Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 53

53
1Pwy a gredai'r hyn a glywsom?
I bwy y datguddiwyd braich yr ARGLWYDD?
2Fe dyfodd o'i flaen fel blaguryn,
ac fel gwreiddyn mewn tir sych;
nid oedd na phryd na thegwch iddo,
na harddwch i'w hoffi wrth inni ei weld.
3Roedd wedi ei ddirmygu a'i wrthod gan eraill,
yn ŵr clwyfedig, cyfarwydd â dolur;
yr oeddem fel pe'n cuddio'n hwynebau oddi wrtho,
yn ei ddirmygu ac yn ei anwybyddu.
4Eto, ein dolur ni a gymerodd,
a'n gwaeledd ni a ddygodd—
a ninnau'n ei gyfrif wedi ei glwyfo
a'i daro gan Dduw, a'i ddarostwng.
5Ond archollwyd ef am ein troseddau ni,
a'i ddryllio am ein camweddau ni;
roedd pris ein heddwch ni arno ef,
a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd.
6Rydym ni i gyd wedi crwydro fel defaid,
pob un yn troi i'w ffordd ei hun;
a rhoes yr ARGLWYDD arno ef
ein beiau ni i gyd.
7Fe'i gorthrymwyd a'i ddarostwng,
ond nid agorai ei enau;
arweiniwyd ef fel oen i'r lladdfa,
ac fel y bydd dafad yn ddistaw yn llaw'r cneifiwr,
felly nid agorai yntau ei enau.
8Cymerwyd ef ymaith heb ei roi ar brawf na'i farnu—
pwy oedd yn malio am ei dynged?
Fe'i torrwyd o dir y rhai byw,
a'i daro am drosedd fy mhobl.
9Rhoddwyd iddo fedd gyda'r rhai drygionus,
a beddrod#53:9 Felly Sgrôl. TM, ac yn ei farwolaeth. gyda'r troseddwyr#53:9 Tebygol. Hebraeg, cyfoethog.,
er na wnaethai niwed i neb
ac nad oedd twyll yn ei enau.
10Yr ARGLWYDD a fynnai ei ddryllio
a gwneud iddo ddioddef.
Pan rydd ei fywyd yn aberth dros bechod,
fe wêl ei had, fe estyn ei ddyddiau,
ac fe lwydda ewyllys yr ARGLWYDD yn ei law ef.
11Wedi helbulon ei fywyd fe wêl oleuni#53:11 Felly Sgrôl a Groeg. TM heb oleuni.,
a chael ei fodloni yn ei wybodaeth;
bydd fy ngwas#53:11 Felly rhai llawysgrifau. TM yn ychwanegu cyfiawn. yn cyfiawnhau llawer,
ac yn dwyn eu camweddau.
12Am hynny rhof iddo ran gyda'r mawrion
ac fe ranna'r ysbail gyda'r cedyrn,
oherwydd iddo dywallt ei fywyd i farwolaeth,
a chael ei gyfrif gyda throseddwyr,
a dwyn pechodau llaweroedd,
ac eiriol dros y troseddwyr.

Dewis Presennol:

Eseia 53: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda