Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hebreaid 5

5
1O blith dynion y bydd pob archoffeiriad yn cael ei ddewis, ac ar ran pobl feidrol y caiff ei benodi i'w cynrychioli mewn materion yn ymwneud â Duw, i offrymu rhoddion ac aberthau dros bechodau. 2Y mae'n gallu cydymddwyn â'r rhai anwybodus a chyfeiliornus, gan ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu â gwendid; 3ac oherwydd y gwendid hwn, rhaid iddo offrymu dros bechodau ar ei ran ei hun, fel ar ran y bobl. 4Nid oes neb yn cymryd yr anrhydedd iddo'i hun; Duw sydd yn ei alw, fel y galwodd Aaron.
5Felly hefyd gyda Christ. Nid ei ogoneddu ei hun i fod yn archoffeiriad a wnaeth, ond Duw a ddywedodd wrtho:
“Fy Mab wyt ti,
myfi a'th genhedlodd di heddiw.”
6Fel y mae'n dweud mewn lle arall hefyd:
“Yr wyt ti'n offeiriad am byth
yn ôl urdd Melchisedec.”
7Yn nyddiau ei gnawd, fe offrymodd Iesu weddïau ac erfyniadau, gyda llef uchel a dagrau, i'r Un oedd yn abl i'w achub rhag marwolaeth, ac fe gafodd ei wrando o achos ei barchedig ofn.#5:7 Neu, marwolaeth, a chan gael gwrandawiad, fe'i rhyddhawyd o ofn. 8Er mai Mab ydoedd, dysgodd ufudd-dod drwy'r hyn a ddioddefodd, 9ac wedi ei berffeithio, daeth yn ffynhonnell iachawdwriaeth dragwyddol i bawb sydd yn ufuddhau iddo, 10wedi ei enwi gan Dduw yn archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec.
Rhybudd rhag Syrthio Ymaith
11Am Melchisedec#5:11 Neu, Am hyn. y mae gennym lawer i'w ddweud sydd yn anodd ei egluro, oherwydd eich bod chwi wedi mynd yn araf i ddeall. 12Yn wir, er y dylech erbyn hyn fod yn athrawon, y mae arnoch angen rhywun i ailddysgu ichwi elfennau cyntaf oraclau Duw; angen llaeth sydd arnoch chwi, ac nid bwyd cryf. 13Nid oes gan y sawl sy'n byw ar laeth ddim profiad o egwyddor cyfiawnder, am mai baban ydyw. 14Pobl wedi cyrraedd eu llawn dwf sy'n cymryd bwyd cryf; y mae eu synhwyrau hwy, trwy ymarfer, wedi eu disgyblu i farnu rhwng da a drwg.

Dewis Presennol:

Hebreaid 5: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda