Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 6

6
Caru'r ARGLWYDD
1Dyma'r gorchmynion, y deddfau a'r cyfreithiau y gorchmynnodd yr ARGLWYDD eich Duw eu dysgu ichwi i'w cadw yn y wlad yr ydych yn mynd iddi i'w meddiannu, 2er mwyn i chwi ofni'r ARGLWYDD eich Duw a chadw yr holl ddeddfau a gorchmynion yr wyf yn eu rhoi i chwi a'ch plant a phlant eich plant holl ddyddiau eich bywyd, ac er mwyn estyn eich dyddiau. 3Gwrando, O Israel, a gofala eu cadw, fel y bydd yn dda arnat, ac y byddi'n cynyddu mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, fel yr addawodd yr ARGLWYDD, Duw dy hynafiaid.
4Gwrando, O Israel: Y mae'r ARGLWYDD ein Duw yn un ARGLWYDD. 5Câr di yr ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl nerth. 6Y mae'r geiriau hyn yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw i fod yn dy galon. 7Yr wyt i'w hadrodd i'th blant, ac i sôn amdanynt pan fyddi'n eistedd yn dy dŷ ac yn cerdded ar y ffordd, a phan fyddi'n mynd i gysgu ac yn codi. 8Yr wyt i'w rhwymo yn arwydd ar dy law, a byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid. 9Ysgrifenna hwy ar byst dy dŷ ac ar dy byrth.
Rhybuddion rhag Anufudd-dod
10Yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dod â thi i'r wlad y tyngodd i'th dadau, Abraham, Isaac a Jacob, y byddai'n ei rhoi iti, gwlad o ddinasoedd mawr a theg nad adeiladwyd mohonynt gennyt, 11hefyd tai yn llawn o bethau daionus na ddarparwyd mohonynt gennyt, a phydewau na chloddiwyd gennyt, a gwinllannoedd ac olewydd na phlannwyd gennyt. Pan fyddi'n bwyta ac yn cael dy ddigoni, 12gofala na fyddi'n anghofio'r ARGLWYDD dy Dduw a ddaeth â thi allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed. 13Yr wyt i ofni'r ARGLWYDD dy Dduw a'i wasanaethu a thyngu dy lw yn ei enw. 14Paid â dilyn duwiau eraill o blith duwiau'r cenhedloedd o'th amgylch, 15oherwydd y mae'r ARGLWYDD dy Dduw sydd gyda thi yn Dduw eiddigus, a bydd ei ddig yn ennyn tuag atat ac yn dy ddifa oddi ar wyneb y ddaear.
16Peidiwch â gosod yr ARGLWYDD eich Duw ar ei brawf, fel y gwnaethoch yn Massa. 17Gofalwch gadw gorchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, ei dystiolaethau a'r deddfau a orchmynnodd ichwi. 18Gwna'r hyn sydd uniawn a da yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y bydd yn dda arnat, ac y byddi'n mynd i feddiannu'r wlad dda y tyngodd yr ARGLWYDD y byddai'n ei rhoi i'th hynafiaid 19trwy yrru allan dy holl elynion o'th flaen, fel yr addawodd yr ARGLWYDD.
20Pan fydd dy blentyn yn gofyn iti yn y dyfodol, “Beth yw ystyr y tystiolaethau, y deddfau a'r cyfreithiau a orchmynnodd yr ARGLWYDD ein Duw ichwi?”, 21yna dywed wrtho, “Yr oeddem ni yn gaethion i Pharo yn yr Aifft, a daeth yr ARGLWYDD â ni allan oddi yno â llaw gadarn, 22ac yn ein gŵydd dangosodd arwyddion a rhyfeddodau mawr ac arswydus i'r Eifftiaid a Pharo a'i holl dŷ. 23Daeth â ni allan oddi yno er mwyn ein harwain i'r wlad y tyngodd i'n hynafiaid y byddai'n ei rhoi inni. 24A gorchmynnodd yr ARGLWYDD inni gadw'r holl ddeddfau hyn er mwyn inni ofni'r ARGLWYDD ein Duw, ac iddi fod yn dda arnom bob amser, ac inni gael ein cadw'n fyw, fel yr ydym heddiw. 25A bydd yn gyfiawnder inni os gofalwn gadw'r holl orchmynion hyn gerbron yr ARGLWYDD ein Duw, fel y gorchmynnodd ef inni.”

Dewis Presennol:

Deuteronomium 6: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda