Y Galatiaid dwl! Pwy sydd wedi eich rheibio chwi, chwi y darluniwyd ar goedd o flaen eich llygaid, Iesu Grist wedi'i groeshoelio? Y cwbl yr wyf am ei wybod gennych yw hyn: ai trwy gadw gofynion cyfraith y derbyniasoch yr Ysbryd, ynteu trwy wrando mewn ffydd? A ydych mor ddwl â hyn? Wedi ichwi ddechrau trwy'r Ysbryd, a ydych yn awr yn ceisio pen y daith trwy'r cnawd? Ai yn ofer y cawsoch brofiadau mor fawr (os gallant, yn wir, fod yn ofer)? Beth, ynteu, am yr hwn sy'n cyfrannu ichwi yr Ysbryd ac yn gweithio gwyrthiau yn eich plith? Ai ar gyfrif cadw gofynion cyfraith, ynteu ar gyfrif gwrando mewn ffydd, y mae'n gwneud hyn oll? Y mae fel yn achos Abraham: “Credodd yn Nuw, ac fe'i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.”
Gwyddoch, gan hynny, am bobl ffydd, mai hwy yw plant Abraham. Ac y mae'r Ysgrythur, wrth ragweld mai trwy ffydd y byddai Duw yn cyfiawnhau'r Cenhedloedd, wedi pregethu'r Efengyl ymlaen llaw wrth Abraham fel hyn: “Bendithir yr holl genhedloedd ynot ti.” Am hynny, y mae pobl ffydd yn cael eu bendithio ynghyd ag Abraham, un llawn ffydd. Oherwydd y mae pawb sy'n dibynnu ar gadw gofynion cyfraith dan felltith, achos y mae'n ysgrifenedig: “Melltith ar bob un nad yw'n cadw at bob peth sy'n ysgrifenedig yn llyfr y Gyfraith, a'i wneud!” Y mae'n amlwg na chaiff neb ei gyfiawnhau gerbron Duw ar dir cyfraith, oherwydd, “Y sawl sydd trwy ffydd yn gyfiawn a gaiff fyw.” Eithr nid “trwy ffydd” yw egwyddor y Gyfraith; dweud y mae hi yn hytrach, “Y sawl sy'n cadw ei gofynion a gaiff fyw trwyddynt hwy.” Prynodd Crist ryddid i ni oddi wrth felltith y Gyfraith pan ddaeth, er ein mwyn, yn wrthrych melltith, oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “Melltith ar bob un a grogir ar bren!” Y bwriad oedd cael bendith Abraham i ymledu i'r Cenhedloedd yng Nghrist Iesu, er mwyn i ni dderbyn, trwy ffydd, yr Ysbryd a addawyd.