Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 15

15
Y Cyngor yn Jerwsalem
1Yna daeth rhai i lawr o Jwdea a dysgu'r credinwyr: “Os nad enwaedir arnoch yn ôl defod Moses, ni ellir eich achub.” 2A chododd ymryson ac ymddadlau nid bychan rhyngddynt a Paul a Barnabas, a threfnwyd bod Paul a Barnabas, a rhai eraill o'u plith, yn mynd i fyny at yr apostolion a'r henuriaid yn Jerwsalem ynglŷn â'r cwestiwn yma. 3Felly anfonwyd hwy gan yr eglwys, ac ar eu taith trwy Phoenicia a Samaria buont yn adrodd yr hanes am dröedigaeth y Cenhedloedd, a pharasant lawenydd mawr i'r holl gredinwyr. 4Wedi iddynt gyrraedd Jerwsalem, fe'u derbyniwyd gan yr eglwys a'r apostolion a'r henuriaid, a mynegasant gymaint yr oedd Duw wedi ei wneud trwyddynt hwy. 5Ond cododd rhai credinwyr oedd o sect y Phariseaid, a dweud, “Y mae'n rhaid enwaedu arnynt, a gorchymyn iddynt gadw Cyfraith Moses.”
6Ymgynullodd yr apostolion a'r henuriaid i ystyried y mater yma. 7Ar ôl llawer o ddadlau, cododd Pedr a dywedodd wrthynt: “Gyfeillion, gwyddoch chwi fod Duw yn y dyddiau cynnar yn eich plith wedi dewis bod y Cenhedloedd, trwy fy ngenau i, yn cael clywed gair yr Efengyl, a chredu. 8Ac y mae Duw, sy'n adnabod calonnau, wedi dwyn tystiolaeth iddynt trwy roi iddynt hwy yr Ysbryd Glân yr un fath ag i ninnau; 9ac ni wnaeth ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwythau, gan iddo lanhau eu calonnau hwy drwy ffydd. 10Yn awr, ynteu, pam yr ydych yn rhoi prawf ar Dduw trwy osod iau ar war y disgyblion, na allodd ein hynafiaid na ninnau mo'i dwyn? 11Ond yr ydym ni'n credu mai trwy ras yr Arglwydd Iesu yr achubir ni, a hwythau yr un modd.”
12Tawodd yr holl gynulliad, a gwrando ar Barnabas a Paul yn adrodd am yr holl arwyddion a rhyfeddodau yr oedd Duw wedi eu gwneud ymhlith y Cenhedloedd drwyddynt hwy. 13Wedi iddynt dewi, dywedodd Iago, “Gyfeillion, gwrandewch arnaf fi. 14Y mae Simeon wedi dweud sut y gofalodd Duw gyntaf am gael o blith y Cenhedloedd bobl yn dwyn ei enw. 15Ac y mae geiriau'r proffwydi yn cytuno â hyn, fel y mae'n ysgrifenedig:
16“ ‘Ar ôl hyn dychwelaf,
ac ailadeiladaf babell syrthiedig Dafydd,
ailadeiladaf ei hadfeilion,
a'i hatgyweirio,
17fel y ceisier yr Arglwydd gan y bobl sy'n weddill,
a chan yr holl Genhedloedd y galwyd fy enw arnynt,’
medd yr Arglwydd, sy'n gwneud y pethau hyn 18yn hysbys erioed.”
19“Felly fy marn i yw na ddylem boeni'r rhai o blith y Cenhedloedd sy'n troi at Dduw, 20ond ysgrifennu atynt am iddynt ymgadw rhag bwyta pethau sydd wedi eu halogi gan eilunod, a rhag anfoesoldeb rhywiol,#15:20 Yn ôl darlleniad arall gadewir allan a rhag anfoesoldeb rhywiol. a rhag bwyta na'r hyn sydd wedi ei dagu, na gwaed.#15:20 Yn ôl darlleniad arall, rhag bwyta pethau sydd wedi eu halogi gan eilunod, a rhag anfoesoldeb rhywiol, a rhag gwaed, ac i beidio â gwneud i eraill yr hyn na hoffent iddo ddigwydd iddynt eu hunain. 21Oherwydd y mae gan Moses, er yr oesau cyntaf, rai sy'n ei bregethu ef ym mhob tref, ac fe'i darllenir yn y synagogau bob Saboth.”
