Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 47

47
1Yna aeth Joseff a dweud wrth Pharo, “Y mae fy nhad a'm brodyr wedi dod o wlad Canaan, gyda'u preiddiau, eu gyrroedd, a'u holl eiddo, ac y maent wedi cyrraedd gwlad Gosen.” 2Cymerodd bump o'i frodyr a'u cyflwyno i Pharo, 3a gofynnodd Pharo i'r brodyr, “Beth yw eich galwedigaeth?” Atebasant, “Bugeiliaid yw dy weision, fel ein tadau.” 4Dywedasant hefyd wrth Pharo, “Yr ydym wedi dod i aros dros dro yn y wlad, gan nad oes borfa i anifeiliaid dy weision, oherwydd y mae'r newyn yn drwm yng ngwlad Canaan. Yn awr, caniatâ i'th weision gael aros yng ngwlad Gosen.” 5Yna dywedodd Pharo wrth Joseff, “Daeth dy dad a'th frodyr atat, 6ac y mae gwlad yr Aifft o'th flaen. Rho gartref i'th dad a'th frodyr yn y man gorau, a gad iddynt fyw yng ngwlad Gosen. Os gwyddost am wŷr medrus yn eu mysg, gosod hwy yn benbugeiliaid ar fy anifeiliaid i.”
7Daeth Joseff â'i dad i'w gyflwyno gerbron Pharo, a bendithiodd Jacob Pharo. 8Gofynnodd Pharo i Jacob, “Faint yw dy oed?” 9Atebodd Jacob, “Yr wyf wedi cael ymdeithio ar y ddaear am gant tri deg o flynyddoedd. Byr a chaled fu fy ngyrfa, ac ni chyrhaeddais eto oed fy nhadau pan oeddent hwy yn fyw.” 10Wedi i Jacob fendithio Pharo, aeth allan o'i ŵydd. 11Yna gwnaeth Joseff gartref i'w dad a'i frodyr, a rhoes iddynt feddiant yn y rhan orau o wlad yr Aifft, yn nhir Rameses, fel y gorchmynnodd Pharo. 12Gofalodd Joseff am fwyd i'w dad a'i frodyr, ac i holl dylwyth ei dad yn ôl yr angen.
Y Newyn yn Gwaethygu
13Darfu'r bwyd drwy'r wlad, am fod y newyn yn drwm iawn; a nychodd gwlad yr Aifft a gwlad Canaan o achos y newyn. 14Casglodd Joseff bob darn o arian a oedd yn yr Aifft a Chanaan yn dâl am yr ŷd a brynwyd, a daeth â'r arian i dŷ Pharo. 15Pan wariwyd yr holl arian yn yr Aifft a Chanaan, daeth yr holl Eifftiaid at Joseff a dweud, “Rho inni fwyd. Pam y byddwn farw o flaen dy lygaid? Y mae ein harian wedi darfod yn llwyr.” 16Atebodd Joseff, “Os darfu'r arian, dewch â'ch anifeiliaid, a rhoddaf fwyd i chwi yn gyfnewid amdanynt.” 17Felly daethant â'u hanifeiliaid at Joseff. Rhoddodd yntau fwyd iddynt yn gyfnewid am y meirch, y defaid, y gwartheg a'r asynnod. Cynhaliodd hwy dros y flwyddyn honno trwy gyfnewid bwyd am eu holl anifeiliaid. 18Pan ddaeth y flwyddyn i ben, daethant ato y flwyddyn ddilynol a dweud, “Ni chelwn ddim oddi wrth ein harglwydd: y mae ein harian wedi darfod, aeth ein hanifeiliaid hefyd yn eiddo i'n harglwydd, ac nid oes yn aros i'n harglwydd ond ein cyrff a'n tir. 19Pam y byddwn farw o flaen dy lygaid, ni a'n tir? Pryn ni a'n tir am fwyd, a byddwn ni a'n tir yn gaethion i Pharo; rho dithau had inni i'n cadw'n fyw, rhag inni farw ac i'r tir fynd yn ddiffaith.”
20Felly prynodd Joseff holl dir yr Aifft i Pharo. Gwerthodd pob un o'r Eifftiaid ei faes am fod y newyn yn drwm, ac aeth y wlad yn eiddo Pharo. 21Ac am y bobl, fe'u gwnaeth i gyd yn gaethion#47:21 Felly Fersiynau. Hebraeg, fe'u symudodd i'r dinasoedd., o naill gwr yr Aifft i'r llall. 22Yr unig dir na phrynodd mohono oedd tir yr offeiriaid. Yr oedd gan yr offeiriaid gyfran wedi ei phennu gan Pharo, ac ar y gyfran a roddwyd iddynt gan Pharo yr oeddent yn byw; felly ni werthasant eu tir. 23Yna dywedodd Joseff wrth y bobl, “Yr wyf heddiw wedi eich prynu chwi a'ch tir i Pharo. Dyma had ichwi; heuwch chwithau'r tir. 24Pan ddaw'r cynhaeaf rhowch y bumed ran i Pharo. Cewch gadw pedair rhan o'r cnwd yn had i'r meysydd ac yn fwyd i chwi, eich teuluoedd a'ch rhai bach.” 25Meddent hwythau, “Yr wyt wedi arbed ein bywyd. Os yw'n dderbyniol gan ein harglwydd, byddwn yn gaethion i Pharo.” 26Felly gwnaeth Joseff hi'n ddeddf yng ngwlad yr Aifft, deddf sy'n sefyll hyd heddiw, fod y bumed ran yn eiddo i Pharo. Tir yr offeiriaid oedd yr unig dir na ddaeth yn eiddo i Pharo.
Dymuniad Olaf Jacob
27Arhosodd yr Israeliaid yn yr Aifft, yng ngwlad Gosen. Cawsant feddiannau ynddi, a bu iddynt gynyddu ac amlhau yn ddirfawr. 28Bu Jacob fyw ddwy flynedd ar bymtheg yng ngwlad yr Aifft. Felly yr oedd oed llawn Jacob yn gant pedwar deg a saith.
29Pan nesaodd diwrnod marw Israel, galwodd ei fab Joseff, ac meddai wrtho, “Os cefais unrhyw ffafr yn dy olwg, rho dy law dan fy nghlun a thynga y byddi'n deyrngar a ffyddlon imi. Paid â'm claddu yn yr Aifft, 30ond pan orweddaf gyda'm hynafiaid, cluda fi o'r Aifft a'm claddu yn eu beddrod hwy.” Atebodd Joseff, “Mi wnaf fel yr wyt yn dymuno.” 31Ychwanegodd Jacob, “Dos ar dy lw wrthyf.” Aeth yntau ar ei lw. Yna ymgrymodd Israel a'i bwys ar ei ffon#47:31 Felly Fersiynau. Hebraeg, ar ben y gwely..

Dewis Presennol:

Genesis 47: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd