Ioan 17
17
Iesu'n gweddïo dros i unan
1Gwedo Iesu'r pethe 'ma. Wedyn drichodd e lan i'r nefodd a gweud, “Dad, ma'r awr wedi dwâd; rho ogoniant i'r crwt fel gall i crwt roi gogoniant i ti, 2hyd 'n ôd fel wit ti wedi rhoi comands iddo fel dros bob dyn fel gall e roi bowid am byth i bob un wit ti wedi rhoi iddo fe. 3A co beth yw bowid am byth, di nabod di, ir un Duw gwir, a'r un wit ti wedi hala, Iesu Grist. 4Dw i wedi rhoi gogoniant iti ar i ddeiar wrth fenu'r gwaith roiest ti ifi neud. 5Nawr rho ogoniant i fi ar di ochor di, Dad, gyda'r gogonaint we 'da fi cyn bo'r byd in bod.
Iesu'n gweddïo dros i ddisgiblion
6-19“Dangoses i di enw di i'r dinion nes di roi i fi mas o'r byd. Ti we pia nhwy, rhoies di nhwy i fi, a man nhwy wedi cadw di air di. Nawr, man nhwy in gwbod bo popeth wit ti wedi'i roi i fi in dod wrtho ti; achos dw i wedi rhoi iddyn nhwy i geire roies di i fi, a man nhwy wedi'u derbyn hwy, a dw i wedi disgu mod i'n dod wrtho ti miwn gwirionedd, a man nhwy wedi credu taw ti sy wedi'n hala i. Dw i'n gweddïo drostyn nhwy; sena i'n gweddïo dros i byd, ond am i rhei wit ti wedi rhoi i fi, achos ti sy pia nhwy. Ma popeth sy'n pia fi in pia ti a popeth sy'n pia ti in pia fi, a indyn nhwy dw i wedi câl gogoniant. Sena i o'r byd nawr, ond man nhwy in i byd, a dwi'n dwâd atat ti. Dad Sanctedd, cadw nhwy trw nerth di enw, ir enw wit ti wedi rhoi i fi, fel gallan nhwy fod in un in gowir fel ŷn ni'n un. Pan wen i gida nhwy fe gadwes i nhwy trw nerth di enw wit ti wedi rhoi i fi, a nes i ddrich ar u hôl nhwy, a nâth ddim un onyn nhwy gâl u colli, heblaw am ir un we ar i ffordd i gâl i golli, fel bo'r isgrithur in dod in wir. Nawr dw i'n dwâd atot ti, a dw i'n gweud i pethe 'ma in i byd fel bo nhw'n galler rhannu in in llawenydd i i gyd. Dw i wedi rhoi di air di iddyn nhwy, a seno'r byd in galler u haru nhwy, achos senyn nhwy'n dwâd o'r byd fel sena i'n dwâd o'r byd. Sena i'n gweddïo biddi di'n u cwmrid nhwy mas o'r byd, ond biddi di'n u cadw nhwy wrth ir un drwg. Senyn nhwy o'r byd, fel sena i o'r byd. Rho nhwy ar wahân in i gwirionedd. Ma di air di'n wirionedd. Fel wit ti wedi'n hala i miwn i'r byd, dw i wedi'u hala nhwy miwn i'r byd; a er u mhwyn nhwy wi wedi rhoi in unan ar wahân, fel biddan nhwy 'fyd ar wahân in i gwirionedd.
Iesu'n gweddïo dros bob un sy'n credu
20-26Sena i dim ond in gweddïo dros rhein, ond dros i rhei erill fydd in credu inda i trwy'u gair nhwy. Dad, gad nhwy i gyd fod in un; fel wit ti inda i a fi indo ti, gad iddyn nhwy fod indo ni, fel bo'r byd in credu di fod di wedi'n hala i. Dw i wedi rhoi'r gogoniant iddyn nhwy wet ti wedi rhoi i fi, fel u bo nhwy'n un fel ŷn ni'n un, fi indyn nhwy a ti inda i; fel bo nhwy'n câl u neud in berffeith nes iddyn nhwy fod in un, fel bo'r byd in gwbod bo ti wedi'n hala i, a bod ti wedi'u caru nhwy fel wit ti wedi'ng garu i.
“Dad, rhoies ti nhwy i fi a dw i am iddyn nhwy fod gida fi ble wdw i, fel gallan nhwy weld ing ngogoniant i, gogoniant nes ti roi i fi cyn bo'r byd wedi câl ineud. Dad cyfiawn, seno'r byd wedi di nabod di, ond dw i wedi di nabod di, a ma'r dinion hyn in gwbod taw ti nâth i'n hala i. Dw i wedi gadel iddyn nhwy wbod di enw di a bidda in gadel i ddinion wbod di enw di, fel bo'r cariad wit ti in in garu i gidag e indyn nhwy, a fi indyn nhwy.”
Dewis Presennol:
Ioan 17: DAFIS
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies