Amos 3
3
Gair yn erbyn Israel
1Gwrandewch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD yn eich erbyn, bobl Israel, yn erbyn yr holl deulu a ddygais i fyny o'r Aifft:
2“Chwi'n unig a adwaenais
o holl deuluoedd y ddaear;
am hynny, fe'ch cosbaf chwi
am eich holl gamweddau.”
3A gerdda dau gyda'i gilydd
heb wneud cytundeb?
4A rua llew yn y goedwig
pan fydd heb ysglyfaeth?
A waedda'r llew ifanc o'i ffau
pan fydd heb ddal dim?
5A syrth aderyn ar y ddaear#3:5 Felly Groeg. Hebraeg, ar fagl y ddaear.
os nad oes magl iddo?
A neidia'r groglath oddi ar y ddaear
os nad yw wedi dal dim?
6A genir utgorn yn y ddinas
heb i'r bobl ddychryn?
A ddaw trychineb i'r ddinas
heb i'r ARGLWYDD ei anfon?
7Ni wna'r Arglwydd DDUW ddim
heb ddangos ei fwriad i'w weision, y proffwydi.
8Rhuodd y llew;
pwy nid ofna?
Llefarodd yr Arglwydd DDUW;
pwy all beidio â phroffwydo?
Tynged Samaria
9Cyhoeddwch wrth geyrydd Asyria#3:9 Felly Groeg. Hebraeg, Asdod.,
ac wrth geyrydd gwlad yr Aifft;
dywedwch, “Ymgynullwch ar fynyddoedd Samaria,
ac edrych ar y terfysgoedd mawr o'i mewn,
ac ar y gorthrymderau sydd ynddi.”
10“Ni wyddant sut i wneud yr hyn sy'n iawn,” medd yr ARGLWYDD.
“Y maent yn pentyrru trais ac ysbail yn eu ceyrydd.”
11Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:
“Daw gelyn i amgylchu'r wlad,
a bwrw i lawr dy amddiffynfeydd
ac ysbeilio dy geyrydd.”
12Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Fel y gwareda'r bugail ddwy goes neu ddarn o glust o safn y llew, felly o'r Israeliaid sy'n trigo yn Samaria, gwaredir cwr o fatras neu ddarn#3:12 Hebraeg yn ansicr. o wely.”
13“Clywch, a thystiwch yn erbyn tŷ Jacob,”
medd yr Arglwydd DDUW, Duw'r Lluoedd.
14“Ar y dydd y cosbaf Israel am ei bechodau,
fe gosbaf allorau Bethel;
torrir cyrn yr allor,
a syrthiant i'r llawr.
15Difethaf y tŷ gaeaf a'r tŷ haf;
derfydd am y tai ifori,
a daw diwedd ar y tai mawrion,” medd yr ARGLWYDD.
Dewis Presennol:
Amos 3: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004