Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 9

9
Cyfamod Duw â Noa
1Bendithiodd Duw Noa a'i feibion a dweud, “Byddwch ffrwythlon, amlhewch a llanwch y ddaear. 2Bydd eich ofn a'ch arswyd ar yr holl fwystfilod gwyllt, ar holl adar yr awyr, ar holl ymlusgiaid y tir ac ar holl bysgod y môr; gosodwyd hwy dan eich awdurdod. 3Bydd popeth byw sy'n symud yn fwyd i chwi; fel y rhoddais eisoes lysiau gleision i chwi, rhoddaf i chwi bopeth. 4Ond peidiwch â bwyta cig â'i einioes, sef ei waed, ynddo. 5Yn wir, mynnaf iawn am waed eich einioes; mynnaf ef gan bob bwystfil a chan bobl; ie, mynnaf iawn am fywyd y sawl a leddir gan arall.
6“A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau;
oherwydd gwnaeth Duw ddyn ar ei ddelw ei hun.
7Chwithau, byddwch ffrwythlon ac amlhewch,
epiliwch ar y ddaear ac amlhewch ynddi.”
8Llefarodd Duw wrth Noa a'i feibion, a dweud, 9“Dyma fi'n sefydlu fy nghyfamod â chwi ac â'ch had ar eich ôl, 10ac â phob creadur byw gyda chwi, yn adar ac anifeiliaid, a'r holl fwystfilod gwyllt sydd gyda chwi, y cwbl a ddaeth allan o'r arch#9:10 Felly Groeg. Hebraeg yn ychwanegu a'r holl fwystfilod gwyllt.. 11Sefydlaf fy nghyfamod â chwi, rhag torri ymaith eto bob cnawd trwy ddyfroedd dilyw, na bod dilyw arall i ddifa'r ddaear.” 12A dywedodd Duw, “Dyma a osodaf yn arwydd o'r cyfamod yr wyf yn ei wneud â chwi ac â phopeth byw gyda chwi tros oesoedd di-rif: 13gosodaf fy mwa yn y cwmwl, a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof a'r ddaear. 14Pan godaf gwmwl ar y ddaear bydd bwa yn ymddangos yn y cwmwl, 15a chofiaf fy nghyfamod rhyngof a chwi a phob creadur byw o bob math, ac ni ddaw'r dyfroedd eto yn ddilyw i ddifa pob cnawd. 16Pan fydd y bwa yn y cwmwl, byddaf yn edrych arno ac yn cofio'r cyfamod tragwyddol rhwng Duw a phob creadur byw o bob math ar y ddaear.” 17Dywedodd Duw wrth Noa, “Dyma arwydd y cyfamod yr wyf wedi ei sefydlu rhyngof a phob cnawd ar y ddaear.”
Noa a'i Feibion
18Sem, Cham a Jaffeth oedd meibion Noa a ddaeth allan o'r arch. Cham oedd tad Canaan. 19Dyma dri mab Noa, ac ohonynt y poblogwyd yr holl ddaear.
20Dechreuodd Noa fod yn amaethwr. Plannodd winllan, 21ac yna yfodd o'r gwin nes meddwi, a gorwedd yn noeth yn ei babell. 22Gwelodd Cham, tad Canaan, ei dad yn noeth, a dywedodd wrth ei ddau frawd y tu allan; 23ond cymerodd Sem a Jaffeth fantell a'i gosod ar eu hysgwyddau, a cherdded yn wysg eu cefnau a gorchuddio noethni eu tad, gan droi eu hwynebau i ffwrdd rhag gweld noethni eu tad. 24Pan ddeffrôdd Noa o'i win, a gwybod beth yr oedd ei fab ieuengaf wedi ei wneud iddo, 25dywedodd,
“Melltigedig fyddo Canaan;
gwas i weision ei frodyr fydd.”
26Dywedodd hefyd,
“Bendigedig gan yr ARGLWYDD fy Nuw fyddo Sem;#9:26 Neu, Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Sem.
bydded Canaan yn was iddo.
27Helaethed Duw Jaffeth, iddo breswylio ym mhebyll Sem;
bydded Canaan yn was iddo.”
28Bu Noa fyw wedi'r dilyw am dri chant a hanner o flynyddoedd. 29Felly yr oedd oes gyfan Noa yn naw cant a hanner o flynyddoedd; yna bu farw.

Dewis Presennol:

Genesis 9: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda