Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 6:14-27

Jeremeia 6:14-27 BCND

Dim ond yn arwynebol y maent wedi iacháu briw fy mhobl, gan ddweud, ‘Heddwch! Heddwch!’—ac nid oes heddwch. A oes arnynt gywilydd pan wnânt ffieidd-dra? Dim cywilydd o gwbl, ac ni allant wrido. Am hynny fe syrthiant gyda'r syrthiedig; yn nydd eu cosbi fe gwympant,” medd yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Safwch ar y ffyrdd; edrychwch, ac ymofyn am yr hen lwybrau. Ple bynnag y cewch ffordd dda, rhodiwch ynddi, ac fe gewch le i orffwys.” Ond dywedasant, “Ni rodiwn ni ddim ynddi.” “Gosodaf wylwyr drosoch,” meddai, “gwrandewch ar sain yr utgorn.” Ond dywedasant, “Ni wrandawn ni ddim.” “Am hynny clywch, genhedloedd, a gwybydd, gynulliad, beth a ddigwydd iddynt. Clyw, wlad, rwyf am ddwyn drwg ar y bobl hyn, ffrwyth eu bwriadau hwy eu hunain. Ni wrandawsant ar fy ngeiriau, a gwrthodasant fy nghyfraith. Pam y cludir i mi thus o Sheba, a chorsen bêr o wlad bell? Nid oes pleser i mi yn eich poethoffrwm, na boddhad yn eich aberth.” Am hynny fe ddywed yr ARGLWYDD, “Rwyf am osod i'r bobl hyn feini tramgwydd a'u dwg i lawr; tadau a phlant ynghyd, cymydog a chyfaill, fe'u difethir.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Wele, y mae pobl yn dod o dir y gogledd; cenedl gref yn ymysgwyd o bellafoedd y ddaear. Gafaelant mewn bwa a gwaywffon, y maent yn greulon a didostur; y mae eu twrf fel y môr yn rhuo, marchogant feirch, a dod yn rhengoedd, fel gwŷr yn mynd i ryfela, yn dy erbyn di, ferch Seion.” Clywsom y newydd amdanynt, a llaesodd ein dwylo; daliwyd ni gan ddychryn, gwewyr fel gwraig yn esgor. Paid â mynd allan i'r maes, na rhodio ar y ffordd, oherwydd y mae gan y gelyn gleddyf, ac y mae dychryn ar bob llaw. Merch fy mhobl, gwisga sachliain, ymdreigla yn y lludw; gwna alarnad fel am unig blentyn, galarnad chwerw; oherwydd yn ddisymwth y daw'r distrywiwr arnom. “Gosodais di yn safonwr ac yn brofwr ymhlith fy mhobl, i wybod ac i brofi eu ffyrdd.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Jeremeia 6:14-27