2 Samuel 3
3
1Parhaodd y rhyfel rhwng teulu Saul a theulu Dafydd yn hir, gyda Dafydd yn mynd yn gryfach, a theulu Saul yn mynd yn wannach.
Meibion Dafydd
2Ganwyd meibion i Ddafydd yn Hebron. Ei gyntafanedig oedd Amnon, plentyn Ahinoam o Jesreel. 3Yr ail oedd Chileab, plentyn Abigail, gwraig Nabal, o Garmel; y trydydd oedd Absalom, mab Maacha merch Talmai brenin Gesur. 4Y pedwerydd oedd Adoneia mab Haggith; y pumed oedd Seffatia mab Abital; 5a'r chweched, Ithream, plentyn Egla gwraig Dafydd. Dyma'r rhai a anwyd i Ddafydd yn Hebron.
Abner yn Ymuno â Dafydd
6Tra oedd rhyfel rhwng teulu Saul a theulu Dafydd, yr oedd Abner yn ennill mwy a mwy o ddylanwad gyda theulu Saul. 7Bu gan Saul ordderch o'r enw Rispa ferch Aia; a phan ddywedodd Isboseth wrth Abner, “Pam yr aethost i mewn at ordderch fy nhad?” 8fe lidiodd Abner yn fawr oherwydd geiriau Isboseth, ac atebodd, “Ai penci ar ochr Jwda wyf fi? Hyd yma bûm yn deyrngar i deulu dy dad Saul, ac i'w berthnasau a'i gyfeillion; ac ni adewais i ti syrthio i ddwylo Dafydd, a dyma ti heddiw yn edliw imi drosedd gyda benyw. 9Gwnaed Duw fel hyn i mi, Abner, a rhagor hefyd, os na wnaf dros Ddafydd yr hyn a addawodd yr ARGLWYDD iddo, 10a thynnu'r frenhiniaeth oddi ar deulu Saul a sefydlu Dafydd ar orsedd Israel a Jwda, o Dan hyd Beerseba.” 11Ni fedrai Isboseth yngan yr un gair wrth Abner wedi hyn, oherwydd bod arno ei ofn.
12Anfonodd Abner negeswyr ar ei ran at Ddafydd i ddweud, “Pwy biau'r wlad? Gwna di gyfamod â mi, ac yna bydd fy llaw o'th blaid i droi Israel gyfan atat.” 13Atebodd yntau, “Ardderchog! Fe wnaf fi gyfamod â thi; ond yr wyf am hawlio un peth gennyt: ni chei weld fy wyneb, heb iti ddod â Michal ferch Saul gyda thi, pan ddoi i'm gweld.” 14Yna anfonodd Dafydd negeswyr at Isboseth fab Saul, a dweud, “Rho imi fy ngwraig Michal, a ddyweddïais imi am gant o flaengrwyn Philistiaid.” 15Anfonodd Isboseth a'i chymryd oddi wrth ei gŵr Paltiel fab Lais. 16Dilynodd ei gŵr yn wylofus ar ei hôl hyd Bahurim, ond wedi i Abner ddweud wrtho, “Dos yn d'ôl”, fe ddychwelodd adref.
17Anfonodd Abner air at henuriaid Israel a dweud, “Ers tro byd buoch yn ceisio cael Dafydd yn frenin arnoch. 18Yn awr, gweithredwch; oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dweud am Ddafydd, ‘Trwy law fy ngwas Dafydd y gwaredaf fy mhobl Israel oddi wrth y Philistiaid a'u gelynion i gyd.’ ” 19Siaradodd Abner hefyd â llwyth Benjamin. Yna aeth Abner i Hebron i ddweud wrth Ddafydd y cwbl yr oedd Israel a llwyth Benjamin wedi cytuno arno.
Llofruddio Abner
20Daeth Abner at Ddafydd i Hebron gydag ugain o ddynion, a gwnaeth Dafydd wledd i Abner a'i ddynion. 21Yna dywedodd Abner wrth Ddafydd, “Yr wyf am fynd yn awr i gasglu Israel gyfan ynghyd at f'arglwydd frenin, er mwyn iddynt wneud cyfamod â thi; yna byddi'n frenin ar y cyfan yr wyt yn ei chwenychu.” Gadawodd Dafydd i Abner fynd ymaith, ac aeth yntau mewn heddwch. 22Ar hynny, cyrhaeddodd dilynwyr Dafydd gyda Joab; yr oeddent wedi bod ar gyrch, ac yn dwyn llawer o ysbail gyda hwy. Nid oedd Abner gyda Dafydd yn Hebron, oherwydd bod Dafydd wedi gadael iddo fynd mewn heddwch. 23Pan gyrhaeddodd Joab a'r holl lu oedd gydag ef, clywodd fod Abner fab Ner wedi bod gyda'r brenin, a'i fod yntau wedi gadael iddo fynd mewn heddwch. 24Aeth Joab at y brenin a dweud, “Beth wyt ti wedi ei wneud? Fe ddaeth Abner yma atat; pam y gadewaist iddo fynd ymaith? 25Yr wyt yn adnabod Abner fab Ner; i'th dwyllo di y daeth, ac i gael gwybod dy holl symudiadau a phopeth yr wyt yn ei wneud.” 26Pan aeth Joab allan oddi wrth Ddafydd, anfonodd negeswyr ar ôl Abner, a daethant ag ef yn ôl o ffynnon Sira heb yn wybod i Ddafydd. 27Pan ddychwelodd Abner i Hebron, cymerodd Joab ef o'r neilltu yng nghanol y porth, fel pe bai am siarad yn gyfrinachol ag ef. Ond trawodd ef yn ei fol o achos gwaed ei frawd Asahel, a bu farw yno.
Claddu Abner
28Wedi i'r peth ddigwydd y clywodd Dafydd, a dywedodd, “Dieuog wyf fi a'm teyrnas am byth gerbron yr ARGLWYDD ynglŷn â gwaed Abner fab Ner; 29bydded ei waed ar Joab a'i holl deulu! Na fydded teulu Joab heb aelod diferllyd, neu wahanglwyfus, neu ar ei faglau, neu glwyfedig gan gleddyf, neu brin o fwyd!” 30Yr oedd Joab a'i frawd Abisai wedi llofruddio Abner oherwydd iddo ef ladd eu brawd Asahel yn y frwydr yn Gibeon. 31Dywedodd Dafydd wrth Joab a'r holl bobl oedd gydag ef, “Rhwygwch eich dillad a gwisgwch sachliain a gwnewch alar o flaen Abner.” Cerddodd y Brenin Dafydd ar ôl yr elor, 32a chladdwyd Abner yn Hebron. Wylodd y brenin yn uchel uwchben bedd Abner ac yr oedd yr holl bobl yn wylo hefyd. 33Yna canodd y brenin yr alarnad hon am Abner:
34“A oedd raid i Abner farw fel ynfytyn?
Nid oedd dy ddwylo wedi eu rhwymo,
na'th draed ynghlwm mewn cyffion.
Syrthiaist fel un yn syrthio o flaen rhai twyllodrus.”
Ac yr oedd yr holl bobl yn parhau i wylo drosto.
35Daeth y bobl i gyd i gymell Dafydd i fwyta tra oedd yn olau dydd; ond aeth Dafydd ar ei lw, “Fel hyn y gwnelo Duw i mi, a rhagor, os cyffyrddaf â bara neu ddim oll cyn machlud haul.” 36Cymerodd pawb sylw o hyn, ac yr oedd yn dda ganddynt, fel yr oedd y cwbl a wnâi'r brenin yn dda yng ngolwg yr holl bobl. 37Yr oedd yr holl bobl ac Israel gyfan yn sylweddoli y diwrnod hwnnw nad oedd a wnelo'r brenin ddim â lladd Abner fab Ner. 38Dywedodd y brenin wrth ei ddilynwyr, “Onid ydych yn sylweddoli fod pendefig a gŵr mawr wedi syrthio heddiw yn Israel? 39Er imi gael f'eneinio'n frenin, yr wyf heddiw yn wan, ac y mae'r dynion hyn, meibion Serfia, yn rhy arw i mi; bydded i'r ARGLWYDD dalu i'r sawl sy'n gwneud drwg, yn ôl ei ddrygioni.”
Dewis Presennol:
2 Samuel 3: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004