2 Samuel 8
8
Buddugoliaethau Milwrol Dafydd
1 Cron. 18:1–17
1Wedi hyn gorchfygodd Dafydd y Philistiaid a'u darostwng, a chipiodd Metheg-amma oddi arnynt. 2Yna gorchfygodd y Moabiaid, ac wedi gwneud iddynt orwedd ar lawr, fe'u mesurodd â llinyn; mesurodd ddau hyd llinyn i'w lladd, ac un hyd llinyn i'w cadw'n fyw. Felly daeth y Moabiaid yn ddeiliaid i Ddafydd a thalu treth iddo. 3Gorchfygodd Dafydd hefyd Hadadeser fab Rehob, brenin Soba, pan oedd hwnnw ar ei ffordd i ailsefydlu ei awdurdod ar lan afon Ewffrates. 4Cipiodd Dafydd oddi arno fil a saith gant o farchogion ac ugain mil o wŷr traed. Cadwodd Dafydd gant o feirch cerbyd, ond torrodd linynnau gar y lleill i gyd. 5Pan ddaeth Syriaid Damascus i helpu Hadadeser brenin Soba, trawodd Dafydd ddwy fil ar hugain ohonynt. 6Yna gosododd Dafydd garsiynau ymhlith Syriaid Damascus, a daeth y Syriaid yn weision i Ddafydd a thalu treth iddo. Yr oedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Ddafydd ple bynnag yr âi. 7Cymerodd Dafydd y tarianau aur oedd gan weision Hadadeser, a dygodd hwy i Jerwsalem. 8Hefyd cymerodd y Brenin Dafydd lawer iawn o bres o Beta a Berothai, trefi Hadadeser.
9Pan glywodd Toi brenin Hamath fod Dafydd wedi gorchfygu holl fyddin Hadadeser, 10fe anfonodd ei fab Joram i ddymuno'n dda i'r Brenin Dafydd a'i longyfarch am iddo ymladd yn erbyn Hadadeser a'i orchfygu; oherwydd bu Hadadeser yn rhyfela'n gyson yn erbyn Toi. Dygodd Joram gydag ef lestri o arian ac o aur ac o bres, 11a chysegrodd y Brenin Dafydd hwy i'r ARGLWYDD, yn ogystal â'r arian a'r aur oddi wrth yr holl genhedloedd yr oedd wedi eu goresgyn— 12Syria, Moab, yr Ammoniaid, y Philistiaid a'r Amaleciaid—a hefyd ysbail Hadadeser fab Rehob, brenin Soba.
13Enillodd Dafydd fri pan ddychwelodd ar ôl gorchfygu deunaw mil o Edomiaid#8:13 Felly rhai llawysgrifau a Fersiynau. TM, Syriaid. yn Nyffryn yr Halen. 14Gosododd garsiynau yn Edom#8:14 Cymh. 1 Cron. 18:13 a Groeg. Hebraeg, Gosododd garsiynau yn Edom; gosododd garsiynau drwy holl Edom., a daeth holl Edom yn ddeiliaid i Ddafydd. Yr oedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Ddafydd ple bynnag yr âi.
15Yr oedd Dafydd yn teyrnasu dros Israel gyfan, ac yn gweinyddu barn a chyfiawnder i'w holl bobl. 16Joab fab Serfia oedd dros y fyddin, a Jehosaffat fab Ahilud yn gofiadur. 17Sadoc fab Ahitub, ac Ahimelech fab Abiathar oedd yr offeiriaid, a Seraia yn ysgrifennydd. 18Benaia fab Jehoiada oedd dros y Cerethiaid a'r Pelethiaid, ac yr oedd meibion Dafydd yn offeiriaid.
Dewis Presennol:
2 Samuel 8: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004