Jeremeia 6:14-27
Jeremeia 6:14-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dim ond yn arwynebol y maent wedi iacháu briw fy mhobl, gan ddweud, ‘Heddwch! Heddwch!’—ac nid oes heddwch. A oes arnynt gywilydd pan wnânt ffieidd-dra? Dim cywilydd o gwbl, ac ni allant wrido. Am hynny fe syrthiant gyda'r syrthiedig; yn nydd eu cosbi fe gwympant,” medd yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Safwch ar y ffyrdd; edrychwch, ac ymofyn am yr hen lwybrau. Ple bynnag y cewch ffordd dda, rhodiwch ynddi, ac fe gewch le i orffwys.” Ond dywedasant, “Ni rodiwn ni ddim ynddi.” “Gosodaf wylwyr drosoch,” meddai, “gwrandewch ar sain yr utgorn.” Ond dywedasant, “Ni wrandawn ni ddim.” “Am hynny clywch, genhedloedd, a gwybydd, gynulliad, beth a ddigwydd iddynt. Clyw, wlad, rwyf am ddwyn drwg ar y bobl hyn, ffrwyth eu bwriadau hwy eu hunain. Ni wrandawsant ar fy ngeiriau, a gwrthodasant fy nghyfraith. Pam y cludir i mi thus o Sheba, a chorsen bêr o wlad bell? Nid oes pleser i mi yn eich poethoffrwm, na boddhad yn eich aberth.” Am hynny fe ddywed yr ARGLWYDD, “Rwyf am osod i'r bobl hyn feini tramgwydd a'u dwg i lawr; tadau a phlant ynghyd, cymydog a chyfaill, fe'u difethir.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Wele, y mae pobl yn dod o dir y gogledd; cenedl gref yn ymysgwyd o bellafoedd y ddaear. Gafaelant mewn bwa a gwaywffon, y maent yn greulon a didostur; y mae eu twrf fel y môr yn rhuo, marchogant feirch, a dod yn rhengoedd, fel gwŷr yn mynd i ryfela, yn dy erbyn di, ferch Seion.” Clywsom y newydd amdanynt, a llaesodd ein dwylo; daliwyd ni gan ddychryn, gwewyr fel gwraig yn esgor. Paid â mynd allan i'r maes, na rhodio ar y ffordd, oherwydd y mae gan y gelyn gleddyf, ac y mae dychryn ar bob llaw. Merch fy mhobl, gwisga sachliain, ymdreigla yn y lludw; gwna alarnad fel am unig blentyn, galarnad chwerw; oherwydd yn ddisymwth y daw'r distrywiwr arnom. “Gosodais di yn safonwr ac yn brofwr ymhlith fy mhobl, i wybod ac i brofi eu ffyrdd.
Jeremeia 6:14-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r help maen nhw’n ei gynnig yn arwynebol a gwag. ‘Bydd popeth yn iawn,’ medden nhw; Ond dydy popeth ddim yn iawn! Dylai fod cywilydd arnyn nhw am y fath beth! Ond na! Does ganddyn nhw ddim mymryn o gywilydd. Dŷn nhw ddim yn gwybod beth ydy gwrido! Felly byddan nhw’n cael eu lladd gyda pawb arall. Bydda i’n eu cosbi nhw, a byddan nhw’n syrthio.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dych chi’n sefyll ar groesffordd, felly holwch am yr hen lwybrau – sef y ffordd sy’n arwain i fendith. Ewch ar hyd honno a cewch orffwys wedyn.” Ond ymateb y bobl oedd, “Na, dim diolch!” “Anfonais broffwydi fel gwylwyr i’ch rhybuddio chi. Os ydy’r corn hwrdd yn rhoi rhybudd, rhaid i chi ymateb. Ond roeddech chi’n gwrthod cymryd unrhyw sylw. Felly, chi’r cenhedloedd, gwrandwch ar hyn. Cewch weld beth fydd yn digwydd i’r bobl yma. Gwranda dithau, ddaear. Dw i’n dod â dinistr ar y bobl yma. Bydda i’n talu’n ôl iddyn nhw am eu holl gynllwynio. Dŷn nhw ddim wedi cymryd sylw o beth dw i’n ddweud, ac maen nhw wedi gwrthod beth dw i’n ddysgu iddyn nhw. Beth ydy pwynt cyflwyno thus o Sheba i mi, neu sbeisiau persawrus o wlad bell? Dw i ddim yn gallu derbyn eich offrymau i’w llosgi, a dydy’ch aberthau chi ddim yn plesio chwaith.” Felly, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i’n mynd i osod cerrig o’u blaenau nhw, i wneud i’r bobl yma faglu a syrthio. Bydd rhieni a phlant, cymdogion a ffrindiau yn marw.” Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Gwyliwch! Mae byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd. Mae gwlad gref ym mhen draw’r byd yn paratoi i fynd i ryfel. Mae ei milwyr wedi gafael yn y bwa a’r cleddyf; maen nhw’n greulon a fyddan nhw’n dangos dim trugaredd. Mae sŵn eu ceffylau’n carlamu fel sŵn y môr yn rhuo. Mae eu rhengoedd nhw mor ddisgybledig, ac maen nhw’n dod yn eich erbyn chi, bobl Seion.” “Dŷn ni wedi clywed amdanyn nhw, does dim byd allwn ni ei wneud. Mae dychryn wedi gafael ynon ni fel gwraig mewn poen wrth gael babi. Paid mentro allan i gefn gwlad. Paid mynd allan ar y ffyrdd. Mae cleddyf y gelyn yn barod. Does ond dychryn ym mhobman!” “Fy mhobl annwyl, gwisgwch sachliain a rholio mewn lludw. Galarwch ac wylwch fel petai eich unig blentyn wedi marw – dyna’r golled fwya chwerw! Mae’r gelyn sy’n dinistrio yn dod unrhyw funud!” ARGLWYDD “Jeremeia, dw i am i ti brofi fy mhobl, fel un sy’n profi safon metel. Dw i am i ti eu gwylio nhw, a phwyso a mesur.”
Jeremeia 6:14-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hwy a iachasant friw merch fy mhobl i yn esmwyth, gan ddywedyd, Heddwch, heddwch; er nad oedd heddwch. A ydoedd arnynt hwy gywilydd pan wnelent ffieidd-dra? nid ydoedd arnynt hwy ddim cywilydd, ac ni fedrent wrido: am hynny y cwympant ymysg y rhai a gwympant; yn yr amser yr ymwelwyf â hwynt y cwympant, medd yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Sefwch ar y ffyrdd, ac edrychwch, a gofynnwch am yr hen lwybrau, lle mae ffordd dda, a rhodiwch ynddi; a chwi a gewch orffwystra i’ch eneidiau. Ond hwy a ddywedasant, Ni rodiwn ni ynddi. A mi a osodais wylwyr arnoch chwi, gan ddywedyd, Gwrandewch ar sain yr utgorn. Hwythau a ddywedasant, Ni wrandawn ni ddim. Am hynny clywch, genhedloedd: a thi gynulleidfa, gwybydd pa bethau sydd yn eu plith hwynt. Gwrando, tydi y ddaear; wele fi yn dwyn drygfyd ar y bobl hyn, sef ffrwyth eu meddyliau eu hunain; am na wrandawsant ar fy ngeiriau, na’m cyfraith, eithr gwrthodasant hi. I ba beth y daw i mi thus o Seba, a chalamus peraidd o wlad bell? eich poethoffrymau nid ydynt gymeradwy, ac nid melys eich aberthau gennyf. Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn rhoddi tramgwyddiadau i’r bobl hyn, fel y tramgwyddo wrthynt y tadau a’r meibion ynghyd; cymydog a’i gyfaill a ddifethir. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele bobl yn dyfod o dir y gogledd, a chenedl fawr a gyfyd o ystlysau y ddaear. Yn y bwa a’r waywffon yr ymaflant; creulon ydynt, ac ni chymerant drugaredd: eu llais a rua megis y môr, ac ar feirch y marchogant yn daclus, megis gwŷr i ryfel yn dy erbyn di, merch Seion. Clywsom sôn amdanynt; ein dwylo a laesasant; blinder a’n daliodd, fel gofid gwraig yn esgor. Na ddos allan i’r maes, ac na rodia ar hyd y ffordd: canys cleddyf y gelyn ac arswyd sydd oddi amgylch. Merch fy mhobl, ymwregysa â sachliain, ac ymdroa yn y lludw; gwna i ti gwynfan a galar tost, megis am unig fab: canys y distrywiwr a ddaw yn ddisymwth arnom ni. Mi a’th roddais di yn dŵr ac yn gadernid ymysg fy mhobl, i wybod ac i brofi eu ffordd hwy.