Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Galatiaid 3:1-14

Galatiaid 3:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Y Galatiaid dwl! Pwy sydd wedi eich rheibio chwi, chwi y darluniwyd ar goedd o flaen eich llygaid, Iesu Grist wedi'i groeshoelio? Y cwbl yr wyf am ei wybod gennych yw hyn: ai trwy gadw gofynion cyfraith y derbyniasoch yr Ysbryd, ynteu trwy wrando mewn ffydd? A ydych mor ddwl â hyn? Wedi ichwi ddechrau trwy'r Ysbryd, a ydych yn awr yn ceisio pen y daith trwy'r cnawd? Ai yn ofer y cawsoch brofiadau mor fawr (os gallant, yn wir, fod yn ofer)? Beth, ynteu, am yr hwn sy'n cyfrannu ichwi yr Ysbryd ac yn gweithio gwyrthiau yn eich plith? Ai ar gyfrif cadw gofynion cyfraith, ynteu ar gyfrif gwrando mewn ffydd, y mae'n gwneud hyn oll? Y mae fel yn achos Abraham: “Credodd yn Nuw, ac fe'i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.” Gwyddoch, gan hynny, am bobl ffydd, mai hwy yw plant Abraham. Ac y mae'r Ysgrythur, wrth ragweld mai trwy ffydd y byddai Duw yn cyfiawnhau'r Cenhedloedd, wedi pregethu'r Efengyl ymlaen llaw wrth Abraham fel hyn: “Bendithir yr holl genhedloedd ynot ti.” Am hynny, y mae pobl ffydd yn cael eu bendithio ynghyd ag Abraham, un llawn ffydd. Oherwydd y mae pawb sy'n dibynnu ar gadw gofynion cyfraith dan felltith, achos y mae'n ysgrifenedig: “Melltith ar bob un nad yw'n cadw at bob peth sy'n ysgrifenedig yn llyfr y Gyfraith, a'i wneud!” Y mae'n amlwg na chaiff neb ei gyfiawnhau gerbron Duw ar dir cyfraith, oherwydd, “Y sawl sydd trwy ffydd yn gyfiawn a gaiff fyw.” Eithr nid “trwy ffydd” yw egwyddor y Gyfraith; dweud y mae hi yn hytrach, “Y sawl sy'n cadw ei gofynion a gaiff fyw trwyddynt hwy.” Prynodd Crist ryddid i ni oddi wrth felltith y Gyfraith pan ddaeth, er ein mwyn, yn wrthrych melltith, oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “Melltith ar bob un a grogir ar bren!” Y bwriad oedd cael bendith Abraham i ymledu i'r Cenhedloedd yng Nghrist Iesu, er mwyn i ni dderbyn, trwy ffydd, yr Ysbryd a addawyd.

Galatiaid 3:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Chi bobl Galatia, ydych chi wir mor dwp â hynny? Pwy sydd wedi’ch hudo chi? Cafodd ystyr marwolaeth Iesu y Meseia ar y groes ei esbonio’n glir i chi. Atebwch un cwestiwn: Ddaeth yr Ysbryd Glân i’ch bywyd chi drwy i chi gadw’r Gyfraith Iddewig yn ddeddfol neu drwy i chi gredu’r neges am y Meseia? Alla i ddim credu eich bod chi mor ddwl! Ar ôl dechrau byw dan ddylanwad yr Ysbryd, ydych chi’n mynd i geisio gorffen y daith yn eich nerth eich hunain? Gawsoch chi’r holl brofiadau yna i ddim byd? – mae’n anodd gen i gredu hynny! Ydy Duw yn rhoi ei Ysbryd i chi, ac yn gwneud gwyrthiau yn eich plith chi, am eich bod chi’n cadw holl fanion y Gyfraith Iddewig? Wrth gwrs ddim! Ond am eich bod wedi credu! Meddyliwch am Abraham: “Credodd, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.” Felly, y rhai sy’n credu sy’n blant go iawn i Abraham! Ac roedd yr ysgrifau sanctaidd wedi dweud ymlaen llaw fod Duw’n mynd i ddod â phobl sydd ddim yn Iddewon i berthynas iawn ag e’i hun, drwy iddyn nhw gredu ynddo. Rhannodd Duw y newyddion da hwnnw gydag Abraham ymhell bell yn ôl: “Bydd gwledydd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti.” A dyna sy’n digwydd! – y rhai sy’n credu sy’n cael y fendith, yn union yr un fath ag Abraham, achos credu wnaeth e. Mae’r rhai sy’n meddwl y byddan nhw’n iawn am eu bod nhw’n cadw manion y Gyfraith Iddewig yn dal i fyw dan gysgod melltith. Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Melltith ar bawb sydd ddim yn dal ati i wneud pob peth mae Llyfr y Gyfraith yn ei ddweud.” Felly mae’n gwbl amlwg fod y Gyfraith ddim yn gallu dod â neb i berthynas iawn gyda Duw, am mai “Drwy ffydd mae’r un sy’n iawn gyda Duw yn byw.” Mae’r syniad o gadw rheolau’r Gyfraith yn hollol wahanol – does dim angen ffydd. Dweud mae’r Gyfraith: “Y rhai sy’n gwneud y pethau hyn i gyd sy’n cael byw.” Roedd y Gyfraith yn ein melltithio ni – roedden ni i gyd yn gaeth! Ond wedyn daeth y Meseia a thalu’r pris i’n gollwng ni’n rhydd. Cafodd e ei felltithio yn ein lle ni. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Mae pawb sy’n cael eu crogi ar bren wedi’u melltithio.” Talodd y Meseia Iesu y pris i’n gollwng ni’n rhydd, er mwyn i bobl o’r cenhedloedd eraill i gyd gael profi’r un fendith ag Abraham. Ac wrth gredu dŷn ni hefyd yn derbyn yr Ysbryd gafodd ei addo.

Galatiaid 3:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

O y Galatiaid ynfyd, pwy a’ch llygad-dynnodd chwi fel nad ufuddhaech i’r gwirionedd, i ba rai o flaen eu llygaid y portreiadwyd Iesu Grist, wedi ei groeshoelio yn eich plith? Hyn yn unig a ewyllysiaf ei ddysgu gennych; Ai wrth weithredoedd y ddeddf y derbyniasoch yr Ysbryd, ynteu wrth wrandawiad ffydd? A ydych chwi mor ynfyd? gwedi i chwi ddechrau yn yr Ysbryd, a berffeithir chwi yr awron yn y cnawd? A ddioddefasoch gymaint yn ofer? os yw ofer hefyd. Yr hwn gan hynny sydd yn trefnu i chwi yr Ysbryd, ac yn gwneuthur gwyrthiau yn eich plith, ai o weithredoedd y ddeddf, neu o wrandawiad ffydd, y mae? Megis y credodd Abraham i Dduw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. Gwybyddwch felly mai’r rhai sydd o ffydd, y rhai hynny yw plant Abraham. A’r ysgrythur yn rhagweled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau y cenhedloedd, a ragefengylodd i Abraham, gan ddywedyd, Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd. Felly gan hynny, y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlon. Canys cynifer ag y sydd o weithredoedd y ddeddf, dan felltith y maent: canys ysgrifennwyd, Melltigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau a ysgrifennir yn llyfr y ddeddf, i’w gwneuthur hwynt. Ac na chyfiawnheir neb trwy’r ddeddf gerbron Duw, eglur yw: oblegid, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd. A’r ddeddf nid yw o ffydd: eithr, Y dyn a wna’r pethau hynny, a fydd byw ynddynt. Crist a’n llwyr brynodd oddi wrth felltith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felltith trosom: canys y mae yn ysgrifenedig, Melltigedig yw pob un sydd yng nghrog ar bren: Fel y delai bendith Abraham ar y Cenhedloedd, trwy Grist Iesu; fel y derbyniem addewid yr Ysbryd trwy ffydd.