Y Cyngor yn Ateb
22Yna penderfynodd yr apostolion a'r henuriaid, ynghyd â'r holl eglwys, ddewis gwŷr o'u plith a'u hanfon i Antiochia gyda Paul a Barnabas, sef Jwdas, a elwid Barsabas, a Silas, gwŷr blaenllaw ymhlith y credinwyr. 23Rhoesant y llythyr hwn iddynt i fynd yno: “Y brodyr, yn apostolion a henuriaid, at y credinwyr o blith y Cenhedloedd yn Antiochia a Syria a Cilicia, cyfarchion. 24Oherwydd inni glywed fod rhai ohonom ni wedi'ch tarfu â'u geiriau, ac ansefydlogi eich meddyliau, heb i ni eu gorchymyn, 25yr ydym wedi penderfynu'n unfryd ddewis gwŷr a'u hanfon atoch gyda'n cyfeillion annwyl, Barnabas a Paul, 26dynion sydd wedi cyflwyno eu bywydau dros enw ein Harglwydd Iesu Grist. 27Felly yr ydym yn anfon Jwdas a Silas, a byddant hwy'n mynegi yr un neges ar lafar. 28Penderfynwyd gan yr Ysbryd Glân a chennym ninnau beidio â gosod arnoch ddim mwy o faich na'r pethau angenrheidiol hyn: 29ymgadw rhag bwyta yr hyn sydd wedi ei aberthu i eilunod, neu waed, neu'r hyn sydd wedi ei dagu, a rhag anfoesoldeb rhywiol.#15:29 Yn ôl un darlleniad arall gadewir allan a rhag anfoesoldeb rhywiol. Yn ôl un arall, rhag bwyta yr hyn sydd wedi ei aberthu i eilunod, a rhag gwaed, a rhag anfoesoldeb rhywiol, ac i beidio â gwneud i eraill yr hyn na hoffech iddo digwydd i chwi eich hunain. Os cadwch rhag y pethau hyn, fe wnewch yn dda. Ffarwel.”
30Felly anfonwyd hwy, a daethant i lawr i Antiochia, ac wedi galw'r gynulleidfa ynghyd, cyflwynwyd y llythyr. 31Wedi ei ddarllen, yr oeddent yn llawen ar gyfrif yr anogaeth yr oedd yn ei rhoi. 32Gan fod Jwdas a Silas hwythau'n broffwydi, dywedasant lawer i annog y credinwyr a'u cadarnhau. 33Wedi iddynt dreulio peth amser yno fe'u gollyngwyd mewn tangnefedd gan y credinwyr, i ddychwelyd at y rhai a'u hanfonodd.#15:33 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir adn. 34 Ond penderfynodd Silas aros yno. 35Arhosodd Paul a Barnabas yn Antiochia, gan ddysgu a phregethu gair yr Arglwydd, ynghyd â llawer eraill.
Paul a Barnabas yn Ymwahanu
36Wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas, “Gadewch inni ddychwelyd yn awr, ac ymweld â'r credinwyr ym mhob un o'r dinasoedd y buom yn cyhoeddi gair yr Arglwydd ynddynt, i weld sut y mae hi arnynt.” 37Yr oedd Barnabas yn dymuno cymryd Ioan, a elwid Marc, gyda hwy; 38ond yr oedd Paul yn barnu na ddylent gymryd yn gydymaith un oedd wedi cefnu arnynt yn Pamffylia, a heb fynd ymlaen a chydweithio â hwy. 39Bu cymaint cynnen rhyngddynt nes iddynt ymwahanu. Cymerodd Barnabas Marc, a hwylio i Cyprus; 40ond dewisodd Paul Silas, ac aeth i ffwrdd, wedi ei gyflwyno gan y credinwyr i ras yr Arglwydd. 41A bu'n teithio drwy Syria a Cilicia, gan gadarnhau'r eglwysi.

Dewis Presennol:

Actau 15: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda