Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 12

12
Caneuon Moliant
1Yn y dydd hwnnw fe ddywedi,
“Molaf di, O ARGLWYDD;
er iti ddigio wrthyf,
trodd dy lid, a rhoist gysur imi.
2Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth;
rwy'n hyderus, ac nid ofnaf;
canys yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth a'm cân,
ac ef yw fy iachawdwr.”
3Mewn llawenydd fe dynnwch ddŵr
o ffynhonnau iachawdwriaeth.
4Yn y dydd hwnnw fe ddywedi,
“Diolchwch i'r ARGLWYDD,
galwch ar ei enw;
hysbyswch ei weithredoedd ymhlith y cenhedloedd,
cyhoeddwch fod ei enw'n oruchaf.
5Canwch salmau i'r ARGLWYDD,
canys enillodd fuddugoliaeth;
hysbyser hyn yn yr holl dir.
6Bloeddia, llefa'n llawen, ti sy'n preswylio yn Seion;
canys y mae Sanct Israel yn fawr yn eich plith.”

Dewis Presennol:

Eseia 12: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda