Ioan 15
15
I Llwyn Grêps a'r cangene
1-17“Fi yw'r llwyn grêps iawn, a'n Dad i yw'r un sy'n drich ar ôl i llwyn grêps. Ma e'n torri bant pob cangen sy ddim in tiddu ffrwyth, fel bo'r llwyn i unan in galler tiddu mwy o ffrwyth. Ŷch chi'n lân in barod achos i gair wi wedi'i weud wrthoch chi. Biddwch fyw inda i, fel dw i'n byw indo chi. Fel seno cangen in galler tiddu ffrwyth oni hunan, os na neith i fyw in i llwyn grêps, senoch chi'n galler neud 'ny whaith, os na newch chi fyw inda i. Fi yw'r llwyn grêps; chi yw'r canghene. Ma unrhiw un sy'n byw inda i, fel dw i'n byw indon nhwy, in tiddu lot o ffrwythe, achos hebdda i allwch chi neud dim byd. Ma unrhiw un sy ddim in byw inda i in câl i dowlu mas, in gowir fel ma cangen in câl i thowlu mas a'n gwywo. Wedyn ma'r cangene sy wedi'u towlu mas in câl u casglu, a'u towlu miwn i'r tân a'u llosgi. Os newch chi fyw inda i ac os neith ing ngeire i fyw indo chi, gallwch chi ofyn am beth binnag ichi moyn a geith e'i neud i chi. Ma'n Dad i in cal gogoniant pan fiddwch chi'n tiddu lot o ffrwythe a bod in ddisgiblion iawn i fi. Fel ma'r Tad wedi'ch caru chi dw i wedi'ch caru chi. Biddwch fyw in ing gariad i. Os newch chi gadw in orchminion i a byd in ing gariad i, fel dw i wedi cadw gorchminion in Dad a byw in i gariad e. Dw i wedi gweud hyn wrthoch chi fel bo'n llawenydd i indo chi, a fel bo'ch llawenydd chi in câl i neud in gifan. Co beth dw i moyn ichi neud, carwch ich gily fel dw i wedi'ch caru chi. Sdim mwy o gariad 'da neb na hyn: bo rhiwun in rhoi i fowid lawr dros i ffrinds. Ŷch chi'n ffrinds 'da fi os newch chi beth dw i'n gofyn ichi neud. 'Na i ddim ich galw chi'n weishon 'to, achos seno gwas in gwbod beth mae'i fishtir in neud; ond dw i wedi'ch galw chi'n ffrinds, achos bo fi wedi gadel ichi wbod popeth dw i wedi cliwed wrth i Tad. Ddim chi nâth in ddewish i, fi nâth ich dewish chi a'ch pennu chi fynd a tiddu ffrwyth, ffrwyth bydd in para, fel bo'r Tad in galler rhoi i chi beth binnag ŷch chi'n gofyn iddo fe in in enw i. 'Co beth dw i moyn ichi neud: carwch ich gily.
Seno'r byd in galler haru'r disgiblion
18-27“Os nadi'r byd in galler ich haru chi, ŷch chi'n gwbod wedd e'n ffaelu in haru i cyn ffaelu ich haru chi. Os bisech chi'n bart o'r byd, bise'r byd in ich caru chi. Seno'r byd in galler ich haru chi achos bo chi ddim in bart o'r byd. Dewishes i chi mas o'r byd. Cofiwch beth wedes i wrtho chi; So gwas na morwm in fwy na'u mishtir.’ Os nethon nhwy in erlid i, man nhwy'n siŵr o'ch erlid chi 'fyd; os nethon nhwy gadw'ng ngair i, newn nhwy gadw'ch gair chi 'fyd. Ond newn nhwy hyn i gyd ar gownt in enw i, achos senyn nhwy'n gwbod pwy nâth in hala i. Sen i ddim wedi dwâd a sharad gida nhwy, bisen nhwy ddim in euog; nawr sdim esgus 'da nhwy am u pechod. Ma unrhiw un sy'n ffaelu'n haru i in ffaelu haru in Dad 'fyd. Sen i ddim wedi neud i pethe sneb arall wedi'u neud nhwy in i plith nhwy, bisen nhwy ddim in euog; ond man nhwy wedi gweld in weithe i a senyn nhwy'n galler in haru in na'nd Dad. So ma'n rhaid i beth sy wedi câl i reito in Cifreth nhwy ddod in wir, 'Wen nhwy'n ffaelu'n haru i, ond we ddim achos 'da nhwy neud 'ny.”
“Pan ddaw'r Un i helpu, ir Un 'na i hala wrth i Tad, Isbryd i gwironedd sy'n dod wrth i Tad, bydd e'n gweud amdana i; biddwch chi 'fyd in gweud amdana i achos ŷch chi wedi bo 'da fi o'r dachre.
Dewis Presennol:
Ioan 15: DAFIS
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies