Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 46

46
Jacob a'i Deulu yn Mudo i'r Aifft
1Felly aeth Israel ar ei daith gyda'i holl eiddo, a dod i Beerseba lle yr offrymodd ebyrth i Dduw ei dad Isaac. 2Llefarodd Duw wrth Israel mewn gweledigaeth nos, a dweud, “Jacob, Jacob.” Atebodd yntau, “Dyma fi.” 3Yna dywedodd, “Myfi yw Duw, Duw dy dad. Paid ag ofni mynd i lawr i'r Aifft, oherwydd fe'th wnaf di'n genedl fawr yno. 4Af i lawr i'r Aifft gyda thi, a dof â thi yn ôl drachefn. A chaiff Joseff gau dy lygaid.” 5Yna cychwynnodd Jacob o Beerseba. Cludodd meibion Israel eu tad Jacob, eu rhai bach, a'u gwragedd, yn y wageni yr oedd Pharo wedi eu hanfon. 6Cymerasant hefyd eu hanifeiliaid a'u meddiannau a gasglwyd yng ngwlad Canaan, a dod i'r Aifft, Jacob a'i holl deulu gydag ef, 7ei feibion a'i ferched a'i wyrion; daeth â'i deulu i gyd i'r Aifft.
Teulu Jacob
8Dyma enwau'r Israeliaid a ddaeth i'r Aifft, sef Jacob, a'i feibion: Reuben cyntafanedig Jacob, 9a meibion Reuben: Hanoch, Palu, Hesron a Charmi. 10Meibion Simeon: Jemwel, Jamin, Ohad, Jachin, Sohar, a Saul mab gwraig o blith y Canaaneaid. 11Meibion Lefi: Gerson, Cohath a Merari. 12Meibion Jwda: Er, Onan, Sela, Peres a Sera (ond bu farw Er ac Onan yng ngwlad Canaan); a meibion Peres: Hesron a Hamul. 13Meibion Issachar: Tola, Pufa, Job a Simron. 14Meibion Sabulon: Sered, Elon a Jahleel. 15Dyna'r meibion a ddygodd Lea i Jacob yn Padan Aram, ac yr oedd hefyd ei ferch Dina. Tri deg a thri oedd rhif ei feibion a'i ferched. 16Meibion Gad: Siffion, Haggi, Suni, Esbon, Eri, Arodi ac Areli. 17Meibion Aser: Imna, Isfa, Isfi, Bereia, a'u chwaer Sera; a meibion Bereia, Heber a Malchiel. 18Dyna feibion Silpa, a roddodd Laban i Lea ei ferch, un ar bymtheg i gyd, wedi eu geni i Jacob. 19Meibion Rachel gwraig Jacob: Joseff a Benjamin. 20Ac i Joseff yn yr Aifft ganwyd Manasse ac Effraim, meibion Asnath, merch Potiffera offeiriad On. 21Meibion Benjamin: Bela, Becher, Asbel, Gera, Naaman, Ehi, Ros, Muppim, Huppim ac Ard. 22Dyna feibion Rachel, pedwar ar ddeg i gyd, wedi eu geni i Jacob. 23Mab#46:23 Tebygol. Hebraeg, Meibion. Dan: Husim. 24Meibion Nafftali: Jahseel, Guni, Jeser a Silem. 25Dyma feibion Bilha, a roddodd Laban i Rachel ei ferch, saith i gyd, wedi eu geni i Jacob. 26Chwe deg a chwech oedd nifer tylwyth Jacob ei hun, sef pawb a ddaeth gydag ef i'r Aifft, heb gyfrif gwragedd ei feibion. 27Dau oedd nifer meibion Joseff a anwyd iddo yn yr Aifft; felly saith deg oedd nifer cyflawn teulu Jacob a ddaeth i'r Aifft.
Jacob a'i Deulu yn yr Aifft
28Anfonwyd Jwda ar y blaen at Joseff i gael cyfarwyddyd am y ffordd i Gosen, ac felly daethant i wlad Gosen. 29Gwnaeth Joseff ei gerbyd yn barod, ac aeth i gyfarfod â'i dad Israel yn Gosen, a phan ddaeth i'w ŵydd, rhoes ei freichiau am ei wddf gan wylo'n hidl. 30Ac meddai Israel wrth Joseff, “Yr wyf yn barod i farw yn awr, wedi gweld dy wyneb a gwybod dy fod yn dal yn fyw.” 31Dywedodd Joseff wrth ei frodyr a theulu ei dad, “Mi af i ddweud wrth Pharo fod fy mrodyr a theulu fy nhad wedi dod ataf o wlad Canaan, 32ac mai bugeiliaid a pherchenogion anifeiliaid ydynt, a'u bod wedi dod â'u preiddiau, eu gyrroedd a'u holl eiddo gyda hwy. 33Felly pan fydd Pharo yn galw amdanoch i holi beth yw eich galwedigaeth, 34atebwch chwithau, ‘Bu dy weision o'u hieuenctid hyd heddiw yn berchenogion anifeiliaid, fel ein tadau.’ Hyn er mwyn ichwi gael aros yng ngwlad Gosen, oherwydd y mae'r Eifftiaid yn ffieiddio pob bugail.”

Dewis Presennol:

Genesis 46: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda