Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Timotheus 1

1
Cyfarch
1Paul, apostol Crist Iesu trwy orchymyn Duw, ein Gwaredwr, a Christ Iesu, ein gobaith, 2at Timotheus, ei blentyn diledryw yn y ffydd. Gras a thrugaredd a thangnefedd i ti oddi wrth Dduw y Tad a Christ Iesu ein Harglwydd.
Rhybudd rhag Athrawiaeth Gau
3Pan oeddwn ar gychwyn i Facedonia, pwysais arnat i ddal ymlaen yn Effesus, a gorchymyn i rai pobl beidio â dysgu athrawiaethau cyfeiliornus, 4a rhoi'r gorau i chwedlau ac achau diddiwedd. Pethau yw'r rhain sy'n hyrwyddo dyfaliadau ofer yn hytrach na chynllun achubol Duw, a ganfyddir trwy ffydd. 5Diben y gorchymyn hwn yw'r cariad sy'n tarddu o galon bur a chydwybod dda a ffydd ddiffuant. 6Gwyro oddi wrth y rhinweddau hyn a barodd i rai droi mewn dadleuon diffaith. 7Y maent â'u bryd ar fod yn athrawon y Gyfraith, ond nid ydynt yn deall dim ar eu geiriau eu hunain, na chwaith ar y pynciau y maent yn eu trafod mor awdurdodol.
8Fe wyddom fod y Gyfraith yn beth ardderchog os caiff ei harfer yn briodol fel cyfraith. 9Gadewch inni ddeall hyn: y mae'r Gyfraith wedi ei llunio, nid ar gyfer y sawl sy'n cadw'r Gyfraith ond ar gyfer y rheini sy'n ei thorri a'i herio, sef yr annuwiol a'r pechadurus, y digrefydd a'r di-dduw, y rhai sy'n lladd tad a mam, yn llofruddio, 10yn puteinio, yn ymlygru â'u rhyw eu hunain, yn herwgipio, yn dweud celwydd, yn tyngu ar gam, ac yn gwneud unrhyw beth arall sy'n groes i'r athrawiaeth iach 11sy'n perthyn i'r Efengyl a ymddiriedwyd i mi, Efengyl ogoneddus y Duw gwynfydedig.
Diolchgarwch am Drugaredd
12Yr wyf yn diolch i Grist Iesu ein Harglwydd, yr hwn a'm nerthodd, am iddo fy nghyfrif yn un y gallai ymddiried ynof a'm penodi i'w wasanaeth; 13myfi, yr un oedd gynt yn ei gablu, yn ei erlid, ac yn ei sarhau. Ar waethaf hynny, cefais drugaredd am mai mewn anwybodaeth ac anghrediniaeth y gwneuthum y cwbl. 14Gorlifodd gras ein Harglwydd arnaf, ynghyd â'r ffydd a'r cariad sy'n eiddo i ni yng Nghrist Iesu. 15A dyma air i'w gredu, sy'n teilyngu derbyniad llwyr: “Daeth Crist Iesu i'r byd i achub pechaduriaid.” A minnau yw'r blaenaf ohonynt. 16Ond cefais drugaredd, a hynny fel y gallai Crist Iesu ddangos ei faith amynedd yn fy achos i, y blaenaf, a'm gwneud felly yn batrwm i'r rhai fyddai'n dod i gredu ynddo a chael bywyd tragwyddol. 17Ac i Frenin tragwyddoldeb, yr anfarwol a'r anweledig a'r unig Dduw, y byddo'r anrhydedd a'r gogoniant byth bythoedd! Amen.
18Timotheus, fy mab, dyma'r siars sydd gennyf i ti, o gofio'r dystiolaeth broffwydol a roddwyd iti o'r blaen; ymddiried yn hyn a bydd lew yn y frwydr, 19gan ddal dy afael mewn ffydd a chydwybod dda. Am i rai ddiystyru cydwybod, drylliwyd llong eu ffydd. 20Pobl felly yw Hymenaeus ac Alexander, dau a draddodais i Satan, i'w disgyblu i beidio â chablu.

Dewis Presennol:

1 Timotheus 1: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda