y mae yn dy alw di. 29A hithau cyn gynted ag y clybu, a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth#11:29 Llyth.: ac yr oedd yn dyfod; ac a gychwynodd i ddyfod yw grym yr anmherffaith. ato ef. 30(Yn awr, nid oedd yr Iesu hyd yn hyn wedi dyfod i'r pentref, ond yr oedd eto#11:30 eto א B C X Brnd.; gad. A D. yn y lle y cyfarfuasai Martha âg ef). 31Yr Iuddewon gan hyny, y rhai oedd gyd a hi yn y tŷ, ac yn ei chysuro hi, wedi gweled Mair yn codi yn ebrwydd ac yn myned allan, a'i canlynasant hi, gan#11:31 gan dybied [doxantes] א B C D Brnd. gan ddywedyd A. dybied ei bod yn myned at y bedd, i alaru#11:31 Golyga klaiô, galaru, galarnadu, yn enwedig fel y gwnelai gwragedd yn y Dwyrain, gan ddolefain, cwynfan, a churo eu bronau, gan ddadgan eu gofid, &c. Felly defnyddir y gair yn benaf am fenywod, y rhai a roddant ‘ffordd’ i'w teimladau (Mair Magdalen, 20:11, 13; Rahel, Mat 2:18; y Weddw o Nain, Luc 7:13). Defnyddir ef hefyd am Petr, Marc 14:72. yno. 32Gan hyny Mair, pan ddaeth i'r lle yr oedd yr Iesu, a'i weled ef, a syrthiodd wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni fuasai farw fy mrawd.
Adgyfodi Lazarus.
33Yr Iesu gan hyny, pan y gwelodd hi yn galaru, a'r Iuddewon y rhai a ddaethai gyd â hi yn galaru, a gyffrôdd#11:33 Defnyddir embrimaomai bump o weithiau yn y T. N. Gweler y nodiadau ar Mat 9:30; Marc 1:43; 14:5. Cymmer rhai y geiriau fel hyn, “efe a ffromodd wrth ei yspryd,” sef wrth ei enaid dynol, yr hwn oedd naill ai yn wan neu anfoddlon i gyflawniad y wyrth, neu, ar y llaw arall, yn ei yru yn mlaen i'w chyflawnu yn gynt na phryd. Ond nid yw ‘yr yspryd’ yn golygu gwrthrych y ffromiad, neu y digllonedd a deimlodd, ond yn hytrach y cylch, ‘yn ei yspryd’. Golyga y ferf yn wreiddiol, ffroeni, (fel ceffyl, anifeiliaid rheibus, &c.), yna, bod yn llawn digllonedd. Yn y T. N. yn unig y golyga ceryddu, gorchymyn yn llym. Dywed Hesychius mai yr ystyr yw, rhoddi gorchymyn cysylltiedig â bygythion. Nid oes awdurdod o du gruddfan yma. Dengys, pa beth bynag oedd cyfeiriad y teimlad, fod yspryd y Gwaredwr wedi ei gyffroi i'w waelodion. Gwahanol farnau: (1) Efe a ataliodd neu a rwystrodd gyd âg ymdrech ffrwd ei deimlad dynol; (2) efe a lanwyd â digllonedd at ymddygiad yr Iuddewon rhagrithiol; (3) efe a deimlodd yn anfoddlawn ato ei hun, at ei deimlad drylliog, &c. (nid oes sail i'r dyb hon;) (4) yr oedd yn ddigllawn wrth angeu fel cyflog pechod, neu wrth y fath arddangosiad o allu angeu. Nid un peth, ond llawer o bethau a achosasant y cynhyrfiad hwn. Dyma wyrth benaf y Gwaredwr, ac yma y daeth agosaf at diriogaeth a gallu y Gelyn. Yr oedd pob gwyrth, nid yn arddangosiad o'i allu yn unig, ond hefyd yn dreth ar ei gydymdeimlad a'i gariad. “Mi a ganfyddais fod gallu [rhinwedd] wedi myned allan o honof fi,” Luc 8:46. Y mae yma ddyfnderoedd nas gellir eu plymio. yn aruthr yn yr yspryd, ac a gynhyrfodd#11:33 Efe a ganiataodd i'w deimlad i amlygu ei hun. Nid nwydau ond teimladau dan reolaeth ewyllys a rheswm oedd eiddo Crist; ond yma gadawa i don o ddyfnfor ei fodolaeth dori ar draeth gweledig ei ddynoliaeth. ei hun, 34ac a ddywedodd, Pa le yr ydych chwi wedi ei osod ef? Y maent yn dywedyd wrtho, Arglwydd, tyred a gwel. 35Yr Iesu a wylodd#11:35 edakrusen, a dywalltodd ddagrau, a wylodd yn ddystaw. Y mae y ferf yn wahanol i'r hon a geir yn 31, 33. Unwaith yr wylodd efe allan, yn hyglyw, (Klaiô) sef dros Jerusalem, Luc 19:41. Y mae marwolaeth naturiol cyfaill yn peri iddo golli dagrau ac wylo yn ddystaw, ond y mae marwolaeth ysprydol Jerusalem yn peri iddo i dori allan i lefain fel plentyn! Y mae yn wylo fel dyn cyn cyfodi Lazarus fel Duw, fel ar adeg arall y cysgodd cyn tawelu yr ystorm.. 36Am hyny y dywedodd yr Iuddewon, Wele fel yr oedd yn ei hoffi#11:36 phileô, caru fel cyfaill, hoffi. ef! 37A rhai o honynt a ddywedasant, Oni allasai hwn, yr hwn a agorodd lygaid y dyn dall,#11:37 [Pennod 9] beri na buasai hwn farw chwaith? 38Iesu gan hyny, gan gyffroi#11:38 Defnyddir embrimaomai bump o weithiau yn y T. N. Gweler y nodiadau ar Mat 9:30; Marc 1:43; 14:5. Cymmer rhai y geiriau fel hyn, “efe a ffromodd wrth ei yspryd,” sef wrth ei enaid dynol, yr hwn oedd naill ai yn wan neu anfoddlon i gyflawniad y wyrth, neu, ar y llaw arall, yn ei yru yn mlaen i'w chyflawnu yn gynt na phryd. Ond nid yw ‘yr yspryd’ yn golygu gwrthrych y ffromiad, neu y digllonedd a deimlodd, ond yn hytrach y cylch, ‘yn ei yspryd’. Golyga y ferf yn wreiddiol, ffroeni, (fel ceffyl, anifeiliaid rheibus, &c.), yna, bod yn llawn digllonedd. Yn y T. N. yn unig y golyga ceryddu, gorchymyn yn llym. Dywed Hesychius mai yr ystyr yw, rhoddi gorchymyn cysylltiedig â bygythion. Nid oes awdurdod o du gruddfan yma. Dengys, pa beth bynag oedd cyfeiriad y teimlad, fod yspryd y Gwaredwr wedi ei gyffroi i'w waelodion. Gwahanol farnau: (1) Efe a ataliodd neu a rwystrodd gyd âg ymdrech ffrwd ei deimlad dynol; (2) efe a lanwyd â digllonedd at ymddygiad yr Iuddewon rhagrithiol; (3) efe a deimlodd yn anfoddlawn ato ei hun, at ei deimlad drylliog, &c. (nid oes sail i'r dyb hon;) (4) yr oedd yn ddigllawn wrth angeu fel cyflog pechod, neu wrth y fath arddangosiad o allu angeu. Nid un peth, ond llawer o bethau a achosasant y cynhyrfiad hwn. Dyma wyrth benaf y Gwaredwr, ac yma y daeth agosaf at diriogaeth a gallu y Gelyn. Yr oedd pob gwyrth, nid yn arddangosiad o'i allu yn unig, ond hefyd yn dreth ar ei gydymdeimlad a'i gariad. “Mi a ganfyddais fod gallu [rhinwedd] wedi myned allan o honof fi,” Luc 8:46. Y mae yma ddyfnderoedd nas gellir eu plymio. yn aruthr drachefn ynddo ei hun, sydd yn dyfod at y bedd: ac ogof oedd, a maen a ddodasid yn ei herbyn#11:38 Neu, arni.. 39Yr Iesu a ddywed, Codwch ymaith y maen. Martha, — chwaer yr hwn oedd wedi marw#11:39 Llyth.: wedi darfod. Defnyddir teleutaô yma., — a ddywed wrtho, Arglwydd y mae efe weithian yn drewi#11:39 Yma yn unig yn y T. N.: canys y mae efe yn farw er ys pedwar diwrnod#11:39 Llyth.: canys y mae efe [yn farw] y pedwerydd [diwrnod]. Yr oedd traddodiad fod ffurf y gwyneb‐pryd yn newid ar y pedwerydd dydd, o herwydd fod llygredigaeth wedi dechreu.. 40Yr Iesu a ddywed wrthi, Oni ddywedais i ti, pe credit, y cait weled gogoniant Duw? 41Hwy gan hyny a godasant ymaith y maen#11:41 lle yr oedd y marw wedi ei osod C3; lle yr oedd A K; gad. א B C1 D L X.. A'r Iesu a gododd ei lygaid i fyny, ac a ddywedodd, O Dâd, yr wyf yn diolch i ti am wrando arnaf. 42Ac myfi a wyddwn dy fod yn fy ngwrando bob amser: eithr er mwyn y dyrfa sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, fel y credont mai tydi a'm hanfonaist i. 43Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a waeddodd â llef uchel#11:43 Llyth.; â llais mawr. Y mae ei Lef Uchel yn ragflaenydd i Udgorn Duw, gweler 5:28. Yma yn unig y defnyddir y gair am Grist., Lazarus#11:43 “Y mae efe yn galw ei ddefaid wrth eu henw” 10:3., tyred#11:43 Llyth.: Yma allan, neu, Yma! Allan! Ni ddywed gymaint a ‘Cyfod’ neu ‘Tyred’: y mae yr Adgyfodiad yn ei lais. Dyma arucheledd mewn symlrwydd, a llawer mewn ychydig. Y mae Iesu yn gallu gweithredu heb ferf! Rhai a ddywedant fod Lazarus wedi ei ddihuno cyn i Grist ddywedyd, ‘Yr wyf yn diolch i ti,’ ond nid yw hyn yn debygol. allan. 44A'r hwn oedd farw a ddaeth allan, wedi ei rwymo draed a dwylaw mewn bedd‐rwymau#11:44 Llyth.: torion, llieiniau [o frethyn, &c.]. Dynodant y rhwymau a gadwent yr amdo a'r perlysiau yn eu lle.; a'i wyneb oedd wedi ei rwymo â napcyn#11:44 Neu, tywel.. Dywed yr Iesu wrthynt, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadêwch iddo fyned.
Cysgod y dyfodol: Proffwydoliaeth Caiaphas.
45Llawer gan hyny o'r Iuddewon, y rhai a ddaethant at Mair, ac a welsant#11:45 theaomai, syllu, sylwi yn graffus, myfyr‐dremu. yr#11:45 yr hyn B C D Brnd.; y pethau א A. hyn a wnaethai efe#11:45 yr Iesu א D; gad. A B C L X., a gredasant ynddo. 46Eithr rhai o honynt a aethant ymaith at y Phariseaid, ac a ddywedasant iddynt y pethau a wnaethai yr Iesu.
47Gan hyny yr Arch‐offeiriaid a'r Phariseaid a gynullasant Gynghor#11:47 sef y Sanhedrin. Yma yn unig yn Ioan., ac a ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? Canys y mae y dyn hwn yn gwneuthur arwyddion lawer. 48Os gadâwn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo; a'r Rhufeiniaid a ddeuant, ac a gymmerant ymaith ein lle ni a'n cenedl hefyd#11:48 “Hwy a'n hamddifadant o'n Teml, o'n Dinas, ac o'n gwlad, ac hefyd o'r mesur o hunan‐lywodraeth sydd eto yn ein meddiant.” Dyma y peth a ddygwyddodd iddynt.. 49A rhyw un o honynt, Caiaphas#11:49 Caiaphas [efallai yr un a Cephas] oedd gyfenw, Joseph oedd ei enw. Cafodd ei osod yn y swydd gan Valerius Gratus, a'i ddiswyddo gan Vitellius, B. H. 36. Bu yn y swydd am 18 mlynedd., yr hwn oedd Arch‐offeiriad y flwyddyn#11:49 Nid fod yr Ysgrifenydd yn tybied fod y swydd yn un flynyddol, ond y mae yr ymadrodd yn gyfystyr â'r ‘flwyddyn ryfeddol hono.’ hono, a ddywedodd wrthynt, Nid ydych chwi yn gwybod dim, 50nac yn#11:50 cyfrif [logizethe] א A B D L I; ystyried [dialogizethe] X. cyfrif mai buddiol i chwi#11:50 chwi B D L X M; ni A; gad. א. farw o un dyn dros y bobl#11:50 y bobl, fel Cenedl Etholedig Duw; y genedl, fel un o genedloedd y ddaear., ac na ddyfether yr holl genedl#11:50 y bobl, fel Cenedl Etholedig Duw; y genedl, fel un o genedloedd y ddaear.. 51Hyn ni ddywedodd efe o hono ei hun; eithr ac efe yn Arch‐offeiriad y flwyddyn hono, efe a broffwydodd#11:51 Bu Proffwydoliaeth farw a marwolaeth Crist ar ei gwefusau. fod yr Iesu ar farw dros y genedl#11:51 y genedl, ac felly, dros genedloedd: nid dros y bobl, y rhai etholedig, fel y cyfryw.: 52ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai efe i un#11:52 i un berthynas, i un undeb mawr, i un Ddinas Sanctaidd, i un Genedl Etholedig. Gweler Eph 2. pobl blant Duw, y rhai sydd wedi eu gwasgaru ar led. 53Gan hyny o'r dydd hwnw allan yr#11:53 yr ymgynghorasant א B D; y cyd‐ymgynghorasant A. ymgynghorasant fel y lladdent ef. 54Yr Iesu gan hyny ni rodia mwy yn hyf#11:54 neu mewn rhyddid: llyth.: ‘mewn ymddyddan rhydd’; yna, amlwg, agored, eofn, hyderus. yn mysg yr Iuddewon; ond efe a aeth oddi yno i'r wlad yn agos i'r Anialwch#11:54 Anialwch Judea, sef i'r gogledd‐ddwyrain o Jerusalem. Estynai rhwng y wlad fynyddig o amgylch Jerusalem hyd ddyffryn yr Iorddonen. Felly treuliodd Iesu ychydig o amser yn nechreu ac yn niwedd ei Weinidogaeth yn yr un Anialwch., i ddinas a elwir Ephraim#11:54 Yr un efallai âg Ophrah (Jos 18:23) ac Ephron (2 Cr 13:17)., ac yno yr arosodd gyd â y Dysgyblion.
Neshâd y Pasc; gwylied yr Oen.
55A Phasc yr Iuddewon oedd yn agos: a llawer a aethant i fyny i Jerusalem o'r wlad o flaen y Pasc, i buro#11:55 Gweler Lef 7:21; Num 9:10; 2 Cr 30:17; Act 21:24, 26; 24:18. eu hunain. 56Gan hyny yr oeddynt yn ceisio yr Iesu, ac yn dywedyd wrth eu gilydd, fel yr oeddynt yn sefyll yn y Deml, Beth a dybygwch chwi? Ai ni ddaw efe o gwbl i'r Wyl? 57A'r Arch‐offeiriaid a'r Phariseaid oeddynt wedi rhoddi gorchymynion#11:57 gorchymynion א B I M Tr. Ti. Al. WH.; gorchymyn A D., fel os deuai neb i wybod#11:57 ginôskô, dyfod i wybod. pa le y mae efe, y rhoddai hysbysrwydd, fel y gallent ei ddal ef.

Dewis Presennol:

Ioan 11: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda