Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 17

17
Dŵr o'r Graig
Num. 20:1–13
1Aeth holl gynulliad pobl Israel ymaith o anialwch Sin a symud o le i le fel yr oedd yr ARGLWYDD yn gorchymyn, a gwersyllu yn Reffidim; ond nid oedd yno ddŵr i'w yfed. 2Felly dechreuodd y bobl ymryson â Moses, a dweud, “Rho#17:2 Felly Fersiynau. Hebraeg, Rhowch. inni ddŵr i'w yfed.” Ond dywedodd Moses wrthynt, “Pam yr ydych yn ymryson â mi ac yn herio'r ARGLWYDD?” 3Yr oedd y bobl yn sychedu yno am ddŵr, a dechreuasant rwgnach yn erbyn Moses, a dweud, “Pam y daethost â ni i fyny o'r Aifft? Ai er mwyn ein lladd ni a'n plant a'n hanifeiliaid â syched?” 4Felly galwodd Moses ar yr ARGLWYDD a dweud, “Beth a wnaf â'r bobl hyn? Y maent bron â'm llabyddio!” 5Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Cerdda o flaen y bobl gyda rhai o henuriaid Israel, a chymer yn dy law y wialen y trewaist y Neil â hi, a dos ymlaen. 6Pan weli fi'n sefyll o'th flaen ar graig yn Horeb, taro'r graig, a daw dŵr allan ohoni, a chaiff y bobl yfed.” Gwnaeth Moses hyn ym mhresenoldeb henuriaid Israel. 7Galwodd enw'r lle yn Massa#17:7 H.y., Her. a Meriba#17:7 H.y., Ymryson., oherwydd ymryson yr Israeliaid ac am iddynt herio'r ARGLWYDD trwy ofyn, “A yw'r ARGLWYDD yn ein plith, ai nac ydyw?”
Rhyfel yn erbyn Amalec
8Pan ddaeth Amalec i ymladd yn erbyn Israel yn Reffidim, 9dywedodd Moses wrth Josua, “Dewis dy wŷr, a dos ymaith i ymladd yn erbyn Amalec; yfory, fe gymeraf finnau fy lle ar ben y bryn, â gwialen Duw yn fy llaw.” 10Gwnaeth Josua fel yr oedd Moses wedi dweud wrtho, ac ymladdodd yn erbyn Amalec; yna aeth Moses, Aaron a Hur i fyny i ben y bryn. 11Pan godai Moses ei law, byddai Israel yn trechu; a phan ostyngai ei law, byddai Amalec yn trechu. 12Pan aeth ei ddwylo'n flinedig, cymerwyd carreg a'i gosod dano, ac eisteddodd Moses arni, gydag Aaron ar y naill ochr iddo a Hur ar y llall, yn cynnal ei ddwylo, fel eu bod yn gadarn hyd fachlud haul. 13Felly, gorchfygodd Josua Amalec a'i bobl â min y cleddyf.
14Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Ysgrifenna hyn mewn llyfr yn goffadwriaeth, a mynega'r peth yng nghlyw Josua, sef fy mod am ddileu yn llwyr oddi tan y nefoedd bob atgof am Amalec.” 15Yna adeiladodd Moses allor a'i henwi'n Jehofa-nissi#17:15 H.y., Baner yr ARGLWYDD., 16a dweud, “Llaw ar faner#17:16 Tebygol. Hebraeg yn aneglur. yr ARGLWYDD! Bydd rhyfel rhwng yr ARGLWYDD ac Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.”

Dewis Presennol:

Exodus 17: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda