Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 45

45
Joseff yn ei Ddatgelu ei hun i'w Frodyr
1Methodd Joseff ymatal yng ngŵydd ei weision, a gwaeddodd, “Gyrrwch bawb allan oddi wrthyf.” Felly nid arhosodd neb gyda Joseff pan ddatgelodd i'w frodyr pwy ydoedd. 2Wylodd yn uchel, nes bod yr Eifftiaid a theulu Pharo yn ei glywed, 3a dywedodd wrth ei frodyr, “Joseff wyf fi. A yw fy nhad yn dal yn fyw?” Ond ni allai ei frodyr ei ateb, gan eu bod wedi eu cynhyrfu wrth ei weld. 4Yna meddai Joseff wrth ei frodyr, “Dewch yn nes ataf.” Wedi iddynt nesáu, dywedodd, “Myfi yw eich brawd Joseff, a werthwyd gennych i'r Aifft. 5Yn awr, peidiwch â chyffroi na bod yn ddig wrthych eich hunain, am i chwi fy ngwerthu i'r lle hwn, oherwydd anfonodd Duw fi o'ch blaen er mwyn diogelu bywyd. 6Bu newyn drwy'r wlad y ddwy flynedd hyn; a bydd eto bum mlynedd heb aredig na medi. 7Anfonodd Duw fi o'ch blaen i sicrhau hil i chwi ar y ddaear, ac i gadw'n fyw o'ch plith nifer mawr o waredigion. 8Felly nid chwi ond Duw a'm hanfonodd yma, a'm gwneud fel tad i Pharo, ac yn arglwydd ar ei holl dylwyth a llywodraethwr dros holl wlad yr Aifft. 9Ewch ar frys at fy nhad a dywedwch wrtho, ‘Dyma y mae dy fab Joseff yn ei ddweud: “Y mae Duw wedi fy ngwneud yn arglwydd ar yr Aifft i gyd. Tyrd i lawr ataf, paid ag oedi dim. 10Cei fyw yn f'ymyl yng ngwlad Gosen gyda'th blant a'th wyrion, dy ddefaid a'th wartheg, a'th holl eiddo; 11a chynhaliaf di yno, rhag i ti na neb o'th dylwyth fynd yn dlawd, oherwydd fe fydd eto bum mlynedd o newyn.” ’ 12Yn awr yr ydych chwi a'm brawd Benjamin yn llygad-dystion mai myfi'n wir sy'n siarad â chwi. 13Rhaid ichwi ddweud wrth fy nhad am yr holl anrhydedd yr wyf wedi ei gael yn yr Aifft, ac am bopeth yr ydych wedi ei weld. Ewch ar unwaith, a dewch â'm tad i lawr yma.” 14Yna rhoes ei freichiau am wddf ei frawd Benjamin ac wylo; ac wylodd Benjamin ar ei ysgwydd yntau. 15Cusanodd ei frodyr i gyd, gan wylo. Wedyn cafodd ei frodyr sgwrs ag ef.
16Pan ddaeth y newydd i dŷ Pharo fod brodyr Joseff wedi cyrraedd, llawenhaodd Pharo a'i weision. 17Dywedodd Pharo wrth Joseff, “Dywed wrth dy frodyr, ‘Gwnewch fel hyn: llwythwch eich anifeiliaid a theithio'n ôl i wlad Canaan. 18Yna dewch â'ch tad a'ch teuluoedd ataf, a rhof ichwi orau gwlad yr Aifft, a chewch fyw ar fraster y wlad.’ 19Yna gorchymyn iddynt#45:19 Cymh. Fersiynau. Hebraeg, Gorchmynnwyd i ti., ‘Gwnewch fel hyn: cymerwch wageni o wlad yr Aifft i'ch rhai bach ac i'ch gwragedd, a dewch â'ch tad yma. 20Peidiwch â phryderu am eich celfi; y mae gorau holl wlad yr Aifft at eich galwad.’ ”
21Gwnaeth meibion Israel felly; rhoddodd Joseff wageni iddynt, ar orchymyn Pharo, a bwyd at y daith. 22Rhoddodd wisg newydd hefyd i bob un ohonynt, ond i Benjamin rhoddodd dri chant o ddarnau arian a phum gwisg newydd. 23Dyma a anfonodd i'w dad: deg asyn yn llwythog o bethau gorau'r Aifft, a deg o asennod yn cario ŷd a bara, a bwyd i'w dad at y daith. 24Yna anfonodd ei frodyr ymaith, ac wrth iddynt gychwyn dywedodd, “Peidiwch â chweryla ar y ffordd.” 25Felly aethant o'r Aifft a dod i wlad Canaan at eu tad Jacob. 26Dywedasant wrtho, “Y mae Joseff yn dal yn fyw, ac ef yw llywodraethwr holl wlad yr Aifft.” Aeth yntau yn wan drwyddo, oherwydd nid oedd yn eu credu. 27Ond pan adroddasant iddo holl eiriau Joseff, fel y dywedodd ef wrthynt, a phan welodd y wageni yr oedd Joseff wedi eu hanfon i'w gludo, adfywiodd ysbryd eu tad Jacob. 28A dywedodd Israel, “Dyma ddigon, y mae fy mab Joseff yn dal yn fyw. Af finnau i'w weld cyn marw.”

Dewis Presennol:

Genesis 45: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda