Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Cronicl 11

11
Dafydd yn Frenin Israel a Jwda
2 Sam. 5:1–10
1Daeth holl Israel at Ddafydd i Hebron a dweud wrtho, “Edrych, dy asgwrn a'th gnawd di ydym ni. 2Gynt, pan oedd Saul yn frenin, ti oedd yn arwain Israel allan i ryfel ac yn ôl wedyn; ac fe ddywedodd yr ARGLWYDD dy Dduw wrthyt, ‘Ti sydd i fugeilio fy mhobl Israel; ti sydd i fod yn dywysog arnynt.’ ” 3Yna daeth holl henuriaid Israel i Hebron at y brenin, a gwnaeth Dafydd gyfamod â hwy yno gerbron yr ARGLWYDD, ac eneiniwyd Dafydd yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr ARGLWYDD trwy Samuel.
4Pan aeth Dafydd a holl Israel i Jerwsalem (hynny yw, Jebus, lle'r oedd y Jebusiaid, trigolion y wlad, yn byw) 5dywedodd pobl Jebus wrth Ddafydd, “Ni chei ddod i mewn yma.” Er hynny, fe enillodd Dafydd gaer Seion, sef Dinas Dafydd, 6a dywedodd, “Caiff y cyntaf i daro'r Jebusiaid ei wneud yn ben swyddog.” Y cyntaf i fynd i fyny oedd Joab fab Serfia; felly cafodd ei wneud yn ben. 7Yna fe ymsefydlodd Dafydd yn y gaer, ac am hynny fe'i gelwir yn Ddinas Dafydd. 8Adeiladodd y ddinas oddi amgylch o'r Milo yn gylch cyfan, tra oedd Joab yn adnewyddu gweddill y ddinas. 9Cynyddodd Dafydd fwyfwy oherwydd bod ARGLWYDD y Lluoedd gydag ef.
Penaethiaid Dafydd
2 Sam. 23:8–39
10Dyma benaethiaid Dafydd, a aeth yn fwy a mwy nerthol gydag ef yn ystod ei deyrnasiad, ac a ymunodd gyda holl Israel i'w wneud ef yn frenin ar Israel yn ôl gair yr ARGLWYDD. 11Dyma restr y gwroniaid oedd gan Ddafydd. Jasobeam fab Hachmoni oedd capten y Deg ar Hugain; chwifiodd ef ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben tri chant o wŷr a laddodd ar un tro. 12Y nesaf ato ef ymysg y tri gwron oedd Eleasar fab Dodo, yr Ahohiad; 13bu ef gyda Dafydd yn Pasdammim, lle'r oedd rhandir yn llawn ffacbys, pan ymgasglodd y Philistiaid yno i ryfel ac y ffodd y bobl rhagddynt. 14Ond daliodd ef ei dir yng nghanol y llain, a'i amddiffyn a lladd y Philistiaid; a rhoes yr ARGLWYDD waredigaeth fawr.
15Aeth tri o'r Deg ar Hugain o benaethiaid i lawr at Ddafydd i'r graig ger ogof Adulam, pan oedd mintai o Philistiaid yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim. 16Yr oedd Dafydd ar y pryd yn y gaer, a garsiwn y Philistiaid ym Methlehem. 17Cododd blys ar Ddafydd ac meddai, “O na chawn ddiod o ddŵr o bydew Bethlehem, sydd ger y porth!” 18Ar hynny, rhuthrodd y tri trwy wersyll y Philistiaid, codi dŵr o bydew Bethlehem gerllaw'r porth, a'i gludo'n ôl at Ddafydd. Eto, ni fynnai ef ei yfed, a thywalltodd ef yn offrwm i'r ARGLWYDD, 19a dweud, “Na ato Duw i mi wneud hyn! A allaf fi yfed gwaed y gwŷr hyn a fentrodd eu heinioes i ddod ag ef i mi?” Felly gwrthododd ei yfed. Dyma wrhydri y tri gwron.
20Abisai brawd Joab fab Serfia oedd pennaeth y Deg ar Hugain#11:20 Felly Syrieg. Hebraeg, y Tri.. Chwifiodd ef ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben trichant o wŷr, a lladdodd hwy gan ennill enw iddo'i hun ymhlith y Deg ar Hugain#11:20 Felly Syrieg. Hebraeg, y Tri.. 21Yr oedd ef yn enwog ymhlith y Deg ar Hugain#11:21 Felly Syrieg. Hebraeg, y Tri., ac yn gapten arnynt; ond nid oedd i'w gymharu â'r Tri.
22Yr oedd Benaia fab Jehoiada o Cabseel yn ŵr dewr ac aml ei orchestion. Ef a laddodd ddau bencampwr o Moab; ef hefyd a aeth i lawr i bydew a lladd llew yno ar ddiwrnod o eira. 23Lladdodd Eifftiwr, cawr o bum cufydd, er bod gan hwnnw waywffon fel carfan gwehydd yn ei law, ac yntau'n ymosod â dim ond ffon. Cipiodd y waywffon o law'r Eifftiwr, a'i ladd â'i waywffon ei hun. 24Dyma wrhydri Benaia fab Jehoiada, ac enillodd enw iddo'i hun ymhlith y Deg Gwron ar Hugain#11:24 Tebygol. Cymh. adn. 20–21. Hebraeg, y Tri Gwron.. 25Yr oedd yn enwog ymhlith y Deg ar Hugain, ond nid oedd i'w gymharu â'r Tri. Apwyntiodd Dafydd ef yn bennaeth ei warchodlu.
26Y rhain oedd y gwroniaid: Asahel brawd Joab, Elhanan fab Dodo o Fethlehem, 27Samma yr Harodiad, Heles y Peloniad. 28Ira fab Icces y Tecoiad, Abieser yr Anathothiad, 29Sibbechai yr Husathiad, Ilai yr Ahohiad, 30Maharai y Netoffathiad, Heled fab Baana y Netoffathiad, 31Itai fab Ribai o Gibea'r Benjaminiaid, Benaia y Pirathoniad, 32Hurai o Nahale-gaas, Abiel yr Arbathiad, 33Asmafeth y Bahrumiad, Eliahba y Saalboniad, 34meibion Hasem y Gisoniad, Jonathan fab Sage yr Harariad, 35Ahiam fab Sachar yr Harariad, Eliffal fab Ur, 36Heffer y Mecherathiad, Aheia y Peloniad, 37Hesro y Carmeliad, Naarai fab Esbai, 38Joel brawd Nathan, Mibhar Haggeri, 39Selec yr Ammoniad, Naharai y Beerothiad (cludydd arfau Joab fab Serfia), 40Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad, 41Ureia yr Hethiad, Sabad fab Ahlai, 42Adina fab Sisa y Reubeniad (pennaeth y Reubeniaid, a chydag ef ddeg ar hugain), 43Hanan fab Maacha, Josaffat y Mithriad, 44Usseia yr Asterathiad, Sama a Jehiel meibion Hothan yr Aroeriad, 45Jedidael fab Simri, a Joha ei frawd ef, y Tisiad, 46Eliel y Mahafiad, Jeribai a Josafia, meibion Elnaam, Ithma y Moabiad, 47Eliel, Obed, a Jasiel y Mesobaiad.

Dewis Presennol:

1 Cronicl 11: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda