Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 47

47
Neges yr ARGLWYDD ynghylch Philistia
1Dyma air yr ARGLWYDD a ddaeth at y proffwyd Jeremeia ynghylch y Philistiaid, cyn i Pharo daro Gasa. 2“Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
‘Wele, y mae dyfroedd yn tarddu o'r gogledd,
ac yn llifeirio'n ffrwd gref;
llifant dros y wlad a'i chynnwys,
ei dinasoedd a'u preswylwyr.
Y mae'r bobl yn gweiddi
a holl breswylwyr y wlad yn udo,
3oherwydd sŵn carnau ei feirch yn curo,
ac oherwydd trwst ei gerbydau
a thwrf yr olwynion.
Ni thry'r rhieni'n ôl i edrych am y plant;
gwanychodd eu dwylo gymaint.
4Daeth y dydd i ddinistrio
yr holl Philistiaid,
i dorri allan o Tyrus ac o Sidon
bob un sy'n aros i'w cynorthwyo.
Dinistria'r ARGLWYDD y Philistiaid,
gweddill ynystir Cafftor.
5Daeth moelni ar Gasa,
a dinistriwyd Ascalon.
Ti, weddill yr Anacim#47:5 Felly Groeg. Hebraeg, weddill eu dyffryn.,
pa hyd yr archolli dy hun?
6O gleddyf yr ARGLWYDD,
pa hyd y byddi heb ymlonyddu?
Dychwel i'th wain;
gorffwys, a bydd dawel.
7Pa fodd yr ymlonydda,
gan i'r ARGLWYDD ei orchymyn?
Yn erbyn Ascalon, ac yn erbyn glan y môr
y gosododd ef.’ ”

Dewis Presennol:

Jeremeia 47: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda